Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
I ddiben y polisi hwn, term ymbarél yw ‘Traws’ i ddisgrifio pobl nad yw eu rhywedd yn nodweddiadol yn cyd-fynd, neu'r un peth, â'r categori rhyw y rhoddwyd nhw ynddo adeg eu geni. Gall pobl draws ddefnyddio un neu fwy o blith amrywiaeth eang o dermau i ddisgrifio eu hunain, gan gynnwys (ymhlith termau eraill) trawsryweddol, trawsrywiol, rhywedd cwiar, rhyweddhylifol, anneuaidd, rhywedd-amrywiadol, croeswisgwr, anrhywedd, diryw, rhyngryw, dirywedd, trydydd rhywedd, deuysbrydol, deurywedd, dyn traws, menyw draws, traws gwrywaidd, traws benywaidd traws a rhywedd niwtral.
Ceir rhestr lawn o derminoleg yng ngeirfa Stonewall.
I ddiben y polisi hwn, bydd y term ‘staff’ yn cynnwys staff, swyddogion, Cwnstabliaid Gwirfoddol a Gwirfoddolwyr.
Mae’r polisi hwn, ynghyd â’r dogfennau gweithdrefnau cysylltiedig, yn rhoi fframwaith i reolwyr llinell a staff[1] ddilyn mewn perthynas ag ystyriaethau y mae angen eu gwneud a chamau gweithredu i’w cymryd pan mae pobl o fewn y broses recriwtio neu yn ystod eu cyflogaeth yn nodi eu bod yn drawsryweddol. Mae’r polisi hwn yn ymwneud â materion megis cofnodion personol, lifrai, cardiau gwarant/pasiau a thystysgrifau cydnabod rhywedd.
Nid yw’r polisi hwn a’r dogfennau gweithdrefnau cysylltiedig yn darparu gwybodaeth fanwl mewn perthynas â phrosesu neu chwilio carcharorion sy’n cyflwyno eu hunain neu sy’n adnabod eu hunain fel pobl Draws gan fod Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (PACE) yn llywodraethu’r gofynion hyn. Ceir Cymorth Cof ar fewnrwyd yr Heddlu sy’n darparu canllawiau pellach yn hyn o beth.
[1] I ddiben y polisi hwn, bydd y term ‘staff’ yn cynnwys staff, swyddogion, Cwnstabliaid Gwirfoddol a Gwirfoddolwyr
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr), staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae’r polisi hwn a’r dogfennau gweithdrefnau cysylltiedig yn darparu canllawiau penodol i reolwyr llinell eu dilyn yn y gweithle o ran rheoli a chefnogi aelodau staff Traws. Maen nhw hefyd yn nodi’r cymorth sydd ar gael i aelodau staff Traws, a’u hawliau yn ystod y broses ymgeisio ac yn ystod eu cyflogaeth.
Mae gan bob aelod staff gyfrifoldeb cyffredinol i sicrhau eu bod yn ymgyfarwyddo â chynnwys y polisi hwn ac yn cydymffurfio â’r gofynion penodol.
Y nodau penodol yw:
Deddf Hawliau Dynol 1998
Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, yn benodol, Erthygl 8, hawl i barch tuag at fywyd teulu preifat, ac Erthygl 10, rhyddid mynegiant, yn berthnasol iawn ar gyfer cyflogi pobl draws. Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn creu gofyniad statudol ar gyfer darllen pob deddfwriaeth a’i gweithredu mewn ffordd sy’n gydnaws â’r confensiwn. Gan hynny, mae’r Hawliau Confensiwn yn debygol o gael blaenoriaeth mewn unrhyw ymchwiliad dilynol i’r rheswm dros wneud rhywbeth mewn ffordd benodol.
Deddf Cydraddoldeb 2010
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon gwahaniaethu ar y sail bod unigolyn yn bwriadu ailbennu ei rywedd, wrthi’n ailbennu ei rywedd, neu wedi ailbennu ei rywedd. Mae hyn yn cwmpasu pob agwedd o gyflogaeth, gan gynnwys prosesau recriwtio a dethol, buddion sy’n gysylltiedig â chyflogaeth, a chyfleusterau, gan gynnwys hyfforddiant, datblygiad gyrfa a geirdaon.
Mae’r ddeddf yn cynnig amddiffyniad rhag gwahaniaethu uniongyrchol a gwahaniaethu anuniongyrchol, diogelwch rhag aflonyddu, diogelwch rhag erledigaeth, ac amddiffyniad o ran cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith i drawsnewid.
Deddf Cydnabod Rhywedd 2004
Cyflwynodd y Ddeddf Cydnabod Rhywedd (DCRh) ddarpariaethau datgelu y mae gan holl aelodau staff Heddlu Dyfed-Powys ddyletswydd gyfreithiol i gydymffurfio â nhw hefyd. Mae’r Ddeddf yn gwahardd datgelu unrhyw wybodaeth warchodedig a gafwyd yn swyddogol mewn perthynas â chais rhywun ar gyfer caniatáu Tystysgrif Cydnabod Rhywedd. Rhaid parchu hawl unigolyn i breifatrwydd, gan gynnwys mewn perthynas â chofnodion personol sy’n cael eu cadw ar aelodau staff presennol neu aelodau staff posibl. Gan hynny, rhaid cydymffurfio â darpariaethau’r polisi hwn er mwyn atal datgelu gwybodaeth warchodedig heb ganiatâd yr unigolyn. Mae’r Ddeddf yn creu tramgwydd troseddol os yw’r wybodaeth yn cael ei datgelu’n amhriodol. Ni ddylid gofyn i unigolion ddatgelu pa un ai a ydynt yn dal Tystysgrif Cydnabod Rhywedd ai peidio.
Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984
Mae adrannau 1, 54 a 55 PACE a Chod A y Codau Ymarfer yn amlinellu pwerau
mewn perthynas â chwilio unigolyn, ac mae hyn yn berthnasol i’r chwiliadau y gallai unigolyn Traws sydd heb Dystysgrif Cydnabod Rhywedd eu cynnal, neu beidio â’u cynnal.
Mewnol
Gall y Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a’r Gymraeg gynorthwyo ag unrhyw ymholiadau. Gall Swyddogion AD (naill ai yn yr adran leol neu'r pencadlys) hefyd gefnogi fel pwyntiau cyswllt.
Er mwyn sicrhau effeithiolrwydd y polisi hwn, bydd yn cael ei adolygu’n flynyddol, gan ystyried unrhyw heriau i’r polisi ac unrhyw newidiadau i ddeddfwriaethau a chanllawiau cenedlaethol.
Gweithredwyd y polisi hwn i ddechrau ym mis Medi 2010, ac yn dilyn ei adolygiad diweddaraf, cafodd ei ddiwygio ym mis Ebrill 2024. Bydd yn cael ei adolygu eto ym mis Ebrill 2025.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Medi 2024