Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod bod iechyd, diogelwch a lles pob swyddog, aelod staff, ymwelydd, contractwr a wirfoddolwyr o'r pwys mwtaf. Gan hynny, mae'r Heddlu wedi datblygu polisi Dim Ysmygu diwygiedig a dogfen ganllaw sy'n cydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth a restrir isod.
Nod y polisi hwn yw:
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd â’r ddogfen ganllaw Dim Ysmygu.
Mae’r polisi hwn yn disodli’r Polisi Dim Ysmygu blaenorol a gynhyrchwyd gan Heddlu Dyfed-Powys mewn perthynas ag ysmygu tybaco ar safle o eiddo’r heddlu ac mewn cerbydau heddlu.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, pa un ai a ydynt yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr), staff sydd ar secondiad neu’n wirfoddolwyr. Rhaid i bob swyddog, staff a gwirfoddolwr sy’n cael gafael ar asedau ac eiddo’r Heddlu a’u defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Crëwyd y polisi hwn yn unol â deddfwriaethau a chanllawiau.
Mewnol
Mae ffurflen Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi’i chwblhau.
Mae gan Heddlu Dyfed-Powys ddyletswydd i gydymffurfio â Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007 a Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau Di-fwg (Cymru) 2020. Gan hynny, bydd yn:
4.1 Gwahardd ysmygu ym mhob gweithle a mangre gaeedig a/neu sylweddol gaeedig* mae Swyddogion, staff a gwirfoddolwyr Heddlu Dyfed-Powys yn berchen arnynt a/neu’n eu meddiannu, gan gynnwys cyfleusterau ffreutur, ardaloedd bwyta, ystafelloedd gorffwys, ceginau, toiledau, cyfleusterau chwaraeon/hamdden.
4.2 Gwahardd ysmygu ym mhob mynedfa ac allanfa safle sy’n eiddo i’r heddlu neu unrhyw le ar ei dir (heblaw yn yr ardaloedd ysmygu penodol hynny, fel y nodir yn adran 9.0). Mae hyn yn cynnwys meysydd parcio, ac ardaloedd gwasanaeth dosbarthu.
4.3 Gwahardd ysmygu ym mhob gweithle a mangre gaeedig a/neu sylweddol gaeedig* o eiddo Heddlu Dyfed-Powys ond sy’n cael ei rhannu â sefydliadau eraill.
4.4 Bydd pob cerbyd sy’n cael ei berchnogi a’i weithredu gan Heddlu Dyfed-Powys yn ddi-fwg bob amser a rhaid arddangos Hysbysiad Dim Ysmygu mewn man amlwg yn y Cerbyd. Bydd pob swyddog, aelod staff ac eraill (e.e. gwirfoddolwyr, contractwyr) sy’n defnyddio unrhyw gerbydau mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau heddlu’n sicrhau bod y cerbydau’n ddi-fwg pan maen nhw’n cael eu defnyddio ar gyfer dibenion gwaith.
4.5 Dylai swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yr heddlu sydd eisiau cymryd eu hegwyl cinio mewn cerbyd heddlu fod yn ymwybodol y bydd yn rhaid iddynt gamu allan o’r cerbyd i wneud hynny os ydynt eisiau ysmygu yn ystod eu hegwyl swyddogol. Anogir pob swyddog, aelod staff a gwirfoddolwr i osod esiampl dda a gofynnir iddynt beidio ag ysmygu ar ddyletswydd.
*diffiniadau
Caeedig - ystyrir bod mangre’n “gaeedig” os oes ganddi nenfwd neu do (naill ai strwythur neu ddyfais sefydlog neu symudadwy), a heblaw am ddrysau, ffenestri neu dramwyfeydd, yn gwbl gaeedig, boed ar sail barhaol neu dros dro.
Sylweddol Gaeedig – ystyrir bod mangre’n ‘sylweddol gaeedig’ os oes ganddi nenfwd neu do (naill ai strwythur neu ddyfais sefydlog neu symudadwy), ond mae agoriadau yn y waliau, sy’n llai na hanner cyfanswm y waliau. Mae’r diffiniad hwn yn cynnwys strwythurau eraill sy’n gweithredu fel waliau ac sy’n ffurfio perimedr y fangre. Wrth bennu maint agoriad, ni ddylid ystyried agoriadau lle y gallai drysau, ffenestri neu ffitiadau eraill fod ar agor neu ar gau.
Mae egwyddorion y Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn a’r ddogfen ganllaw
gysylltiedig –
Mae'r polisi hwn yn anelu i gefnogi cyflenwi Ein Cynllun a'n Llw Diwylliant.
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu’n gyson er mwyn sicrhau ei fod dal yn berthnasol, a cheisir adborth gan randdeiliaid allweddol a’r gwasanaeth heddlu ehangach.
Bydd unrhyw adborth neu anfodlonrwydd â’r polisi’n cael ei gofnodi a’i drafod gyda pherchennog y polisi a chymerir camau gweithredu priodol.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Rhagfyr 2024