Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod angen i gefnogi swyddogion heddlu a allai ddod o dan y diffiniad o ‘ddyletswyddau cyfyngedig’ yn unol â Rheoliadau’r Heddlu 2003 a Rheoliadau’r Heddlu (Diwygiad) 2015 (Offeryn Statudol 2015/455).
Lle nad yw swyddogion yn llwyr leoladwy am resymau meddygol, yn y gorffennol, maent wedi eu categoreiddio fel rhai sydd ar ‘ddyletswyddau cyfyngedig.’ Roedd y diffiniad hwn yn cwmpasu amrywiaeth eang o swyddogion, ac yn aml, ni wahaniaethwyd rhwng y rhai a oedd yn disgwyl canlyniad ymchwiliad camymddwyn, swyddogion nad oedd yn llwyr leoladwy ar sail tymor byr neu a oedd yn ymadfer, a’r rhai a oedd angen cyfyngiadau tymor hir ar eu lleoliad.
Mae Rheoliadau’r Heddlu (Diwygiad) 2015 (Offeryn Statudol 2015/455) a diffiniadau ategol wedi cyflwyno ‘dyletswyddau cyfyngedig’.
Mae’r polisi hwn yn sicrhau bod y rheoliadau hynny’n cael eu gweithredu’n deg a chyson i sicrhau manteision i’r sefydliad yn ogystal ag amddiffyn swyddogion.
Mae’n berthnasol ar gyfer y canlynol: Holl gategorïau swyddogion Heddlu Dyfed-Powys, pa un ai a ydynt yn swyddogion llawn amser neu ran amser. Rhaid i Swyddogion Heddlu sy’n cael gafael ar asedau ac eiddo’r Heddlu a’u defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae’r polisi hwn a’r ddogfen weithdrefn atodedig yn berthnasol ar gyfer Swyddogion Heddlu yn unig.
Mae’r polisi hwn a’r weithdrefn gysylltiedig yn cydymffurfio â’r canlynol:
Polisïau mewnol perthnasol:
4.1 Rolau a Chyfrifoldebau
Y Prif Gwnstabl Cynorthwyol yw’r gwneuthurwr penderfyniadau yn y broses dyletswyddau cyfyngedig.
Pennaeth Cyflenwi Gwasanaeth AD yw’r Perchennog Polisi ac mae’n cynghori’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol ynghylch polisi a gweithdrefn.
Mae’r adran Iechyd Galwedigaethol yn cynghori ynghylch ffitrwydd swyddog ar gyfer dyletswyddau arferol swyddog heddlu.
Bydd y swyddog yn adrodd am unrhyw gyfyngiadau i’w allu i ymgymryd â dyletswyddau arferol swyddog heddlu wrth ei reolwr llinell. Bydd hefyd yn cymryd rhan yn y broses adolygu, gan gynnwys asesiad o addasrwydd ar gyfer y swydd, addasiadau gweithle ac asesiadau risg.
Bydd y rheolwr llinell yn cofnodi unrhyw gyfyngiadau y mae’r swyddog yn adrodd amdanynt yn briodol ac yn ei gyfeirio ar gyfer barn feddygol lle bo’n addas.
Bydd y Swyddog AD yn cynghori’r rheolwr llinell ynghylch y camau gweithredu gofynnol ac yn cefnogi’r broses Dyletswyddau Cyfyngedig.
Gall cynrychiolwyr o’r Ffederasiwn Heddlu gynghori swyddogion a’u cefnogi drwy’r broses.
4.2 Cod Moeseg
Gweithredir egwyddorion plismona moesegol i benderfyniadau a wneir yn y broses hon. Yn benodol:
Dewrder – gwahoddir swyddogion i gymryd rhan mewn cyfarfodydd adolygu sy’n arwain at benderfyniadau’n cael eu gwneud gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol ynglŷn â’u haddasrwydd ar gyfer swyddi. Rhoddir gwybod i’r swyddog dan sylw’n uniongyrchol am benderfyniadau a’r rhesymau drostynt.
Parch ac empathi – wrth gymryd rhan yn y cyfarfodydd adolygu, anogir swyddogion i ddweud eu dweud, gan gynnwys esbonio eu hamgylchiadau personol a’r heriau corfforol, meddyliol ac emosiynol maen nhw’n eu hwynebu.
Gwasanaeth cyhoeddus – wrth wneud penderfyniadau ynghylch y swydd fwyaf addas ar gyfer swyddog, bydd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol yn ystyried addasiadau y mae’r swyddog eu hangen a’r angen i ddarparu adnoddau digonol ar gyfer blaenoriaethau’r heddlu a darparu gwasanaethau ardderchog i’r cyhoedd.
Adolygir y polisi hwn a’r ddogfen ganllaw gysylltiedig gan yr adran Gwasanaethau Pobl bob yn eilflwydd, gan ystyried ei effeithiolrwydd, newidiadau i ddeddfwriaethau, canllawiau cenedlaethol ac unrhyw newidiadau i’r polisi.
Bydd unrhyw ddiwygiadau i’r polisi hwn a/neu’r ddogfen weithdrefn gysylltiedig yn cael eu monitro gan yr adran Datblygu Pobl a’r Sefydliad a’u gweithredu drwy’r Cyd-bwyllgor Ymgynghori a Negodi.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Gorffennaf 2024