Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gennyf ddiddordeb mewn deall pa mor eang yw’r defnydd o integreiddio data a dadansoddeg technoleg yn eich heddlu.
A fedrwch chi ddarparu gwybodaeth mewn ymateb i’r cwestiynau canlynol o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth?
1. Faint o bobl sy’n cael eu cyflogi gan eich heddlu?
2. A yw’ch gwasanaeth heddlu’n defnyddio dadansoddeg data ar hyn o bryd? Os felly, cadarnhewch ar gyfer pob achos defnydd:
o Rhagweld troseddau
o Rheoli troseddwyr
o Dadansoddeg rhagfynegi
o Rheoli adnoddau dynol
o Dadansoddiad canolfan alwadau
o Geo-fapio troseddau
o Arall (nodwch os gwelwch chi’n dda)
o Nid ydym yn defnyddio dadansoddeg
3. Os yw’ch sefydliad yn defnyddio dadansoddeg, cadarnhewch sawl gweithiwr o fewn eich gwasanaeth heddlu sydd â mynediad at feddalwedd dadansoddeg data ar gyfer ei rôl.
4. Sut mae dangosfyrddau a datrysiadau dadansoddeg ar gael i weithwyr (dewiswch bob un sy’n berthnasol)?:
o Cyfrifiaduron pen desg
o Dyfeisiau symudol (ffonau deallus, llechi)
o Terfynellau data symudol mewn cerbydau
o Sgriniau arddangos mewn swyddfeydd
5. Dewiswch pa rolau o fewn eich gwasanaeth heddlu sydd â mynediad at feddalwedd dadansoddeg data (dewiswch bob un sy’n berthnasol):
o Swyddogion Heddlu
o Ditectifs
o Swyddogion Cefnogi Cymunedol
o Adnoddau Dynol
o Trinwyr/Rheolwyr Galwadau
o Dadansoddydd Trosedd
o Uwch Arweinwyr (Prif Gwnstabl, Prif Uwch-arolygydd ac ati)
o Dadansoddeg/Cudd-wybodaeth Busnes
o Arall (nodwch os gwelwch chi’n dda)