Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae hyder cyhoeddus yn yr heddlu’n dibynnu ar aelodau o staff yr heddlu’n arddangos y lefel uchaf o safonau ymddygiad proffesiynol personol. Mae’r safonau hynny’n adlewyrchu’r disgwyliadau sydd gan y gwasanaeth heddlu a’r cyhoedd o ran y ffordd y dylai staff yr heddlu ymddwyn.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i sicrhau bod pob aelod staff yn cydymffurfio â’r safonau ymddygiad proffesiynol ar gyfer aelodau o staff yr heddlu. Gallai torri’r safonau hyn niweidio hyder yn y gwasanaeth heddlu ac arwain at gamau disgyblu, a allai arwain at ddiswyddo mewn achosion difrifol.
Mae’n berthnasol i’r canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, tymor penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, contractwyr a chymdeithion) staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Dylai swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yr Heddlu sy’n cael mynediad at asedau ac eiddo’r Heddlu ac sy’n eu defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Nod y Polisi Camymddwyn ar gyfer Staff yr Heddlu yw:
Rhaid darllen y polisi hwn ar y cyd â’r Weithdrefn Gamymddwyn ar gyfer Staff Heddlu Dyfed-Powys.
Mae deddfwriaethau, polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau cysylltiedig yn cynnwys:
Mewnol:
Allanol:
Mae’r Weithdrefn Gamymddwyn ar gyfer Staff yr Heddlu ar gael i bob aelod staff – mae’r polisi a’r dogfennau gweithdrefn yn nodi’n glir a chynhwysfawr y disgwyliadau perthnasol gan aelodau staff a’r lefelau cyfrifoldeb a gofynion o ran gwneud penderfyniadau.
Mae egwyddorion y Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi a’r weithdrefn hon:
Mae’r polisi hwn yn eiddo i’r Adran Safonau Proffesiynol. Bydd y broses adolygu’n cael ei chynnal gan Uwch Reolwr yr Adran Safonau Proffesiynol bob dwy flynedd er mwyn sicrhau effeithiolrwydd parhaus y polisi, gan ystyried unrhyw newidiadau i ddeddfwriaethau a chanllawiau cenedlaethol.
Bydd effeithiolrwydd y polisi’n cael ei fonitro’n rheolaidd uwchlaw a thu hwnt i’r cyfnod adolygu dwy flynedd, a bydd unrhyw bryderon difrifol yn cael eu fel dwysáu fel y bo’n briodol.
Mae’r nod o adolygu’r effeithiolrwydd hefyd yn cynnwys adolygu ymwybyddiaeth drwy fesur nifer yr ymholiadau a gyfeirir at yr adran mewn perthynas â’r broses gamymddwyn ar gyfer staff yr heddlu. Bydd modd i randdeiliaid allweddol ac unrhyw aelodau staff sy’n ymwneud â’r polisi roi adborth ar y polisi. Rhoddir ystyriaeth ddyledus i’r adborth hwnnw.
Efallai bydd newidiadau i ddeddfwriaethau neu ganllawiau cenedlaethol gan Gyngor Staff yr Heddlu’n golygu bod angen adolygu cynnwys y weithdrefn / polisi.
Bydd y Cyd-bwyllgor Trafod ac Ymgynghori’n goruchwylio’r ddogfen weithdrefn hon.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mehefin 2025