Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Hoffwn ddeall y wybodaeth ganlynol ynglŷn â'ch defnydd o ddata o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
1. Os yw'ch sefydliad yn defnyddio meddalwedd dadansoddi data, cadarnhewch a gafodd apiau/dangosfyrddau pwrpasol eu creu i gefnogi ymateb eich heddlu i'r pandemig. Os felly, nodwch pa apiau achosion defnydd a ddatblygwyd:
o Rhagweld troseddau
o Geo-fapio troseddau
o Achosion lleol yn y gymuned o Covid-19
o Achosion gweithwyr o Covid-19
o Ynysu gweithwyr
o Dadansoddi data ragfynegol
o Arall, nodwch
o Ni wnaethom greu apiau/dangosfyrddau pwrpasol
o Nid ydym yn defnyddio meddalwedd dadansoddi data
2. Oes gan y feddalwedd dadansoddi data’r gallu i ddysgu?
3. A yw'ch Heddlu'n rhan o rwydwaith integredig amlasiantaethol sy'n rhannu data i'w ddadansoddi â sefydliadau eraill yn y rhwydwaith hwn? Os felly, cadarnhewch pa asiantaethau rydych chi'n rhannu data â nhw (er enghraifft, heddluoedd eraill, ysbytai, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau tân, ac ati)
4. Oes gennych chi raglen dysgu llythrennedd data? Os felly, faint o weithwyr yn eich heddlu sy'n cymryd rhan mewn hyfforddiant llythrennedd data?
5. Pa swyddi sy’n defnyddio rhaglen dysgu llythrennedd data yn eich llu? (dewiswch y rhai sy’n berthnasol)
o Swyddogion Heddlu
o Ditectifs
o Swyddogion Cymorth Cymunedol
o Adnoddau Dynol
o Rheolwyr/Trinwyr Galwadau
o Dadansoddwyr Troseddol
o Uwch Arweinwyr (Prif Gwnstabl, Prif Uwcharolygydd, ag ati)
o Cudd-wybodaeth Busnes/Dadansoddi
o Arall, nodwch