Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i sicrhau bod pob unigolyn yn cael ei drin yn deg gydag urddas a pharch o fewn ei amgylchedd gwaith. Fel cyflogwr, mae Heddlu Dyfed-Powys yn ceisio sicrhau bod cymorth rhesymol a phriodol ar gael I’r unigolon hynny sy’n profi camau amrywiol perimenopos ac ôl fenopos. Mae’n bwysig fod Heddlu Dyfed-Powys yn deall anawsterau a phryderon pawb sy’n profi’r newid hwn, a byddwn yn rheoli’r mater drwy godi ymwybyddiaeth, hyfforddi a datblygu pob arweinydd, rheolwr llinell a chydweithiwr.
Yn achos nifer o fenywod, mae’r menopos yn rhan naturiol ac anorfod o fywyd, ac yn aml, ystyrir ei fod yn effeithio ar fenywod yn eu pedwardegau hwyr neu eu pumdegau cynnar.
Fodd bynnag, gall effeithio ar fenywod iau oherwydd menopos cynnar, meddygol neu lawfeddygol. Gall hefyd effeithio ar bobl anneuaidd a thrawsryweddol. Cydnabyddir menopos gwrywaidd hefyd.
Er bod llawer ddim yn dioddef unrhyw symptomau, gall eraill ymdopi’n dda gyda’r newidiadau corfforol ac emosiynol a ddaw yn sgil menopos, ond i eraill, mae’n bwysig cydnabod y gall y rhain achosi anawsterau yn y gwaith a thu allan i’r gwaith, ac mae’n bwysig rhoi cymorth i’r rhai sydd ei angen.
Mae 3 cam i’r Menopos – Perimenopos, Menopos ac Ôl fenopos.
Mae’r menopos yn aml yn cael ei ystyried yn bwnc tabŵ neu ‘gudd’ ac mae’n aml yn cael ei gamddeall oherwydd diffyg gwybodaeth a thrafodaeth am y pwnc.
Yn groes i hyn, mae Heddlu Dyfed-Powys eisiau pawb i ddeall beth yw’r menopos, ac i unigolion fedru siarad amdano’n agored, heb deimlo embaras. Nid mater ar gyfer menywod a phobl eraill sy’n mynd trwy’r menopos yw hyn – mae gan ddynion ran bwysig i’w chwarae o ran cefnogi eu cydweithwyr, ffrindiau a theuluoedd hefyd.
Yn ôl adroddiad y Cyngor Meddygol Prydeinig yn 2022, mae rhwng 1% a 3% o fenywod yn profi’r menopos heb achos amlwg cyn 40 oed, a rhwng 5% a 10% yn ei brofi rhwng 40 a 44 oed. Gelwir hyn yn fenopos cynnar neu fethiant ofarïaidd cynamserol. Gall triniaethau llawfeddygol a meddygol a rhai cyflyrau, megis hysterectomi, triniaeth ffrwythlondeb, a therapi hormonau, achosi symptomau menopos. Gall y newidiadau sy’n digwydd yn y corff amrywio o ysgafn i ddifrifol, ac mewn rhai achosion, gall y symptomau fod yn wanychol. Heb y cymorth priodol, gall nifer o gydweithwyr deimlo eu bod ar eu pen eu hunain ac yn agored i niwed.
Mae’r polisi hwn yn nodi gwybodaeth am ddarparu’r cymorth iawn i reoli symptomau’r menopos yn y gwaith.
Ar gyfer staff, nid yw’r polisi hwn yn gytundebol ac nid yw’n ffurfio rhan o delerau ac amodau cyflogaeth. Os bydd Heddlu Dyfed-Powys eisiau diwygio’r polisi, yna ymgynghorir ag unigolion am y newidiadau arfaethedig drwy’r Undeb Llafur cydnabyddedig a rhwydweithiau cymorth staff. Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd â’r ddogfen ganllaw ar gyfer y menopos.
Mae’n berthnasol i’r canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, tymor penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, contractwyr a chymdeithion) staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Dylai swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yr Heddlu sy’n cael mynediad at asedau ac eiddo’r Heddlu ac sy’n eu defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Nod y polisi yw:-
Mae’r polisi hwn a’r ddogfen ganllaw gysylltiedig yn berthnasol i holl Swyddogion, Staff, Cwnstabliaid Gwirfoddol a Gwirfoddolwyr Heddlu Dyfed-Powys.
Mae dau brif linyn o’r gyfraith a allai ymwneud â’r cyfnod cyn diwedd y mislif a diwedd y mislif:
Dylid ystyried y cyd-destun cyfreithiol canlynol hefyd
Mewnol:
Cyfrifoldebau unigolion
Rhaid i bob swyddog, aelod staff a gwirfoddolwr wneud y canlynol –
Cyfrifoldebau Rheolwyr Llinell
Dylai pob rheolwr llinell:
Dylid cefnogi rhywun sydd â symptomau diwedd y mislif yn yr un ffordd â gweithiwr ag unrhyw gyflwr iechyd parhaus. Gall addasiadau bach i swydd neu batrwm gwaith rhywun ei helpu i reoli ei symptomau a pharhau i gyflawni ei swydd yn dda. Fel arfer, yr unigolyn sydd yn y sefyllfa orau i nodi beth allai ei helpu, felly dylai rheolwyr gael sgyrsiau agored gydag aelodau o’u timoedd
Lle nad yw addasiadau’n ddefnyddiol, neu os yw symptomau’n newid neu’n gwaethygu, rhaid i’r Rheolwr Llinell -
Cyfrifoldebau’r Adran Adnoddau Dynol
Bydd aelodau o’r tîm Adnoddau Dynol yn:
Cyfrifoldebau’r Tîm Iechyd Galwedigaethol
Rôl yr Uned Iechyd Galwedigaethol yw:
Cyfrifoldebau Unsain, y Ffederasiwn a Rhwydweithiau Cymorth Staff.
Mae egwyddorion y Cod Moeseg yn berthnasol I’r polisi hwn –
Mae'r polisi hwn yn anelu i gefnogi cyfelnwi Ein Cynllun a'n Llw Diwylliant.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn monitro gweithredu’r polisi hwn, ac mae ganddo’r disgresiwn i’w adolygu unrhyw bryd drwy fecanweithiau ymgynghori priodol ac yng ngoleuni unrhyw ddatblygiadau o ran deddfwriaethau cyflogaeth ac arferion cyflogaeth da.
Y tîm Datblygu Pobl a’r Sefydliad sy’n gyfrifol am weithredu, monitro a datblygu’r polisi hwn. Bydd y Bwrdd Pobl, Diwylliant a Moeseg yn goruchwylio’r polisi hwn.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mai 2025