Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 553/2024
Cais
O dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth/Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, hoffwn ofyn am yr wybodaeth ganlynol am y cyfnod rhwng y dyddiadau canlynol:
1 Ionawr 2021 hyd at 31 Rhagfyr 2021 yn gynwysedig
1 Ionawr 2022 hyd at 31 Rhagfyr 2022 yn gynwysedig
1 Ionawr 2023 hyd at 31 Rhagfyr 2023 yn gynwysedig
C1
Yn ystod y cyfnodau, faint o droseddau oedd yn ymwneud â lladd adar ysglyfaethus yn anghyfreithlon?
C2
Pa rywogaethau o adar ysglyfaethus yr ymchwiliwyd iddynt fel rhai a laddwyd?
C3
Yn ystod y cyfnodau hyn, faint o droseddau oedd yn ymwneud ag adar eraill, a pha rywogaethau o adar oeddynt?
C4
Hoffwn i chi ddarparu'r wybodaeth hon ar ffurf e-bost, gan roi'r dyddiad, y math o drosedd, aderyn ysglyfaethus a laddwyd yn anghyfreithlon / aderyn arall a laddwyd yn anghyfreithlon. Y math o aderyn a'r dull drwgdybiedig, os yw'n haws i chi lenwi'r daenlen Excel isod.
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod:
Ymateb C1
3 (manylir isod)
Ymateb C2
Hebog tramor
Gwalch marth
Bwncath
Ymateb C3
0
Ymateb C4
|
Dyddiad |
Trosedd arall yn ymwneud ag adar / adar ysglyfaethus |
Rhywogaethau adar dan sylw |
Dull: dal, gwenwyno, saethu, ac ati |
|
16/10/2021 |
Trosedd yn ymwneud ag adar ysglyfaethus |
Hebog tramor |
Saethwyd |
|
26/03/2022 |
Trosedd yn ymwneud ag adar ysglyfaethus |
Gwalch marth |
Saethwyd |
|
19/09/2022 |
Trosedd yn ymwneud ag adar ysglyfaethus |
Bwncath |
Ni nododd post-mortem achos y farwolaeth |
Dylid nodi, oherwydd y systemau a fabwysiadwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi materion o’r fath, y gallai’r wybodaeth a ddarparwyd fod yn gywir neu beidio. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu hwn i’ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall a gewch.
(Ymateb yw hwn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ac fe’i datgelwyd ar 25 Mehefin 2024)