Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyfeirnod Rhyddid Gwybodaeth: 111/26
Cais:
Ceisiwyd eglurhad: Beth ydych chi’n ei feddwl wrth “adeiladau gwag”, ac a ydych chi’n bwriadu eithrio pob eiddo preswyl, neu a ydych chi’n cyfeirio’n benodol at adeiladau nad ydynt yn rai preswyl neu adeiladau nad ydynt yn cael eu meddiannu?
Derbyniwyd eglurhad: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/SysSiteAssets/media/downloads/dyfed-powys/campaigns/operation-scotney/adnabod-fferm-canabis.pdf - Mae diffiniad wedi’i ddarparu gan yr heddlu fan hyn mewn ymgyrchoedd diweddar. Gan hynny, byddai’n ddefnyddiol iawn derbyn ymateb.
Ymateb 1:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
25 Fferm Ganabis ar Raddfa Fawr
Ymateb 2:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
2022/23 – 9 Fferm Ganabis ar Raddfa Fawr
2023/24 – 23 Fferm Ganabis ar Raddfa Fawr
2024/25 – 34 Fferm Ganabis ar Raddfa Fawr
Ymateb 3:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
Cyfanswm Gwerth Ffermydd Canabis ar Raddfa Fawr ar y Stryd - £18,834,309
Cyfanswm Gwerth Cyfanwerthol Ffermydd Canabis ar Raddfa Fawr - £3,569,490
Amcangyfrif yw’r ffigurau yn seiliedig ar faint o ganabis a atafaelwyd o’r ffermydd canabis ar raddfa fawr.
Ymateb 4:
Gallaf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod.
37
Ymateb 5:
Amcangyfrif yw’r ffigurau yn seiliedig ar faint o ganabis a atafaelwyd o’r ffermydd canabis ar raddfa fawr.
Yn 2023, creodd Heddlu Dyfed-Powys Ymgyrch Scotney. Bregusrwydd Heddlu cyfan wedi’i sgorio/mapio oedd Ymgyrch Scotney, gan ganolbwyntio ar ffermydd canabis ar raddfa fawr. Mae’r ymgyrch wedi bod yn flaenoriaeth ar gyfer y timoedd cyffuriau rhagweithiol lleol ym mhob sir yn yr ardal Heddlu dros y tair blynedd diwethaf, sydd wedi gweld aflonyddu sylweddol. Mae’r ymgyrch wedi gweithio gyda phartneriaid, rhanddeiliaid allweddol a’r cymunedau lleol mewn perthynas ag adnabod yr arwyddion a’r mecanweithiau ar gyfer adrodd am weithgarwch amheus wrth Heddlu Dyfed-Powys a chynyddu gwybodaeth leol am y problemau.
Ymhellach, dylid nodi hefyd ei bod yn ofynnol fel mater o drefn i Heddluoedd yn y Deyrnas Unedig ddarparu ystadegau troseddu i gyrff llywodraethol a bod y meini prawf cofnodi wedi'u pennu'n genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw'r systemau a ddefnyddir i gofnodi'r ffigurau hyn yn rhai generig, ac nid yw'r gweithdrefnau'n cael eu defnyddio'n lleol i gipio'r data. Dylid nodi, am y rhesymau hyn, na ddylid defnyddio ymateb yr Heddlu hwn i'ch cwestiynau at ddibenion cymharu ag unrhyw ymateb arall y gallech ei dderbyn.
(Dyma ymateb o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a ddatgelwyd ar 06/03/2026)