Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
1. Datganiad Polisi
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod y gall fod achlysuron pan mae swyddogion a staff eisiau cymryd seibiant o’r gwaith am resymau personol. Mae’r heddlu wedi ymrwymo i gefnogi swyddogion a staff i sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith sydd o fudd i’r sefydliad a’r unigolyn.
Rhaid gweithredu’r polisi hwn yn deg, cyfartal a chyson ar gyfer pob swyddog heddlu ac aelod staff, heb ystyried oed, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol neu unrhyw sail anghyfiawnadwy arall.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o weithwyr Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr llawn-amser, rhan-amser, parhaol, gweithwyr am gyfnod penodol, gweithwyr dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, partneriaid a chontractwyr) neu staff ar secondiad. Rhaid i unrhyw weithiwr sy’n cyrchu ac yn defnyddio asedau ac eiddo’r Heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
2. Cwmpas y Polisi
Mae’r polisi hwn yn disodli’r holl bolisïau seibiant gyrfa blaenorol ac yn berthnasol ar gyfer swyddogion a staff yr heddlu.
Nid yw’r polisi hwn yn ffurfio rhan o delerau ac amodau cyflogaeth staff ac mae’n agored i newid yn ôl disgresiwn rheolwyr.
Cyfnod estynedig i ffwrdd o’r gweithle heb dâl yw seibiant gyrfa. Rhoddir manylion am fathau eraill o absenoldebau yn y polisi Absenoldeb ar gyfer Rhesymau Personol a Theuluol ac Absenoldebau Arbennig Eraill. Mae Seibiannau Gyrfa ar gael i swyddogion ac aelodau staff sydd â dwy flynedd o wasanaeth parhaus gyda Heddlu Dyfed-Powys ac sydd wedi cwblhau eu cyfnod prawf yn llwyddiannus.
Caiff seibiant gyrfa fod am isafswm cyfnod o flwyddyn ac uchafswm cyfnod o 5 mlynedd. Dylid cyflwyno cais am seibiant gyrfa o leiaf tri mis cyn y dyddiad y bwriedir cychwyn y seibiant gyrfa, oni bai bod sail amlwg ar gyfer llai o rybudd yn ôl yr amgylchiadau, e.e. rhesymau personol brys.
Unwaith y bydd seibiant gyrfa wedi’i gwblhau, ni ellir caniatáu seibiant gyrfa pellach am ddwy flynedd o leiaf o’r dyddiad y mae’r swyddog neu’r aelod staff yn dychwelyd i’r gwaith. Fodd bynnag, gellir gwneud estyniad, hyd at yr uchafswm o 5 mlynedd, yn ystod seibiant gyrfa.
Ni fydd cyfanswm y cyfnod seibiant gyrfa a ganiateir yn ystod gwasanaeth llawn yn fwy na 5 mlynedd.
Pan fydd cais am seibiant gyrfa’n cael ei wrthod, ni all yr ymgeisydd ailymgeisio o fewn 6 mis o’r penderfyniad.
Os yw cais yn cael ei gymeradwyo, ni fydd angen i’r ymgeisydd ymddiswyddo er mwyn ymgymryd â’r seibiant gyrfa. Fodd bynnag, effeithir ar fanteision cynllun pensiwn galwedigaethol ac unrhyw hawliau statudol neu gytundebol eraill sy’n dibynnu ar hyd gwasanaeth. Mewn gwirionedd, bydd cyfnod gwasanaeth parhaus y gweithiwr yn eithrio hyd y seibiant gyrfa.
3. Gofynion Cyfreithiol/Polisi a Phwerau
Crëwyd y polisi hwn yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau ar ôl ymgynghori â chymdeithasau staff a rhwydweithiau cymorth.
Cwblhawyd ffurflen Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb.
Mae’r darpariaethau ar gyfer Seibiannau Gyrfa ar gyfer Swyddogion Heddlu wedi’u cynnwys o fewn Rheoliadau’r Heddlu 2003, Rheoliad 33, a Dyfarniadau (2007) Atodiad 00.
4. Dewisiadau a Chynlluniau Wrth Gefn
Nodir cyfrifoldebau unigolion a rheolwyr yn glir yn y ddogfen ganllaw Seibiant Gyrfa.
Mae egwyddorion Atebolrwydd, Tegwch, Gonestrwydd, Unplygrwydd, Arweinyddiaeth, Gwrthrychedd, Didwylledd, Parch ac Anhunanoldeb y Cod Moeseg i gyd yn berthnasol.
5. Gweithredu ac adolygu.
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu’n rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod dal yn berthnasol, a cheisir adborth gan randdeiliaid allweddol a’r gwasanaeth heddlu ehangach.
Bydd unrhyw adborth neu anfodlonrwydd â’r polisi’n cael ei gofnodi a’i drafod gyda’r perchennog polisi a bydd camau priodol yn cael eu cymryd.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Tachwedd 2023