Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nod y polisi hwn yw fel a ganlyn:
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr llawn amser, rhan amser, parhaol, gweithwyr am gyfnod penodol, gweithwyr dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, partneriaid a chontractwyr) neu staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r Heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i aelodau o Heddlu Dyfed-pOwys, sy'n cynnwys staff yr heddlu, holl swyddogion yr heddlu gan gynnwys swyddogion dan hyfforddiant, cwnstabliaid gwirfoddol, gwirfoddolwyr cefnogi'r heddlu, cadetiaid, staff asiantaeth, swyddogion cyswlly a chontractwyr, a staff ar secondiad.
Aflonyddu rhywiol:
Mae'n digwydd pan fydd unigolyn yn ymddwyn yn ddigroeso mewn natur rywiol sydd â'r pwrpas neu'r effaith canlynol:
Er y gall unrhyw un brofi aflonyddu rhywiol, mae menywod yn fwy tebygol o brofi aflonyddu rhywiol na dynion ac mae'r mwyafrif llethol o'r rhai sy'n cyflawni aflonyddu rhywiol yn ddynion.
Erledigaeth:
Pan fyddwch chi'n cael eich trin yn wael neu'n annheg oherwydd eich bod wedi gwneud cwyn yn ymwneud â nodwedd warchodedig, neu eich bod wedi helpu rhywun arall sydd wedi lleisio cwyn ac fe’ch gwelir yn ochri gyda nhw ac yna rydych chi’n cael eich trin yn wael.
Rhaid darllen y polisi hwn ar y cyd â’r canlynol:
I ddechrau, bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu bob blwyddyn ac yna bob dwy flynedd wedi hynny gan y Gwasanaethau Pobl. Bydd yr holl ddiwygiadau i'r polisi hwn yn cael eu cymeradwyo gan y Bwrdd Pobl, Diwylliant a Moeseg. I gael rhagor o gyngor ynghylch y polisi hwn, cysylltwch â Gwasanaethau Pobl.
Bydd yr adolygiad ac unrhyw ddiwygiadau yn ystyried y canlynol:
Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i greu a chynnal amgylchedd gwaith heb aflonyddu ac erledigaeth ac i drin ein cydweithwyr ag urddas a phrach.
Mae unirgolion yn gyfrifol am y canlynol:
Sylwch nad yw’n dderbyniol anwybyddu a/neu gerdded i ffwrdd o ddigwyddiadau o’r fath neu wrthod cymryd rhan a gall hyd yn oed gael ei ystyried yn gydgynllwynio iddo barhau o fewn diwylliant plismona.
Mae gan reolwyr gyfrifoldeb am y canlynol:
Mae gan yr heddlu gyfrifoldeb i sicrhau na fydd aflonyddu rhywiol yn cael ei oddef yn y gweithle ac y bydd pob cwyn yn cael eu cymryd o ddifrif, yn cael eu trin yn gyflym ac yn cael eu trin fel troseddau disgyblu difrifol a gellir ei hystyried yn gamymddwyn difrifol.
Gall aflonyddu rhywiol ddigwydd waeth beth fo hunaniaeth rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol yr unigolyn sy’n destun aflonyddu neu’r unigolyn sy’n cyflawni’r aflonyddu honedig.
Fodd bynnag, mae'r heddlu'n cydnabod, bod menywod yn sylweddol fwy tebygol o brofi aflonyddu rhywiol na dynion, a bod yna fater cydraddoldeb rhyw mewn perthynas ag aflonyddu rhywiol.Os bod ymddygiad rhywiol a merched yn cael eu gwneud yn wrthrychau rhywiol yn ymddygiad y deellir ei fod yn cael ei oddef yn y gweithle, mae'n fwy tebygol y bydd aflonyddu rhywiol yn digwydd.
Mae’r heddlu hefyd yn cydnabod bod mater croestoriadedd nodweddion gwarchodedig yn bodoli mewn perthynas ag aflonyddu rhywiol, ac y gallai fod pryderon ychwanegol i swyddogion a staff Du neu ethnig leiafrifol, pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsryweddol (LHDT+), swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr anabl ac iau lle gallai’r aflonyddu fod yn gysylltiedig â mathau eraill o wahaniaethu.
Gall y canlynol fod yn gyfrifol am aflonyddu rhywiol yn y gweithle:
Mae aflonyddu rhywiol yn cynnwys ystod eang o ymddwyn gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
Unigolyn neu grŵp lleiafrifol sydd fel arfer yn destun aflonyddu rhywiol, ond nid yw hyn bob amser yn wir. Gall gael ei gyflawni gan un unigolyn, pâr, grŵp bach, neu gall dreiddio trwy adran gyfan o'r heddlu.
Weithiau gall fod diwylliant o aflonyddu rhywiol mewn gweithle nad yw wedi’i anelu’n benodol at un unigolyn – fel rhannu delweddau rhywiol a chilwenu ar aelodau o’r cyhoedd. Gallai rhywun dal wneud cwyn am aflonyddu rhywiol yn y sefyllfa hon.
Gall unigolyn brofi aflonyddu rhywiol gan rywun o’r un rhyw neu gan rywun o ryw gwahanol a’r un sy’n destun yr ymddygiad sy’n penderfynu a oedd y dull yn annerbyniol neu’n ddiurddas.
Gall aflonyddu rhywiol fod yn ddigwyddiad untro ac efallai nad yw’n cael ei gyfeirio at unigolyn. Gellir bod yn dyst iddo neu ei glywed. Gall ymddygiad rhywiol sydd wedi’i groesawu neu ei oddef yn y gorffennol, dros amser, ddod yn ymddygiad digroeso ac os bydd yn parhau bydd hyn yn aflonyddu.
Bydd yr heddlu yn atebol am aflonyddu rhywiol a gyflawnir gan eu swyddogion, staff neu wirfoddolwyr yn ystod eu cyflogaeth / cyfnod gwirfoddoli oni bai y gallant ddangos eu bod wedi cymryd pob cam rhesymol i atal yr aflonyddu. Mae ‘yn ystod y cyflogaeth’ yn cynnwys gweithredoedd a gyflawnir mewn unrhyw leoliad arall lle gwneir gwaith megis oddi ar y safle, mewn cwrs hyfforddi, cynhadledd neu gyfarfod allanol, yn ogystal ag amgylchiadau eraill pan nad yw’r swyddog, staff neu wirfoddolwr yn gweithio mewn gwirionedd ond yn ymwneud â gwaith megis parti gadael neu ddigwyddiad cymdeithasol arall.
Mae Heddlu Dyfed-Powys eisiau darparu amgylchedd gwaith proffesiynol ar gyfer ei swyddogion, staff a gwirfoddolwyr ac mae ganddo ‘ddyletswydd gofal’ i wneud hynny.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn sicrhau bod camau rhesymol yn cael eu cymryd i atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle a sicrhau bod cymorth ar gael i unrhyw un sy’n teimlo bod eu hurddas wedi’i fradychu neu lle mae unigolyn (unigolion) wedi creu amgylchedd ymosodol, bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu sarhaus, p'un ai a fwriedir ai peidio.
Mae camau gweithredu rhesymol yn cynnwys y canlynol:
Gosodir safonau ymddygiad proffesiynol gan Reoliadau Ymddygiad yr Heddlu 2020, Cyd-Gylchlythyr 54 Cyngor Staff yr Heddlu a'r codau moeseg.
Y cod moeseg yw'r cam cyntaf i bawb sy'n gweithio ym maes plismona yng Nghymru a Lloegr ac mae'n nodi'r egwyddorion a'r safonau ymddygiad y disgwyliwn eu gweld gan weithwyr proffesiynol yr heddlu. Mae’n berthnasol i bob unigolyn sy’n gweithio ym maes plismona, boed yn swyddog gwarantedig, yn aelod o staff yr heddlu, yn wirfoddolwr neu’n rhywun sydd wedi’i gontractio i weithio mewn heddlu.
At ddiben y polisi hwn, tynnir sylw at y safonau a ganlyn:
Mae gan pawb yr hawl i amgylchedd gwaith heb aflonyddu, oddi wrth eraill o fewn y gwasanaeth ac aeoldau'r cyhoedd. Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn cefnogi amgylchedd gwaith o'r fath yn rhagweithiol.
Gallai torri safonau o'r fath niwedidio hyder y cyhoedd yng ngwasanaeth yr heddlu.
Gallai unrhyw achos o dorri unrhyw un o'r safonau arwain at gamau disgyblu, a gallai arwain at ddiswyddo heb rybudd mewn achosion difrifol.
Mae hyfforddiant a gwybodaeth yn hanfodol i lwyddiant polisïau ar aflonyddu rhywiol ac i newid yr amgylchedd yn y gweithle.
Dylai rhaglenni hyfforddi gynnwys y canlynol:
Dylid cadw cofnodion i sicrhau bod pawb wedi'u hyfforddi a'u bod yn cael hyfforddiant gloywi yn rheolaidd. Dylid annog swyddogion a staff hefyd i helpu ei gilydd, naill ai drwy roi cymorth neu roi gwybod i reolwyr am eu pryderon drwy'r sianeli priodol. Dylai'r weithdrefn hefyd wneud yn glir bod gan y staff yr hawl i ddod â chynrychiolydd cymdeithas staff / undeb llafur gyda nhw ar bob cam.
Anogir unigolion i ddod ymlaen os ydynt yn credu eu bod wedi bod yn destun aflonyddu. Mae gan Heddlu Dyfed-Powys weithdrefnau cadarn ar waith sydd wedi'u cynllunio i weithredu’n brydlon.
Lle bynnag y bo modd, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn ceisio sicrhau nad yw'n ofynnol i'r unigolyn a'r aflonyddwr honedig weithio gyda'i gilydd wrth ymchwilio i'r gŵyn.
Dylai unigolion sydd wedi bod yn destun aflonyddu leisio’r mater a dweud wrth eu rheolwr llinell neu, os nad yw'n briodol, yna wrth yr Adran Safonau Proffesiynol.
Os bydd unigolyn yn ymwybodol o aflonyddu rhywiol rhwng cydweithiwr ac unigolyn arall rhaid iddo leisio’r mater a dweud wrth ei reolwr llinell neu, os nad yw’n briodol, yr Adran Safonau Proffesiynol.
Gall aflonyddu rhywiol hefyd achosi sefyllfaoedd lle mae ymddygiad gorfodol neu ysglyfaethus. Os bydd cydberthnasau agos yn codi rhwng cydweithwyr a bod gan unrhyw unigolyn bryderon ynghylch unrhyw elfen ysglyfaethus neu orfodaeth i berthynas o'r fath, fe'i hanogir i adrodd am y mater i'w rheolwr llinell neu os nad yw'n briodol i'r Adran Safonau Proffesiynol.
Gall ymchwiliadau i gwynion neu honiadau o aflonyddu rhywiol hefyd arwain at gychwyn ymchwiliad troseddol. Os oes pryderon bod gweithred droseddol wedi digwydd, rhaid cael cyngor gan yr Adran Safonau Proffesiynol. Os amheuir gweithred droseddol rhaid i unrhyw gamau a gymerir osgoi rhagfarnu'r ymchwiliad troseddol. Cymerir camau priodol yn dibynnu ar yr amgylchiadau.
Bydd unrhyw ymchwiliadau i honiadau o aflonyddu rhywiol gan swyddogion heddlu, aelodau staff yr heddlu, gwirfoddolwyr a chontractwyr yn cael eu cynnal gan yr Adran Safonau Proffesiynol.
Bydd cyfrinachedd yn cael ei gynnal, yn amodol ar unrhyw ofyniad i gynnwys asiantaethau allanol lle gallai trosedd fod wedi'i chyflawni neu lle byddai cadw cyfrinachedd yn peri risg i'r sawl sy'n gwneud yr adroddiad neu eraill.
Bydd y troseddwr honedig, os yw’n aelod o Heddlu Dyfed-Powys yn destun achos ymchwilio teg drwy'r broses briodol.
Bydd pob cwyn am aflonyddu rhywiol yn cael ei chymryd yn ddifrifol iawn. Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn ymdrin ag unrhyw ymchwiliad mewn ffordd deg a sensitif i’r canlynol:
Bydd unigolyn sy’n aflonyddu’n rhywiol ar rywun yn y gwaith yn cael ei ddal yn gyfrifol am ei weithredoedd ac os bydd aelod o Heddlu Dyfed-Powys yn wynebu ymchwiliad i’w ymddygiad yn y gwaith gallai hyn arwain at gamau disgyblu hyd at a chan gynnwys diswyddiad diannod. Yn ogystal, gallai fod yn atebol yn bersonol i dalu iawndal mewn hawliadau cyfreithiol.
Mae llawer o ffynonellau cymorth ar gael. Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Tachwedd 2023