Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i gefnogi swyddogion a staff sy’n rhieni, neu sydd ar fin dod yn rhieni, a hyrwyddo cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.
Amcan y polisi hwn a’r ddogfen weithdrefn gysylltiedig yw nodi hawliau statudol swyddogion a staff yr heddlu o ran absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth a Mabwysiadu.
Mae yna wahaniaethau rhwng hawliau swyddogion a staff yr heddlu, a thynnir sylw at hyn lle bo’n berthnasol.
Mae’n berthnasol i’r canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, tymor penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, contractwyr a chymdeithion) staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Dylai swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yr Heddlu sy’n cael mynediad at asedau ac eiddo’r Heddlu ac sy’n eu defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i swyddogion a staff yr heddlu sy’n bodloni meini prawf cymhwysedd perthnasol.
Mae’r polisi hwn wedi’i greu yn unol â’r deddfwriaethau isod, canllawiau ac ar ôl ymgynghori â chymdeithasau staff a rhwydweithiau cymorth.
Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu – Canllawiau Cymorth Teulu’r Heddlu 2021
Mae’r polisïau mewnol a’r dogfennau canllaw perthnasol yn cynnwys:
Mae ffurflen Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi’i chwblhau.
Nodir cyfrifoldebau unigolion a rheolwyr yn glir yn y ddogfen ganllaw ar gyfer Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth a Mabwysiadu.
Dyma’r egwyddorion Cod Moeseg sy’n berthnasol i’r polisi hwn: -
Mae'r polisi hwn yn anelu i gefnogi cyflenwi Ein Cynllun a'n Llw Diwylliant.
Adolygir y polisi hwn a’r ddogfen weithdrefnau gysylltiedig gan yr adran Datblygu Pobl a’r Sefydliad bob tair blynedd er mwyn sicrhau eu bod yn effeithiol ac yn addas ar gyfer y diben, unrhyw newidiadau i ddeddfwriaethau a/neu ganllawiau cenedlaethol ac unrhyw heriau i’r dogfennau.
Gweithredir unrhyw ddiwygiadau i’r polisi neu’r ddogfen weithdrefn drwy’r Bwrdd Pobl, Diwylliant a Moeseg.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mehefin 2025