Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
1.1 Diben y polisi hwn yw amlinellu meini prawf cymhwysedd a lefelau tâl sydd ar gael i unigolion, mewn perthynas â chymorth adleoli.
1.2 Lle y’i cymeradwyir yn briodol, bydd yr heddlu’n ariannu costau symud ac adleoli penodol o fewn terfyn ariannol gosod.
1.3 Nod y polisi hwn yw:
1.4 Gall treuliau fod ar gael hefyd yn ôl disgresiwn y Prif Gwnstabl oherwydd rheidiau dyletswydd heddlu neu er budd effeithlonrwydd yr Heddlu.
1.5 Ni fydd treuliau adleoli’n cael eu talu i swyddogion islaw rheng Prif Gwnstabl Cynorthwyol sy’n trosglwyddo’n wirfoddol o un Heddlu i un arall.
1.6 Bydd pecynnau adleoli ond yn cael eu darparu os pennwyd bod eu hangen o ganlyniad i angen busnes sefydliadol ac yn unol â Rheoliadau’r Heddlu 2003.
2.1 Allanol:
CYFRIFOLDEBAU
2.2 Yr Arbenigwr Cyflogres (yr Adran Datblygu Pobl a’r Sefydliad) sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am weithrediad effeithiol y polisi hwn ac am sicrhau cydymffurfiaeth â’r fframwaith statudol perthnasol.
2.3 Yr Arbenigwr Cyflogres a Phennaeth yr Adran Adnoddau Dynol fydd â chyfrifoldeb o ddydd i ddydd am weithredu’r polisi a sicrhau ei fod yn cael ei gynnal a’i adolygu.
2.4 Rhaid i’r Cyfarwyddwr Cyllid / Prif Swyddog Cyllid gytuno ar unrhyw amcangyfrifon cyn ymrwymo i unrhyw ymrwymiadau.
3.1 Fel arfer, pennir yr hawl i becynnau adleoli yn seiliedig ar yr amgylchiadau canlynol:
3.2 Nid yw pecynnau adleoli’n berthnasol ar gyfer swyddogion heddlu sy’n ymuno â Heddlu Dyfed-Powys i gychwyn.
4.1 Lle mae Swyddog Heddlu’n symud cartref, yn seiliedig ar y dybiaeth:
4.2 Mae’r canlynol yn daladwy o dan Reoliadau’r Heddlu:
4.3 Lle mae’r Swyddog Heddlu’n berchen ar ddau eiddo a/neu’n denant cyfreithiol dau eiddo ar yr un pryd, mae’r canlynol hefyd yn daladwy o dan Reoliadau’r Heddlu:
4.4 Ad-dalu treuliau achlysurol mewn perthynas â symud o eitemau sy’n gysylltiedig â gwerthu’r cartref blaenorol, e.e. Newid a/neu ailosod llenni, carpedi, cysgodlenni a gosodiadau cysylltiedig; ailosod gorchudd llawr; glanhau carpedi; gosod peiriannau golchi; gosod ffwrn nwy/trydan; gosod oergell/rhewgell nwy; gosod erial teledu; ailaddurno tu mewn – deunyddiau a llafur. Rhaid i unrhyw gais gael ei gefnogi gan anfonebau manwl wedi eu derbynebu.
4.5 Rhaid i unigolion sydd wedi derbyn arian am werthu eitemau o’u hen gartref sy’n cael eu newid am eitemau newydd o dan 4.4 uchod dynnu’r symiau hynny o’u hawl ar gyfer ad-daliad er mwyn osgoi oblygiadau treth.
4.6 Dylid rhoi amcangyfrif a chytuno â’r Cyfarwyddwr Cyllid / Prif Swyddog Cyllid cyn ymrwymo i unrhyw ymrwymiadau. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer ad-daliad, rhaid i eitem o wariant symud fod yn ofynnol, yn rhesymol, ac wedi’i gefnogi gan dderbynneb.
4.7 Mae’n bwysig nodi nad yw ad-daliadau morgais a threth gyngor yn gymwys ar gyfer eithriad o dreth ac yn ddarostyngedig i dreth a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn llawn.
5.1 Caiff Swyddogion Heddlu hawlio hyd at £19,000 mewn treuliau adleoli bob tro maen nhw’n symud.
6.1 Codir treth ar bob cost adleoli uwchlaw trothwy CThEF o £8,000 yn ogystal â chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A (Cyflogwyr).
6.2 Bydd rhai eitemau, megis llog morgais, yn denu cyfraniadau treth ac Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A (Cyflogwyr) hyd yn oed os nad yw gwerth y pecyn cyffredinol yn fwy na throthwy Cyllid y Wlad.
6.3 Daw costau yn sgil rhwymedigaeth treth personol ar symiau a dderbynnir sy’n uwch na therfynau presennol CThEF, sef £8,000, a’r Swyddog Heddlu unigol sydd fel arfer yn gyfrifol am dalu unrhyw dreth sy’n daladwy.
6.4 Bydd yr Heddlu’n hysbysu CThEF am y budd trethadwy uwchlaw’r trothwy o £8,000 yn flynyddol drwy ddatganiad treth P11d.
6.5 Mae Cyllid a Thollau EF yn gosod terfyn amser ar adleoli. Rhaid adleoli cyn diwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill) ar ôl yr un lle mae’r unigolyn yn dechrau ei swydd newydd.
7.1 Dylid glynu wrth weithdrefnau caffael yn llawn a rhaid cael tri dyfynbris ar gyfer ffioedd adleoli a symud.
7.2 Dylai’r Swyddog Heddlu dalu anfonebau mewn perthynas â threuliau adleoli dilys yn y lle cyntaf. Bydd y costau hyn yn cael eu hadennill drwy’r ffurflen dreuliau, wedi’i hawdurdodi’n briodol gyda chopïau o anfonebau ynghlwm. Rhaid cyflwyno tystiolaeth hefyd sy’n dangos bod gweithdrefnau caffael wedi’u dilyn.
7.3 Dylai’r tîm Adnoddau Dynol anfon y ffurflenni treuliau wedi’u hawdurdodi a gwaith papur ategol at yr Arbenigwr Cyflogres, a fydd yn cynnal cofnod o dreuliau adleoli ar gyfer dibenion treth.
7.4 Lle mae’r Prif Gwnstabl o’r farn nad yw’r Swyddog Heddlu wedi cymryd pob cam rhesymol i leihau neu derfynu ei dreuliau, gellir cyfyngu ad-daliad i daliadau y byddai’n rhaid i’r Swyddog Heddlu fod wedi’u gwneud pe bai wedi cymryd pob cam rhesymol i leihau’r atebolrwydd.
8.1 Disgwylir i unigolion sy’n gadael Heddlu Dyfed-Powys o fewn tair blynedd ar ôl ymuno ad-dalu symiau canlynol eu pecyn adleoli, heblaw bod y Tîm Prif Swyddogion yn penderfynu fel arall. (Nid yw’r ddarpariaeth hon yn berthnasol ar gyfer swyddogion heddlu sy’n trosglwyddo i Heddlu arall):
|
Cyfnod gwasanaeth (o’r dyddiad y talwyd treuliau) |
Swm i’w ad-dalu (fel % o gyfanswm y treuliau) |
|
Gadael 0-12 mis o’r dyddiad y talwyd treuliau |
100% |
|
Gadael 13-24 mis o’r dyddiad y talwyd treuliau |
50% |
|
Gadael 25-36 mis o’r dyddiad y talwyd treuliau |
Yn lleihau o 25% o 1/12fed o 25% am bob mis a gwblhawyd hyd at 36 mis |
8.2 Os na fydd yr unigolyn yn adleoli, gofynnir iddo dalu unrhyw lwfans adleoli a roddwyd yn ôl, neu ran ohono.
SEIBIANT GYRFA
8.3 Ar gyfer swyddogion heddlu sy’n gofyn am gael cymryd seibiant gyrfa, bydd hyd eu gwasanaeth yn cael ei atal o’r dyddiad y mae’r seibiant gyrfa’n cychwyn.
8.4 Rhaid i unigolion sydd heb wasanaethu am dair blynedd, ac sydd ddim eisiau talu rhan o’u pecyn adleoli yn ôl, ddychwelyd i’r gwaith am weddill y tair blynedd cyn gadael o leiaf.
8.5 Pan fydd cyfanswm o dair blynedd o wasanaeth, gan gyfuno’r cyfnod cyn a’r cyfnod ar ôl y seibiant gyrfa, wedi’u cwblhau, ni fydd yn rhaid i’r unigolyn dalu unrhyw ran o’r pecyn adleoli yn ôl mwyach.
9.1 Lle mae’r Heddlu wedi penderfynu y bydd yn ystyried talu treuliau adleoli, rhaid i unigolion gyflwyno eu cais yn ysgrifenedig i Gyfarwyddwr yr Adran Datblygu Pobl a’r Sefydliad.
9.2 Rhaid i geisiadau gynnwys cyfrifon gyda derbynneb TAW, a chopïau o dri dyfynbris lle mae hynny’n berthnasol (e.e. ar gyfer costau symud/cyfreithiwr). Bydd y dyfynbris isaf yn cael ei ad-dalu gan Heddlu Dyfed-Powys, heblaw mewn amgylchiadau eithriadol (i’w cymeradwyo gan y Cyfarwyddwr Cyllid).
9.3 Bydd ceisiadau’n cael eu hanfon at yr Arbenigwr Cyflogres ar gyfer prosesu, a fydd yn ymgysylltu’n uniongyrchol ag unigolion ynghylch y taliad.
9.4 Rhaid cynnwys treuliau achlysurol yn y cais ar gyfer treuliau adleoli a’u cyflwyno fel yr amlinellir uchod.
9.5 Rhaid hawlio pob traul adleoli o fewn 6 mis ar ôl cychwyn gweithio i Heddlu Dyfed-Powys.
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu’n flynyddol er mwyn sicrhau ei fod yn addas ar gyfer y diben, sicrhau ei fod yn effeithiol, unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth ac unrhyw heriau a wnaed i’r polisi. Mae’r Arbenigwr Cyflogres yn gyfrifol am sicrhau bod adolygiad yn cael ei gynnal.
Bydd unrhyw ddiwygiadau neu newidiadau i’r polisi hwn yn cael eu gweithredu drwy’r Cyd-bwyllgor Ymgynghori a Thrafod a’u gweithredu ar ôl cymeradwyaeth y Bwrdd Cyd-bwyllgor Ymgynghori a Thrafod.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mai 2026