Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Chwythu'r chwiban yw'r term a ddefnyddir pan fydd unigolyn yn trosglwyddo gwybodaeth am gamwedd. Yn y polisi hwn, cyfeirir at hyn fel “datgeliad” neu “chwythu’r chwiban”. Ni fydd y camwedd bob amser yn rhywbeth y mae swyddog, aelod o staff neu wirfoddolwr wedi'i weld yn y gwaith neu yn ystod ei ddyletswyddau.
Mae gan chwythwr chwiban sy’n gwneud datgeliad gwarchodedig ar lafar, drwy e-bost neu’n ysgrifenedig yn unol â’r ddeddfwriaeth, amddiffyniad cyfreithiol rhag niwed, diswyddo neu ddileu swydd.
Mae cyfraith chwythu'r chwiban i'w chael yn Neddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (fel y'i diwygiwyd gan Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998). Er mwyn cael ei amddiffyn gan gyfraith chwythu’r chwiban, rhaid i unigolyn sy’n gwneud datgeliad gredu’n rhesymol mewn dau beth -
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr llawn amser, rhan amser, parhaol, gweithwyr am gyfnod penodol, gweithwyr dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, partneriaid a chontractwyr) neu staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i, ac yn amddiffyn y canlynol –
3. Pwerau a Pholisi / Gofynion Cyfreithiol
Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998)
Deddf Cydraddoldeb 2010
Rheoliadau'r Heddlu
Rheoliadau Cwnstabliaid Gwirfoddol 1965
Rheoliadau Cwnstabliaid Gwirfoddol (Diwygio) 2012
Gweithdrefn Chwythu'r Chwiban Heddlu Dyfed-Powys
Cyfrifoldeb allweddol i swyddogion a staff yw herio neu adrodd am ymddygiad amhriodol ac mae'r heddlu wedi ymrwymo i gefnogi unigolion sy'n adrodd am bryderon o'r fath.
Gellir gwneud datgeliadau mewn nifer o ffyrdd –
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i hyrwyddo’r deg safon ymddygiad proffesiynol, ynghyd â’r Cod Moeseg a’r egwyddorion plismona sydd ynddo.
Mae'r rhain yn berthnasol i'r holl swyddogion, staff a gwirfoddolwyr.
Cyfrifoldeb Heddlu Dyfed-Powys
Mae'n arfer da creu amgylchedd gwaith agored, tryloyw a diogel lle mae swyddogion a staff yn teimlo y gallant adrodd am bryderon. Er nad yw’r gyfraith yn mynnu bod gan heddluoedd bolisi chwythu’r chwiban ar waith, mae bodolaeth polisi chwythu’r chwiban yn dangos yn glir ymrwymiad Dyfed-Powys i wrando ar bryderon ei swyddogion a’i staff. Drwy gael polisïau a gweithdrefnau clir ar gyfer delio â chwythu'r chwiban, gall yr heddlu ddangos ei fod yn croesawu bod gwybodaeth yn cael ei dwyn i sylw'r rheolwyr. Mae hyn hefyd yn cael ei ddangos gan y canlynol:
1. Diwylliant sefydliadol
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cefnogi diwylliant agored a chefnogol, lle dylai swyddogion, staff a gwirfoddolwyr fod yn hyderus wrth wneud datgeliad heb ofni’r canlyniadau.
Y ddau brif rwystr y mae chwythwyr chwiban yn eu hwynebu yw ofn dial o ganlyniad i wneud datgeliad ac na fydd unrhyw gamau’n cael eu cymryd os byddant yn gwneud y penderfyniad i ‘chwythu’r chwiban’. Felly, sicrhau bod swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr yn gallu mynd at reolwyr gyda’u pryderon yw’r cam pwysicaf wrth greu diwylliant agored.
Mae'r heddlu wedi ymrwymo i ddangos, trwy arweiniad gweladwy ar bob lefel o'r sefydliad, ei fod yn croesawu ac yn annog swyddogion, staff a gwirfoddolwyr i wneud datgeliadau.
Yr ethos sy'n sail i'r polisi hwn yw pan fo swyddog, aelod o staff neu wirfoddolwr yn adrodd am bryder, bydd yn cael ei werthfawrogi a’i gefnogi drwy gydol y broses.
Bydd yr heddlu yn gweithredu hyfforddiant, mentora, cyngor a systemau cefnogi eraill i sicrhau bod swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yn gallu mynd at amrywiaeth o bobl yn y sefydliad yn hawdd a bod yn hyderus y cânt eu cefnogi.
Mae’r heddlu wedi ymrwymo i ‘weithio i wella’ cyn gynted â phosibl lle bo hynny’n bosibl ac yn briodol. Yn y mwyafrif o achosion bydd y ffocws ar ddatrys unrhyw gamwedd mewn modd amserol a chymesur a fydd o fudd i’r partïon i gyd.
Mae’r egwyddorion canlynol yn y Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn -
Bydd y polisi'n cael ei adolygu bob 24 mis neu'n gynt os bydd newid mewn deddfwriaeth berthnasol neu ganllawiau cenedlaethol. Bydd y polisi hwn yn cael ei oruchwylio gan y Bwrdd Pobl, Diwylliant a Moeseg.
Mae'r Adran Safonau Proffesiynol, mewn ymgynghoriad â'r Gwasanaethau Cyfreithiol, yn asesu effeithiolrwydd y polisi yn barhaus drwy, er enghraifft, edrych ar achosion lle caiff ei ddefnyddio.
I gael rhagor o wybodaeth am y polisi cysylltwch â naill ai'r Adran Safonau Proffesiynol neu'r Gwasanaethau Cyfreithiol.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Tachwedd 2024