Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r Gymuned Heddlu wedi ymrwymo i gynnal y lefelau uchaf o onestrwydd ac unplygrwydd, ac atal ymddygiad llwgr, anonest, anfoesegol neu amhroffesiynol.
Mae hysbysu’r heddlu am gysylltiad yn broses bwysig ar gyfer gwella unplygrwydd a diogelwch y gymuned heddlu. Nod y polisi hwn yw:
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr llawn amser, rhan amser, parhaol, gweithwyr am gyfnod penodol, gweithwyr dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, partneriaid, a chontractwyr), staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn disgwyl gonestrwydd ac unplygrwydd gan ei holl sefydliad. Fel gweision cyhoeddus, disgwylir i swyddogion heddlu, staff yr heddlu a gwirfoddolwyr lynu wrth y safonau ymddygiad uchaf, fel y nodir yn y Cod Moeseg, sydd wedi’i wreiddio drwy’r heddlu i gyd.
Mae’r heddlu’n cydnabod bod perygl y gallai cysylltiad â rhai unigolion, grwpiau neu sefydliadau, a allai fod yn amhriodol, gael canlyniadau difrifol i unplygrwydd unigolion Heddlu Dyfed-Powys yn ogystal ag unplygrwydd, effeithiolrwydd gweithredol ac enw da Heddlu Dyfed-Powys.
Mae’r polisi hwn a’r weithdrefn gysylltiedig yn atgyfnerthu’r safonau ymddygiad proffesiynol sydd angen eu dilyn, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw amheuaeth ynghylch unplygrwydd y sefydliad a bod unigolion sy’n agored i niwed yn cael eu gwarchod rhag camddefnyddio awdurdod er budd rhywiol. Mae bwriad hefyd i warchod swyddogion, staff a gwirfoddolwyr rhag honiadau ynghylch llygredd a darparu mecanwaith adrodd a chymorth ar gyfer y rhai sydd â chysylltiad a allai fod yn amhriodol.
Mae’r polisi hwn a’r weithdrefn gysylltiedig yn anelu i fod yn deg a chymesur wrth reoli’r broses ac unrhyw benderfyniadau a wneir â’r nod o sicrhau hyder cyhoeddus a hyder personél yr heddlu.
Mae’r polisi hwn a’r weithdrefn gysylltiedig yn berthnasol ar gyfer swyddogion heddlu, staff yr heddlu a phawb sy’n gweithio’n wirfoddol neu dan gontract i Heddlu Dyfed-Powys. Rhaid i bawb a grybwyllwyd eisoes fod yn ymwybodol o ofynion y polisi hwn a’r weithdrefn gysylltiedig a disgwylir iddynt gydymffurfio â nhw.
Cod Moeseg y Coleg Plismona
Deddf yr Heddlu 1996
Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol
Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989
Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974
Deddf Diogelu Data 2018
Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998
Deddf Diwygio’r Heddlu 2002
Rheoliadau’r Heddlu 2003
Rheoliadau Ymddygiad yr Heddlu 2020
Rheoliadau Perfformiad yr Heddlu 2020
Canllawiau Statudol Swyddfa Annibynnol Cwynion yr Heddlu ar gyfer Safonau Ymddygiad Proffesiynol (swyddogion a staff)
Gweithdrefn Cysylltiad Hysbysadwy Heddlu Dyfed-Powys
Rolau a Chyfrifoldebau
Swyddogion, Staff a Gwirfoddolwyr
Rhaid i swyddogion, staff a gwirfoddolwyr sy’n dod yn ymwybodol neu sy’n amau’n rhesymol bod ganddynt gysylltiad personol ag unigolyn, grŵp neu sefydliad sy’n amhriodol, neu a allai gael ei ystyried yn amhriodol, adrodd am y mater cyn gynted â phosibl. Er cyfrinachedd, nid oes rhaid cyflwyno’r adroddiad drwy eu rheolwr llinell. Gellir anfon yr adroddiad yn uniongyrchol at yr Adran Safonau Proffesiynol gan ddefnyddio’r e-ffurflen.
Lle y bydd swyddog, staff neu wirfoddolwr yn ymwybodol o gysylltiad rhwng aelod arall o’r Heddlu ac unigolyn, grŵp neu sefydliad y mae angen adrodd amdano o dan y polisi hwn, mae gan yr unigolyn hwnnw gyfrifoldeb i adrodd am y mater wrth yr Adran Safonau Proffesiynol.
Ni ddylai unigolyn ymchwilio systemau’r heddlu er mwyn cadarnhau neu wrthbrofi ei bryderon neu amheuon o dan unrhyw amgylchiadau.
Yr Adran Safonau Proffesiynol
Bydd yr Adran Safonau Proffesiynol yn cynnal ymchwil priodol sy’n gymesur i’r amgylchiadau yr adroddwyd amdanynt i gadarnhau neu wrthbrofi’r pryder. Bydd yr Adran Safonau Proffesiynol yn asesu unrhyw risg a nodir ac yn sicrhau bod cynllun asesu risg cychwynnol yn cael ei roi ar waith.
Bydd y canlyniad yn cael ei gyflwyno i Bennaeth yr Adran Safonau Proffesiynol a all ymgysylltu â swyddogion neu staff eraill fel y bo’n briodol cyn dod i benderfyniad, a bydd yn caniatáu i’r unigolyn dan sylw a/neu ei gynrychiolydd i gyflwyno sylwadau. Bydd Pennaeth yr Adran Safonau Proffesiynol hefyd yn adolygu’r cynllun rheoli risg ar yr adeg hon.
Yr Uned Fetio
Rhoddir gwybodaeth i’r Uned Fetio, a fydd yn diweddaru eu cofnodion yn unol â hynny.
Y Dirprwy Brif Gwnstabl
Bydd y Dirprwy Brif Gwnstabl (DBG) yn ystyried unrhyw apeliadau ac fe all glywed sylwadau gan yr unigolion a/neu eu cynrychiolydd.
Mae egwyddorion y Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn -
Bydd yr Adran Safonau Proffesiynol yn monitro’r polisi hwn a’r ddogfen weithdrefn gysylltiedig bob yn eilflwydd er mwyn sicrhau -
Bydd yr Adran Safonau Proffesiynol yn rhoi unrhyw ddiwygiadau i’r polisi a’r ddogfen weithdrefn gysylltiedig ar waith a bydd y Cyd-bwyllgor Ymgynghori a Thrafod yn eu goruchwylio a’u cymeradwyo.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Medi 2025