Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd â’r ddogfen ganllaw Absenoldeb ar gyfer Rhesymau Personol a Theuluol ac Absenoldebau Arbennig Eraill.
Nod y Polisi hwn yw cyfuno gwybodaeth am hawliau o ran amser i ffwrdd ac absenoldebau y cyfeirir atynt fel arall ar wahân mewn dogfen bolisi, amodau gwasanaeth a rheoliadau’r heddlu. Dylai hyn gynorthwyo rheolwyr a staff i adnabod hawliau o ran amser i ffwrdd ac absenoldebau’n gyflym.
Mae’n berthnasol i’r canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, tymor penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, contractwyr a chymdeithion) staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Dylai swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yr Heddlu sy’n cael mynediad at asedau ac eiddo’r Heddlu ac sy’n eu defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod bod yn rhaid i lawer o’i weithwyr gydbwyso gofynion gweithio ar gyfer y Gwasanaeth Heddlu â’u hymrwymiadau cartref/teuluol.
Mae’r polisi hwn yn crynhoi’r mathau gwahanol o absenoldebau ac amser i ffwrdd o’r gwaith y mae gan swyddogion a staff yr hawl iddynt.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i Swyddogion a Staff. Nid yw’n ffurfio rhan o delerau ac amodau cyflogaeth, a gall newid yn ôl disgresiwn Prif Swyddogion.
2.1 Mae categorïau Absenoldeb Teuluol a Phersonol yn cynnwys: -
2.2. Categorïau absenoldeb eraill, gan gynnwys y canlynol: -
2.3 Categorïau Absenoldeb Arbennig, gan gynnwys y canlynol: -
Mae’r polisi hwn wedi’i greu yn unol â chanllawiau a deddfwriaethau cyfraith cyflogaeth ac ar ôl ymgynghori â chymdeithasau staff a rhwydweithiau cymorth.
Mae ffurflen Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi’i gwblhau.
Mae’r dogfennau mewnol canlynol yn ymwneud yn uniongyrchol â’r polisi hwn: -
Mae’r Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn a’r ddogfen ganllaw gysylltiedig.
Mae angen y canlynol ar gyfer plismona moesegol -
Mae'r polisi hwn yn anelu i gefnogi cyflenwi Ein Cynllun a'n Llw Diwylliant.
Bydd yr adran Datblygu Pobl a’r Sefydliad yn monitro’r polisi hwn a’r ddogfen ganllaw gysylltiedig ac yn ei adolygu yn gyson.
Bydd y dogfennau’n cael eu monitro er mwyn sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y diben, newidiadau i ddeddfwriaethau a chanllawiau cenedlaethol ac unrhyw heriau i’r polisi.
Bydd unrhyw ddiwygiadau i’r polisi hwn a’r ddogfen ganllaw gysylltiedig yn cael eu cwblhau gan yr adran Datblygu Pobl a’r Sefydliad a’u gweithredu drwy’r Bwrdd Pobl, Diwylliant a Moeseg.
Diben y polisi hwn yw cyfuno hawl ar gyfer amser i ffwrdd ac absenoldebau er mwyn darparu cysondeb ar gyfer staff a rheolwyr.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Gorffennaf 2025