Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ysgrifennaf cais Rhyddid Gwybodaeth am ddaliadau adran 135 a 136 o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi'r wybodaeth ganlynol imi.
Gofynnwyd am esboniad:
A allwch roi esboniad neu ddiffiniad o’u barn o’r term ‘argyfwng iechyd meddwl’
Esboniad:
Yn yr achos hwn, y diffiniad o argyfwng iechyd meddwl fyddai unrhyw sefyllfa lle gall gweithredoedd, teimladau ac ymddygiadau unigolyn arwain atynt yn brifo eu hunain neu eraill, a / neu eu rhoi mewn perygl o fethu â gofalu amdanynt eu hunain na gweithredu ynddynt y gymuned mewn modd iach.
Er enghraifft, meddyliau hunanladdol, hunan-niweidio, pyliau o mania neu seicosis, er y byddwn yn defnyddio a.135 a 136 o'r Ddeddf Iechyd Meddwl fel canllaw.
Ymatebion i gwestiynnau(C) 1-4:
Medraf gadarnhau bod Heddlu Dyfed-Powys yn dal y wybodaeth y gofynnwyd amdani, fel yr amlinellir isod:
C1 | C2 | C3 | C4 | |
Adeg |
Nifer y personau a gedwir |
Nifer y personau yn dioddef argyfwng iechyd meddwl |
Hyd y cadw ar gyfartaledd (A:MM:EE)* |
Nifer o ddigwyddiadau cysylltiedig (iechyd meddwl) |
2018-19 |
3 |
2 |
24:03:42 |
414 |
2019-20 |
9 |
7 |
08:52:17 |
745 |
2020-21 |
2 |
2 |
00:21:10 |
976 |
* Ni gadwyd unrhyw unigolion am yr uchafswm o 36 awr (sero – 0).
Ymateb i gwestiwn 5:
Medraf gadarnhau nad oes unrhyw wybodaeth gan Heddlu Dyfed-Powys gan na dderbyniwyd unrhyw arian gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chynlluniau brysbennu iechyd meddwl am y cyfnod o amser y gofynnwyd amdano.
___________________________________
O ganlyniad i’r systemau y mae Heddlu Dyfed-Powys wedi’u mabwysiadu mewn perthynas â chofnodi gwybodaeth o’r fath, dylid nodi bod posibilrwydd nad yw’r wybodaeth a ryddhawyd yn gywir.
Yn ogystal, dylid nodi bod yn rhaid i heddluoedd y Deyrnas Unedig roi ystadegau trosedd i gyrff llywodraethol yn rheolaidd, ac mae’r meini prawf wedi’u gosod yn genedlaethol. Fodd bynnag, nid yw’r systemau a ddefnyddir ar gyfer cofnodi’r ffigurau hyn, na’r gweithdrefnau a ddefnyddir yn lleol wrth gipio’r data trosedd, yn generig. Am y rhesymau hyn, dylid nodi na ddylid defnyddio ymateb yr heddlu i’ch cwestiynau ar gyfer dibenion cymharu gydag unrhyw ymateb arall yr ydych wedi’i dderbyn.