Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cytundeb 1
1. Darparwr Gwasanaethau Llais/Llinellau Cyfredol (Analog, ISDN, Protocol Llais dros y Rhyngrwyd, SIP ac ati) – A fedrwch chi roi enw cyflenwr y cytundeb imi os gwelwch chi’n dda?
2. Llinell Benodedig - Dyddiad Adnewyddu Cytundeb - rhowch ddiwrnod, mis a blwyddyn (mae mis a blwyddyn hefyd yn dderbyniol). Os mai cytundeb treigl yw hwn, rhowch ddyddiad treigl y cytundeb imi os gwelwch chi’n dda. Os oes mwy nag un cyflenwr, rhannwch y dyddiadau adnewyddu i faint bynnag o gyflenwyr sydd.
3. Llinell Penodedig – Hyd y cytundeb – nifer y blynyddoedd y mae gennych gytundeb â phob darparwr.
4. Mathau o Linellau – A fedrwch rannu’r mathau o linellau fesul cyflenwr? PSTN, Analog, SIP
5. Nifer y Llinellau – A fedrwch chi rannu nifer y llinellau fesul cyflenwr os gwelwch chi’n dda? Llinellau SIP, Llinellau PSN, Llinellau Analog
Cytundeb 2
6. Cofnodion/Darparwr Llinell Tir – Enw’r cyflenwr (NID ffonau symudol). Os nad oes gwybodaeth ar gael, a fedrwch chi roi mewnwelediad pellach i’r rheswm pam os gwelwch chi’n dda?
7. Dyddiad Adnewyddu Llinell Tir/Cofnodion - rhowch ddiwrnod, mis a blwyddyn (mae mis a blwyddyn hefyd yn dderbyniol). Os mai cytundeb treigl yw hwn, rhowch ddyddiad treigl y cytundeb imi os gwelwch chi’n dda
8. Cofnodion Gwariant Misol Llinell Tir- Gwariant misol ar gyfartaledd ar alwadau ar gyfer pob darparwr. Mae amcangyfrif neu gyfartaledd yn dderbyniol.
9. Cofnodion Hyd Cytundeb Llinellau Tir: nifer y blynyddoedd y mae cytundeb wedi’i ddal gyda’r cyflenwr.
10. Nifer yr Estyniadau – Nodwch nifer yr estyniadau ffôn sydd gan y sefydliad ar hyn o bryd. Mae amcangyfrif neu gyfartaledd yn dderbyniol.
Cytundeb 3
11. Darparwr Band Eang Sefydlog - Enw’r cyflenwr. Os nad oes gwybodaeth ar gael, a fyddech gystal â dweud pam os gwelwch chi’n dda?
12. Dyddiad Adnewyddu Band Eang Sefydlog - rhowch ddiwrnod, mis a blwyddyn (mae mis a blwyddyn hefyd yn dderbyniol). Os mai cytundeb treigl yw hwn, rhowch ddyddiad treigl y cytundeb imi os gwelwch chi’n dda. Os oes mwy nag un cyflenwr, rhannwch y dyddiadau adnewyddu yn ôl nifer y cyflenwyr.
13. Gwariant Cyfartalog Blynyddol ar Fand Eang Sefydlog. Mae amcangyfrif neu gyfartaledd yn dderbyniol.
Cytundeb 4
14. Darparwr WAN – rhowch enw’r prif gyflenw(y)r imi os gwelwch chi’n dda. Os nad oes gwybodaeth ar gael, a fyddech gystal â dweud pam os gwelwch chi’n dda.
15. Dyddiad Adnewyddu Cytundeb WAN - rhowch ddiwrnod, mis a blwyddyn (mae mis a blwyddyn hefyd yn dderbyniol). Os mai cytundeb treigl yw hwn, rhowch ddyddiad treigl y cytundeb imi os gwelwch chi’n dda. Os oes mwy nag un cyflenwr, rhannwch y dyddiadau adnewyddu yn ôl nifer y cyflenwyr.
16. Disgrifiad o’r Cytundeb: A fyddech gystal â rhoi disgrifiad byr o’r cytundeb imi os gwelwch chi’n dda?
17. Nifer y safleoedd: Nodwch nifer y safleoedd y mae’r WAN yn eu cynnwys. Bydd amcangyfrif yn gwneud y tro.
18. Gwariant Blynyddol Cyfartalog ar WAN – Cyfartaledd blynyddol ar gyfer pob darparwr WAN. Mae amcangyfrif neu gyfartaledd yn dderbyniol.
19. Ar gyfer pob cytundeb WAN, a fyddech gystal â rhoi gwybodaeth imi ynglŷn â’r ffordd y cafodd ei gaffael os gwelwch chi’n dda, yn arbennig o gwmpas caffael a ddefnyddiodd fframweithiau, a rhowch gyfeirnod y fframwaith imi os gwelwch chi’n dda.
20. Cyswllt Mewnol: Os gwelwch chi’n dda, a fedrwch roi manylion cyswllt llawn ar gyfer yr holl gytundebau uchod os gwelwch chi’n dda, gan gynnwys rhif cyswllt a chyfeiriad e-bost.