Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
A fedrith Tîm Rhyddid Gwybodaeth yr Heddlu roi data o ran y cwestiynau canlynol ar gyfer 2019-2020?
(1) O 1 Ionawr 2019-2020 hyd heddiw, faint o bobl sydd wedi eistedd fel aelodau ar grwpiau Ymgynghorol Annibynnol?
(2) O 1 Ionawr 2019-2020 hyd heddiw, faint o bobl o ethnigrwydd De Asiaidd sydd wedi eistedd fel aelodau ar Grwpiau Ymgynghorol Annibynnol?
(3) A fedrwch chi roi crynodeb o’r rhai a nodwyd yn yr ateb i’r ail gwestiwn yn ôl nifer yr aelodau De Asiaidd benywaidd a gwrywaidd o Grŵp Ymgynghorol Annibynnol ers 1 Ionawr 2019-2020?
(4) Sawl Grŵp Ymgynghorol Annibynnol sydd gan eich heddlu ar hyn o bryd, ac a fedrwch chi roi manylion imi am eu diben?
(5) A oes gennych unrhyw Grwpiau Ymgynghorol Annibynnol penodol sy’n ymdrin â materion De Asiaidd? Megis Grwpiau Ymgynghorol Annibynnol sydd wedi’u sefydlu mewn mosgiau a themlau.
(6) A yw pob aelod o’r Grŵp Ymgynghorol Annibynnol yn derbyn gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan eich heddlu?
(7) Beth yw’r broses fetio?
Adran 2: Cwestiynau pellach
A fedrith y Tîm Rhyddid Gwybodaeth ddarparu’r wybodaeth ganlynol mewn ymateb i’r cwestiynau isod?
(1) A yw’r heddlu’n dilyn unrhyw ganllawiau neu weithdrefnau wrth geisio arweiniad gan Grwpiau Ymgynghorol Annibynnol neu aelodau o gwmpas materion sy’n benodol ar gyfer cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig? Er enghraifft, cydlyniad cymunedol, trais ar sail anrhydedd, priodasau dan orfod ac ati. Os felly, datgelwch gopi o bob dogfen berthnasol ar gyfer y canllawiau a’r gweithdrefnau hyn os gwelwch chi’n dda.
(2) A oes angen i aelodau’r Grŵp Ymgynghorol Annibynnol lofnodi cytundebau cyfrinachedd neu ddiffyg datguddio? Os felly, a yw hyn yn wirfoddol neu’n orfodol?
(3) A oes angen i aelodau’r Grŵp Ymgynghorol Annibynnol ddatgan unrhyw
wrthdaro o ran buddiannau ar faterion yr ymgynghorir â nhw amdanynt?