Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn ogystal â gweithio i Heddlu Dyfed-Powys, efallai bydd staff a gwirfoddolwyr eisiau ymgymryd â chyflogaeth eilaidd, ymgymryd â buddiant busnes neu gymryd rhan mewn diddordebau chwaraeon. Mae Buddiant Busnes yn cwmpasu pob gweithgaredd lle mae swyddog heddlu, aelod staff neu wirfoddolwr yn dal swydd am log, er elw neu fel gwirfoddolwr.
Nid yw Heddlu Dyfed-Powys eisiau cyfyngu swyddogion, staff neu wirfoddolwyr rhag dal buddiant busnes ac yn ceisio darparu ymagwedd gyson tuag at awdurdodi’r buddiannau busnes hynny sydd ddim yn gwrthdaro â phlismona, ac na fydd yn cael effaith andwyol ar enw da’r unigolyn, Heddlu Dyfed-Powys neu’r gwasanaeth heddlu ehangach, yn unig.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr llawn amser, rhan amser, parhaol, gweithwyr am gyfnod penodol, gweithwyr dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, partneriaid a chontractwyr) neu staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Diffiniad Buddiant Busnes
Mae Rheoliad 7 o Reoliadau’r Heddlu 2003 yn diffinio Buddiant Busnes a/neu gyflogaeth eilaidd:
2.1 Â hwythau’n aelod o wasanaeth heddlu, mae’r unigolyn yn dal unrhyw swydd neu gyflogaeth am gyflog neu elw (heblaw fel aelod o’r Heddlu) neu’n cyflawni unrhyw fusnes.
2.2 (*Swyddog Heddlu yn unig) Â hwythau’n aelod o Wasanaeth Heddlu neu’n berthynas a gynhwysir yn nheulu aelod o’r fath, mae’r unigolyn yn dal neu’n meddu ar fuddiant ariannol mewn trwydded neu hawlen a ganiatawyd yn unol â’r gyfraith sy’n ymwneud â thrwyddedu gwirod, tŷ lluniaeth neu fetio a hapchwarae neu reoleiddio llefydd adloniant yn yr ardal Heddlu dan sylw.
2.3 Diffinnir “perthynas” fel:
2.4 Mae’r un diffiniad o fuddiant busnes a pherthynas yn berthnasol ar gyfer staff yr heddlu a gwirfoddolwyr cefnogi’r heddlu. Defnyddir y term “aelod” yn hyn o beth i gyfeirio at swyddogion heddlu, staff yr heddlu, Cwnstabliaid Gwirfoddol a gwirfoddolwyr cefnogi’r heddlu.
2.5 Mae’n hanfodol bod gan y cyhoedd hyder yn unplygrwydd ac amhleidioldeb pawb sy’n gweithio i Heddlu Dyfed-Powys a bod pawb yn cydymffurfio â’r Safonau Ymddygiad Proffesiynol a’r Cod Moeseg.
2.6 Rhaid i’r broses benderfynu sicrhau nad yw buddiannau busnes a chyflogaeth eilaidd yr ymgymerir â nhw’n gwrthdaro â gwaith Heddlu Dyfed-Powys, na fyddent yn tanseilio hyder y cyhoedd, nac yn effeithio’n andwyol ar enw da unigolyn, yr Heddlu, neu’r gwasanaeth heddlu ehangach.
2.7 Mae’r polisi a’r weithdrefn yn berthnasol ar gyfer swyddogion heddlu, staff yr heddlu a gwirfoddolwyr.
2.8 Ystyrir pob cais yn annibynnol a diduedd, fesul achos.
2.8 Ni ddylai’r un swyddog heddlu, aelod o staff yr heddlu neu wirfoddolwr gychwyn na chytuno i gychwyn buddiant busnes neu gyflogaeth eilaidd cyn bod cymeradwyaeth ffurfiol wedi’i rhoi.
2.9 Ar eu ffurflen fetio, gofynnir i ymgeiswyr i Heddlu Dyfed-Powys pa un ai a ydynt yn bwriadu parhau â buddiant busnes. Bydd y polisi hwn yn berthnasol i’r rhai sy’n bwriadu ymuno â’r sefydliad ac os nodir gwrthdaro, gallai hyn effeithio ar benderfyniad fetio.
2.10 Egwyddorion i’w Hystyried
Swyddogion Heddlu
Staff yr Heddlu
Y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith
Mae Rheoliadau Oriau Gwaith 1998 yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud ag oriau gwaith, cyfnodau gorffwys, gweithio gyda’r hwyr a gwyliau blynyddol.
Er nad yw Rheoliadau Oriau Gwaith 1998 yn cynnwys darpariaethau penodol sy’n darparu ar gyfer gweithwyr â mwy nag un swydd, mae’n ofynnol yn ôl rheoliad 4(2) i gyflogwyr gymryd pob cam posibl, yn unol â’r angen i ddiogelu iechyd a diogelwch gweithwyr, i sicrhau bod gweithwyr yn glynu wrth y terfyn 48 awr ar oriau gwaith wythnosol.
Gan hynny, er mwyn cyflawni ei rwymedigaethau o dan Reoliadau Oriau Gwaith 1998, mae’r Heddlu’n gofyn i staff sydd eisiau cymryd rhan mewn cyflogaeth arall neu gael unrhyw fuddiant busnes allanol roi manylion ar y ‘Ffurflen Cais i Gofrestru Buddiant Busnes neu Gyflogaeth Eilaidd’ am nifer yr oriau a fydd yn cael eu treulio yn y buddiant busnes neu’r gyflogaeth eilaidd, a phryd mae’n debygol y byddant yn cael eu gweithio.
Gwrthdaro Buddiannau
2.11 Gwrthdaro buddiannau yw unrhyw sefyllfa lle mae gan swyddog, aelod o staff yr heddlu, aelod o’r Heddlu Gwirfoddol neu wirfoddolwr gyda Heddlu Dyfed-Powys neu weithiwr o Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh) deyrngarwch neu fuddiant sy’n gwrthdaro a lle y gellid dadlau y byddai arsylwr teg a gwybodus, ar ôl ystyried y ffeithiau, yn dod i’r casgliad bod posibilrwydd gwirioneddol y gallai’r unigolyn perthnasol fod yn rhagfarnllyd.
2.12 Gall gwrthdaro o ran buddiannau ddod ar sawl gwedd, lle mae diddordeb personol swyddog neu aelod staff yn gwrthdaro â’i swydd broffesiynol ei hunan yn arbennig. Disgwylir i bob swyddog ac aelod staff ddatgan gwrthdaro o ran buddiannau wrth ei Reolwr Llinell (neu reolwr addas arall os nad yw’n briodol) cyn gynted ag y daw hyn i’r amlwg. Gall methu ag adrodd am wrthdaro o ran buddiannau arwain at weithdrefnau disgyblu’n cael eu hystyried.
2.13 Bydd pob gwrthdaro posibl o ran buddiannau’n cael ei ystyried fesul achos, a gall fod yn ofynnol i’r rheolwr priodol geisio cyngor ac arweiniad pellach o ran gwneud penderfyniad terfynol.
Gwaith yn y Sector Gwirfoddol
2.14 Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gweld yr effaith gadarnhaol gall gwaith gwirfoddol gael o fewn y gymuned. Ystyrir unrhyw waith o fewn y sector gwirfoddol fel buddiant busnes hyd yn oes os yw’n gwbl wirfoddol heb unrhyw dâl neu dreuliau’n cael eu talu.
2.15 Er mwyn bod yn glir, mae’n dal yn fuddiant busnes os ydych chi’n gwirfoddoli i sefydliad elusennol, neu’n gwirfoddoli i sefydliad preifat.
Ceir manylion llawn am waith Sector Gwirfoddol o fewn y Weithdrefn Buddiannau Busnes a Chyflogaeth Eilaidd.
Dyletswyddau Cyhoeddus
2.16 Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr geisio cymeradwyaeth drwy’r broses cais am Fuddiant Busnes er mwyn cymryd rhan mewn unrhyw rôl sy’n cynnwys dyletswyddau cyhoeddus. Ni ddylid ymgymryd â’r dyletswyddau hyn heblaw bod caniatâd wedi’i roi ymlaen llaw.
Bydd angen pythefnos o rybudd o leiaf ar yr heddlu i ganiatáu amser i ffwrdd ar gyfer y math hwn o rôl.
Os yw’n cael ei ganiatáu, bydd amser i ffwrdd yn ddi-dâl.
Ni all swyddogion a staff yr heddlu sydd mewn swyddi ‘gwleidyddol gyfyngedig’ ymgymryd â’r swyddi cyhoeddus Ynad neu Gynghorydd.
Ceir rhestr o rolau dyletswydd gyhoeddus o fewn y Weithdrefn Buddiannau Busnes a Chyflogaeth Eilaidd.
Mae polisi/gweithdrefn yr heddlu ar gyfer Absenoldeb ar gyfer Rhesymau Personol a Theuluol ac Absenoldebau Arbennig Eraill hefyd yn cynnwys gwybodaeth am Ddyletswyddau Cyhoeddus.
Milwyr Wrth Gefn y Lluoedd Arfog
2.17 Diffinnir unrhyw rolau milwyr wrth gefn fel buddiannau busnes a rhaid eu cyflwyno er ystyriaeth.
2.18 Dylai’r rhai sydd eisiau cymryd rhan yn y gyflogaeth eilaidd hon ddarllen polisi a gweithdrefn Absenoldeb ar gyfer Rhesymau Personol a Theuluol ac Absenoldebau Arbennig Eraill Heddlu Dyfed-Powys am ganllawiau ynghylch cymryd amser i ffwrdd ar gyfer unrhyw leoliad fel milwr wrth gefn.
Landlordiaid
2.19 Mae rhentu eiddo’n cynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): rhentu ystafelloedd unigol, fflat yng nghartref y teulu, rhentu cartref gwyliau dros dro, a rhentu eiddo llawn amser adref neu dramor.
2.20 Rhaid i aelodau staff sy’n landlordiaid hefyd fod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau mewn perthynas â’r Canllaw Cysylltiad Hysbysadwy mewn perthynas â thenantiaid a rhaid iddynt gydymffurfio â heddluoedd, awdurdodau lleol ac unrhyw gyrff statudol eraill wrth ymchwilio i gwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddol yn erbyn eu tenantiaid.
Cynllun Seibiant Gyrfa (Swyddogion a Staff)
Ceir manylion llawn am sut mae’r Cynllun Seibiant Gyrfa’n effeithio ar y polisi hwn o fewn y Weithdrefn Buddiannau Busnes a Chyflogaeth Eilaidd.
Buddiannau Busnes Anghydnaws
Am fanylion am enghreifftiau o Fuddiannau Busnes Anghydnaws, cyfeiriwch at y Weithdrefn Buddiannau Busnes a Chyflogaeth Eilaidd.
Y Rhyngrwyd, Cyfryngau Cymdeithasol a Llwyfannau Ffrydio
Ceir manylion am y rhyngrwyd, cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau ffrydio o fewn y Weithdrefn Buddiannau Busnes a Chyflogaeth Eilaidd.
Mewnol
Yr Ymgeisydd
4.1 Rhaid i’r ymgeisydd sicrhau bod natur y buddiant busnes a/neu weithgareddau cysylltiedig yn foesegol ac nad ydynt yn gwrthdaro â gofynion yr Heddlu.
4.2 Mae’r ymgeisydd yn gyfrifol am adrodd am unrhyw newidiadau arwyddocaol o ran natur y buddiant busnes a gymeradwywyd neu unrhyw adleoli o ran eu dyletswyddau a allai gwrthdaro â’u buddiant busnes.
4.3 Rhaid i’r ymgeisydd ailymgeisio ar gyfer caniatâd parhaus i gyflawni’r Buddiant Busnes ar sail flynyddol.
4.4 Rhaid i’r ymgeisydd beidio â chynnal ei fuddiant busnes/cyflogaeth eilaidd yn ystod oriau dyletswydd ar unrhyw adeg. Hefyd, rhaid iddo beidio â defnyddio offer yr heddlu, systemau’r heddlu, deunyddiau, neu eiddo deallusol mewn cysylltiad â’i fuddiant busnes.
4.5 Rhaid i’r ymgeisydd ymatal rhag cyflawni ei fuddiant busnes awdurdodedig yn dilyn 7 diwrnod o Absenoldeb Salwch yn olynol, heblaw bod ei Reolwr Llinell a’i Gomander URS / Pennaeth Adran yn cymeradwyo hyn.
Rheolwyr Llinell
4.6 Disgwylir i Reolwyr Llinell asesu pa un ai a yw’r cais yn gydnaws â disgwyliadau Heddlu Dyfed-Powys, gan ystyried cofnod salwch yr ymgeisydd dros y 3 blynedd diwethaf (Sgôr Bradford) a pherfformiad yn ystod y 12 mis diwethaf.
4.7 Rhaid bod manylion llawn am natur y busnes yn hysbys a rhaid eu trafod gyda’r ymgeisydd.
Comanderiaid URS/Penaethiaid Adran
4.8 Disgwylir i Gomanderiaid URS/Penaethiaid Adran adolygu’r cais a rhoi penderfyniad i awdurdodi neu wrthod. Dylai cymeradwyaeth o’r ffurflen gynnwys unrhyw amodau neu gafeatau perthnasol.
Yr Adran Safonau Proffesiynol
4.9 Bydd yr Adran Safonau Proffesiynol yn cofnodi ac yn archwilio’r cais gan ystyried cofnodion cwynion ac ymddygiad yr ymgeisydd, sylwadau’r Rheolwr Llinell, a gwiriadau a wnaed gyda’r Uned Wrthlygredd a’r Uned Fetio. Ymgynghorir â Swyddfa Gudd-wybodaeth yr Heddlu er mwyn nodi unrhyw gysylltiadau busnes o bryder.
4.10 Rhoddir hawl i’r Ymgeisydd apelio mewn perthynas â’r penderfyniadau a wnaed.
4.12 Os bydd cais yn cael ei wrthod, bydd yr Adran Safonau Proffesiynol/Uned Wrthlygredd yn monitro gweithgarwch er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r penderfyniad.
Er y gall cais gael ei ganiatáu, mae goruchwylwyr yn cadw’r hawl i ailystyried awdurdod neu ailasesu unrhyw gafeatau os bydd perfformiad, lles neu ffactorau eraill sy’n cael effaith ar yr ymgeisydd yn teilyngu adolygiad.
Bydd y penderfyniad terfynol yn aros gyda Chomander URS / Pennaeth Adran yr Ymgeisydd.
Mae’r Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn.
Bydd y polisi hwn, ynghyd â’r ddogfen weithdrefn gysylltiedig, yn cael ei fonitro er mwyn sicrhau ei fod yn addas ar gyfer y diben, unrhyw newidiadau i ddeddfwriaethau neu ganllawiau cenedlaethol neu lle mae unrhyw heriau’n cael eu gwneud i’r polisi.
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu gan yr Adran Safonau Proffesiynol a’i oruchwylio gan y Cyd-bwyllgor Ymgynghori a Thrafod.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mehefin 2025