Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nod y polisi hwn yw gosod hawliau statudol staff i absenoldeb rhiant a rennir. Mae absenoldeb rhiant a rennir yn ffordd newydd i rieni rannu eu cyflog a’u habsenoldeb statudol yn dilyn genedigaeth plentyn, neu yn dilyn mabwysiadau plentyn ar 5 Ebrill 2015 neu wedi hynny.
Mae’r hawl hwn yn caniatáu i’r fam neu’r mabwysiadwr i ddewis dod â’u habsenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu i ben ar unrhyw adeg ar ôl y cyfnod absenoldeb mamolaeth gorfodol o bythefnos yn dilyn yr enedigaeth neu ar ôl i’r plentyn gael ei leoli. Mae’r wythnosau absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu nad ydynt yn cael eu cymryd ar gael i’w rhannu â’i phartner, hyd at uchafswm o 50 wythnos.
Mae’r polisi hwn a’r ddogfen weithdrefn gysylltiedig hefyd yn berthnasol ar gyfer y rhieni bwriadedig mewn trefniant benthyg croth os ydyn nhw’n gwneud cais am orchymyn rhiant ac yn gymwys ar gyfer absenoldeb mabwysiadu. Mae Absenoldeb Rhiant a Rennir yn rhan o ymrwymiad y Llywodraeth i greu cymdeithas decach sy’n rhoi mwy o hyblygrwydd i rieni benderfynu sut maen nhw am rannu gofal am eu plentyn yn ystod y flwyddyn gyntaf.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr), staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer swyddogion a staff yr heddlu sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd perthnasol. Esbonnir y meini prawf cymhwysedd o fewn y ddogfen weithdrefn.
Mae’r polisi hwn wedi’i greu yn unol â’r deddfwriaethau a chanllawiau isod ac ar ôl ymgynghori â chymdeithasau staff a rhwydweithiau cymorth.
Mae’r polisïau mewnol perthnasol yn cynnwys.
Mae ffurflen Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi’i chwblhau.
Nodir cyfrifoldebau unigolion a rheolwyr yn glir yn y ddogfen ganllaw Absenoldeb Rhiant a Rennir.
Dylai swyddogion a staff gwblhau’r adrannau gofynnol a amlinellir yn Atodiad A yn y dogfennau canllaw Absenoldeb Rhiant a Rennir.
Dylai rhieni sydd ddim yn swyddogion neu’n aelodau staff Heddlu Dyfed-Powys gwblhau’r adran “datganiad”.
Yr holl egwyddorion Cod Moeseg sy’n berthnasol ar gyfer y polisi hwn: -
Bydd yr adran Gwasanaethau Pobl yn adolygu’r polisi hwn a’r ddogfen weithdrefnau gysylltiedig bob tair blynedd er mwyn sicrhau eu bod yn effeithiol ac yn addas ar gyfer y diben ac yn ystyried unrhyw newidiadau i ddeddfwriaethau a/neu ganllawiau cenedlaethol ac unrhyw heriau a wnaed i’r dogfennau.
Gweithredir unrhyw ddiwygiadau i’r polisi neu’r ddogfen weithdrefn drwy’r adran Gwasanaethau Pobl ar ôl i’r Bwrdd Pobl, Diwylliant a Moeseg gytuno iddynt.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Gorffennaf 2024