Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
A gaf i ofyn am ddogfennau sy’n ymwneud ag Adnabod Dioddefwyr Trychineb (ADT) os gwelwch chi’n dda? Yn benodol:
Cwestiwn 1:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fodd bynnag, yr ydym yn eithrio’r wybodaeth hon yn rhinwedd Adran 31(a)(b) – Gorfodi’r Gyfraith. Gweler diwedd y ddogfen am esboniad o’r eithriad a weithredwyd os gwelwch chi’n dda.
Cwestiwn 1a:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani. Mae’r manylion fel a ganlyn:
Cwestiwn 2:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fodd bynnag, yr ydym yn eithrio’r wybodaeth hon yn rhinwedd Adran 31(a)(b) – Gorfodi’r Gyfraith. Gweler diwedd y ddogfen am esboniad o’r eithriad a weithredwyd os gwelwch chi’n dda.
Noder: Darparwyd y wybodaeth ganlynol y tu allan i’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth fel arwydd o ewyllys da i’ch cynorthwyo â’ch cais.
Rhaid i bersonél sydd wedi derbyn hyfforddiant Sylfaenol ADT y Coleg Plismona gwblhau hyfforddiant gloywi, sy’n orfodol bob 2 flynedd.
Cwestiwn 3:
Medraf gadarnhau nad oes gwybodaeth yn cael ei dal/wedi’i chofnodi gan Heddlu Dyfed-Powys.
Cwestiwn 4:
Medraf gadarnhau nad oes gwybodaeth yn cael ei dal/wedi’i chofnodi gan Heddlu Dyfed-Powys.
Cwestiwn 5:
Medraf gadarnhau nad oes gan Heddlu Dyfed-Powys ffordd o adolygu adborth (ADT) gan gwsmeriaid.
Noder: Darparwyd y wybodaeth ganlynol y tu allan i’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth fel arwydd o ewyllys da i’ch cynorthwyo â’ch cais.
Mae pob lleoliad gweithredol yn destun ôl-drafod ffurfiol.
_______________________________
Esboniad o’r eithriad a weithredwyd:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fodd bynnag, gweithredwyd eithriad Adran 31(1)(a)(b) Gorfodi’r Gyfraith i’r wybodaeth y gofynnwyd amdani, gan eithrio ei rhyddhau.
Mae Adran 1 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn gosod dwy ddyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus. Oni bai bod eithriadau’n gymwys, y ddyletswydd gyntaf dan Adran 1(1) (a) yw cadarnhau a yw’r wybodaeth a nodir mewn cais yn cael ei dal. Yr ail ddyletswydd dan Adran 1(1) (b) yw datgelu’r wybodaeth sydd wedi’i chadarnhau fel gwybodaeth sy’n cael ei dal.
Lle y dibynnir ar eithriadau, yn ôl adran 17 o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae’n ofynnol inni roi hysbysiad i’r ceisydd sy’n:
Adran 31(1)(a)(b) – Gorfodi’r Gyfraith
(1) Mae gwybodaeth sydd heb ei heithrio yn rhinwedd adran 30 yn wybodaeth eithriedig pe bai ei datgelu o dan y Ddeddf hon yn rhagfarnu, neu’n debygol o ragfarnu -
(a) atal neu ddatrys trosedd
(b) dal neu erlyn troseddwyr
Mae Adran 31 yn eithriad cymwys ar sail rhagfarn, ac o’r herwydd, mae angen darparu manylion am y niwed yn ogystal â’r prawf budd cyhoeddus.
Tystiolaeth o Niwed
O dan y Ddeddf, ni allwn, ac nid ydym, yn gofyn am gymhellion unrhyw un sy’n gwneud cais am wybodaeth. Nid oes gennym unrhyw amheuaeth bod y rhan fwyaf o geisiadau a wneir dan y Ddeddf yn ddilys, ac nad oes gan y ceiswyr unrhyw gymhellion cudd. Fodd bynnag, drwy ddatgelu gwybodaeth i un ceisydd, yr ydym yn mynegi parodrwydd i’w rhoi i unrhyw un yn y byd. Golyga hyn bod datgelu’r wybodaeth i rywun sydd â gwir ddiddordeb ac sydd wir yn poeni’n ei gwneud yn agored i ddatgeliad tebyg, gan gynnwys y rhai a fyddai’n defnyddio’r wybodaeth i ennill mantais dros ein gallu i arfer ein swyddogaeth graidd, sef Gorfodi’r Gyfraith.
Wrth ystyried pa un ai a ddylid datgelu’r wybodaeth hon ai peidio, ystyriwyd y niwed a allai gael ei achosi gan ddatgelu. Mae cyfrifoldeb ar y gwasanaeth heddlu i orfodi’r gyfraith, atal a datrys troseddau, ac amddiffyn y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Gallai rhyddhau unrhyw allu gweithredol o ran nifer y personél sydd wedi derbyn hyfforddiant ADT danseilio’r sefyllfa hwnnw. Mae ADT yn arbenigedd sy’n cael ei ddal gan sawl gwasanaeth heddlu ledled y wlad, mewn niferoedd digonol fel bod modd i bersonél sydd wedi derbyn hyfforddiant ADT ymateb i drychineb ar y raddfa fwyaf. Byddai rhyddhau’r manylion hyn nid yn unig yn datgelu gallu gweithredol Heddlu Dyfed-Powys, ond byddai’n creu effaith fosaig ledled y wlad, gan ddangos meysydd o allu a gwendid. O ganlyniad, gallai’r rhai sy’n dymuno cyflawni gweithredoedd troseddol ddefnyddio’r wybodaeth a gafwyd am feysydd o allu a gwendid o’r datgeliad i’w mantais eu hun, gan arwain at weithgarwch troseddol pellach.
Gellir ond ystyried y byddai datgelu gwybodaeth sy’n debygol o danseilio gallu’r gwasanaeth Heddlu i wasanaethu’r cyhoedd o ran atal a datrys troseddau yn niweidiol i’r cyhoedd.
Prawf Budd Cyhoeddus:
Adran 31 – Ystyriaethau sy’n ffafrio datgelu:
Byddai ffactorau sy’n ffafrio datgelu’r wybodaeth hon yn cynnwys gwell ymwybyddiaeth, ac fe allai leihau trosedd neu arwain at fwy o wybodaeth gan y cyhoedd.
Adran 31 – Ystyriaethau sy’n ffafrio peidio â datgelu:
Fodd bynnag, ffactorau sy’n ffafrio peidio â datgelu yw’r ffaith y byddai’n cyfaddawdu tactegau gorfodi’r gyfraith a gallai mwy o droseddau gael eu cyflawni. Byddai hyn yn effeithio ar adnoddau’r heddlu ac yn rhwystro atal neu ddatrys troseddau ac yn rhoi unigolion mewn perygl.
Prawf Cydbwyso:
Ar ôl ystyried manteision ac anfanteision datgelu, mae’n syrthio ar Heddlu Dyfed-Powys i gynnal prawf cydbwyso ar y materion. Mae angen pwyso a mesur y ddadl gryfaf dros ddatgelu, sef y gallai gwell ymwybyddiaeth leihau trosedd neu arwain at fwy o wybodaeth gan y cyhoedd, yn erbyn y ddadl gryfaf dros beidio â datgelu, sef, yn yr achos hwn, Gorfodi’r Gyfraith yn Effeithiol. Gwaith y Gwasanaeth Heddlu yw atal a datrys troseddau a diogelu’r cyhoedd. Tra bod diddordeb cyhoeddus o ran y ffaith y gallai gwell ymwybyddiaeth leihau trosedd neu arwain at fwy o wybodaeth gan y cyhoedd, mae diddordeb cyhoeddus cryf iawn mewn gwarchod amddiffyn y cyhoedd a’r defnydd effeithiol o adnoddau’r heddlu.
Gan hynny, yn holl amgylchiadau’r achos, mae’r budd cyhoeddus ar gyfer cynnal yr eithriad yn gorbwyso’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth.
___________________________________
Dylid nodi nad yw’r wybodaeth a ryddhawyd o reidrwydd yn gywir o ganlyniad i’r systemau sydd wedi’u mabwysiadu gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas â chofnodi materion o’r fath.