Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob Goruchwylydd a Rheolwr y sgiliau, galluoedd a gwerthoedd sydd angen i arwain a chyfarwyddo timoedd.
Mae’r polisi hwn a’r ddogfen weithdrefn gysylltiedig yn nodi’r fframwaith ar gyfer dethol swyddogion profiadol sydd â chymwysterau addas ar gyfer dyrchafiad i’r rheng nesaf, gan gwmpasu dyrchafiadau rhwng rheng Rhingyll i Brif Uwch-arolygydd.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Rhaid i bob Swyddog Heddlu o rengoedd Ffederal ac Arolygol o fewn Heddlu Dyfed-Powys roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Nod y polisi yw sicrhau’r canlynol:
Mae cyfle cyfartal yn rhan annatod o brosesau recriwtio a dyrchafu Heddlu Dyfed-Powys ac mae’r Heddlu wedi ymrwymo i sicrhau gweithlu sydd wir yn gynrychioladol. Gan hynny, mae’n croesawu ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned.
O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn cwmpasu’r nodweddion canlynol a warchodir:
Mae adran 60 Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cyfyngu’r amgylchiadau o dan ba rai y gall cyflogwyr ofyn cwestiynau i ymgeiswyr am anabledd neu iechyd. Gall unrhyw wiriadau cyn cyflogaeth o’r fath ond gael eu cynnal ar ddiwedd y broses recriwtio.
Mae Rheoliad 10A Rheoliadau’r Heddlu 2003 a Rheoliad 1ZA Rheoliadau Cwnstabliaid Gwirfoddol 1965 yn darparu ar gyfer cynnal chwiliadau sbeciannol ar broffiliau DNA ac olion bysedd a ddarperir gan ddarpar swyddogion heddlu a chwnstabliaid gwirfoddol yn erbyn y cronfeydd data lleol a chenedlaethol perthnasol. Gall darpar staff heddlu perthnasol hefyd fod yn ddarostyngedig i’r un gwiriadau.
Mewnol:
Mae’r polisi hwn yn gysylltiedig â Fframwaith Dyrchafu Cenedlaethol yr Heddlu, y Polisi Adolygiadau Datblygiad Perfformiad, a’r Polisi Presenoldeb a Pherfformiad.
Rolau a Chyfrifoldebau
Pennaeth Talent
Mae’r Pennaeth Talent yn gyfrifol am sicrhau bod digon o adnoddau a staff â sgiliau priodol ar gael i gefnogi’r broses ddyrchafu a’r gweithdrefnau gweithredu safonol.
Datblygu Pobl a’r Sefydliad
Bydd staff o’r adran Datblygu Pobl a’r Sefydliad yn cefnogi swyddogion a rheolwyr llinell drwy gydol y broses.
Bydd yr adran Datblygu Pobl a’r Sefydliad yn cadw cofnodion electronig o gyfweliadau, rhesymau dros benderfyniadau a wneir yn ystod pob cam o’r broses, a’r rhesymau dros benodi a pheidio â phenodi am 18 mis ar ôl i’r broses ddyrchafu ddod i ben, heblaw bod y Pennaeth Talent yn gallu cyfiawnhau cyfnod hirach (ac yna dim ond i’r graddau a ganiateir gan Ddeddf Diogelu Data 1998). Dim ond y rhai sydd angen mynediad ar gyfer dibenion penodol ac awdurdodedig fydd yn gallu cael mynediad i’r wybodaeth hon. Gwaredir ar gofnodion yn gyfrinachol.
Rheolwr Llinell/Pennaeth Adran
Bydd Rheolwyr Llinell yn cefnogi unigolion sy’n ceisio dyrchafiad drwy ddarparu asesiadau dyrchafu cytbwys sy’n seiliedig ar dystiolaeth a thrwy’r broses Proffil Asesu a Datblygu. Rhoddir adborth i swyddogion adeg Camau Tri a Phedwar o’r broses ddyrchafu a chynigir cymorth iddynt i’w cefnogi i ddatblygu cynllun datblygiad personol.
Rhaid i’r Rheolwr Llinell perthnasol, fel y manylir ar y ffurflen gais, a’r Pennaeth Adran gwblhau’r rhannau perthnasol o’r ffurflen gais i gadarnhau eu bod yn cefnogi’r ymgeisydd cyn ei chyflwyno.
Bydd swyddogion nad yw eu ceisiadau’n cael eu cefnogi’n derbyn adborth gan y Pennaeth Adran a/neu’r Rheolwr Llinell perthnasol. Cytunir ar feysydd i’w datblygu a’u cynnwys fel amcan(ion) o fewn y Proffil Datblygu ac Asesu. Yna, bydd angen cyflawni’r amcan(ion) er mwyn galluogi datblygiad i fwrdd dyrchafu yn y dyfodol.
Swyddogion Heddlu
Disgwylir i Swyddogion Heddlu cymwys gwblhau ffurflen gais ar gyfer dyrchafiad ac maen nhw’n gyfrifol am ei chyflwyno erbyn y dyddiad cau a nodir. Ni dderbynnir ffurflenni cais a gyflwynir ar ôl y dyddiad cau.
Panel Safoni
Bydd pob cais, gan gynnwys y rhai sydd ddim yn cael eu cefnogi, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer gan Banel Safoni sy’n cynnwys Swyddogion Uwch, a sicrheir eu hansawdd gan gynrychiolydd o’r adran Datblygu Pobl a’r Sefydliad, er mwyn sicrhau bod pob ymgeisydd sy’n cael ei wahodd am gyfweliad yn bodloni’r safon ofynnol.
Does dim hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y Panel Safoni. Bydd pob ymgeisydd sy’n aflwyddiannus yn ystod y cam panel safoni’n derbyn adborth manwl.
Bydd Ffederasiwn yr Heddlu / Cymdeithas yr Uwch-arolygwyr yn rhan o’r broses safoni er mwyn sicrhau cysondeb a thegwch. Bydd pob cais ar ffurf ddienw er mwyn sicrhau tryloywder. Rhaid bod penderfyniadau ynghylch dyrchafu’n seiliedig ar dystiolaeth ac yn dryloyw, ac yn cael eu dogfennu.
Safonau Proffesiynol
Bydd pob ymgeisydd ar gyfer dyrchafiad yn destun cliriad gan yr Adran Safonau Proffesiynol, cyn cael gwahoddoad am gyfweliad. Lle mae ymgeisydd yn destun ymchwiliad camymddwyn neu mae ganddo gŵyn sydd angen sylw o hyd/heb ei datrys yn ei erbyn, bydd y Pennaeth Talent, mewn ymgynghoriad â Phennaeth yr Adran Safonau Proffesiynol, yn penderfynu p’un a ellir datblygu cais y swyddog am ddyrchafiad ai peidio.
Mewn achosion prin, gall Pennaeth yr Adran Safonau Proffesiynol dynnu sylw’r Pennaeth Talent at y ffaith bod gan yr ymgeisydd faterion deallusrwydd / hanesyddol sydd angen eu hystyried ymhellach cyn dyrchafu’r swyddog. Os yw’r Pennaeth Talent yn credu y gallai fod yn briodol gohirio’r dyrchafiad o ganlyniad i’w wybodaeth / cudd-wybodaeth hon, hysbysir yr unigolyn a rhoddir cyfle iddo gyflwyno sylwadau ei hun neu drwy gyfaill heddlu.
Os penderfynir gohirio dyrchafiad, rhaid i’r swyddog greu cynllun gweithredu a nodi cyfnod ar gyfer ei gwblhau. Mae’n annhebygol iawn y bydd yn briodol gohirio dyrchafiad am fwy na 12 mis (os dilynir y cynllun gweithredu). Mewn achosion eithriadol, gall Pennaeth yr Adran Safonau Proffesiynol benderfynu bod y mater ymddygiad mor ddifrifol fel bod yn rhaid i’r swyddog ailymgeisio am ddyrchafiad fel bod modd ailasesu ei addasrwydd ar gyfer dyrchafiad yng ngoleuni ei ddatblygiad yn dilyn canlyniad yr achos ymddygiad.
Egwyddorion Cyflenwi
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth – Bydd unrhyw gymwysterau neu ofynion a weithredir i reng/swydd sydd â’r effaith, neu a allai fod â’r effaith, o atal ceisiadau gan grwpiau penodol o’r boblogaeth ond yn cael eu cadw os ellir eu cyfiawnhau o ran y swydd sydd i’w gwneud. Bydd proses Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ar wahân hefyd ac mae dogfen yn bodoli i gyd-redeg â’r polisi hwn fel y bo’n briodol. Gwneir addasiadau rhesymol ar gyfer swyddogion anabl er mwyn sicrhau, mor bell â phosibl, nad ydynt yn cael eu rhoi dan anfantais o gymharu ag ymgeiswyr sydd ddim yn anabl. Os oes angen addasiadau rhesymol, mae’n rhaid i’r ymgeisydd hysbysu’r heddlu mewn da bryd fel bod modd gwneud addasiadau priodol.
Sesiynau ymwybyddiaeth a chyfathrebu – Rhoddir gwybodaeth amserol i staff am y broses ddyrchafu, dyddiadau asesu, gofynion asesu, sesiynau ymwybyddiaeth a chyfleoedd dysgu i’w galluogi i gynllunio a rheoli eu cynlluniau gyrfa a datblygiad personol.
Monitro a Gwerthuso - Rhoddir ffurflen adborth ymgeisydd i bob ymgeisydd sy’n mynychu’r Bwrdd Dyrchafu / Cam 3 Fframwaith Dyrchafu Cenedlaethol yr Heddlu ac mae’r wybodaeth hon yn cael ei chyfuno â data meintiol ac ansoddol, gan gynnwys nifer yr ymgeiswyr, y canlyniadau ym mhob cam, a data amrywiaeth. Defnyddir y wybodaeth hon yn fewnol i nodi meysydd y mae angen eu gwella a dangos tystiolaeth o berfformiad drwy ofynion archwilio mewnol ac allanol.
Cyfrinachedd – Disgwylir i ymgeiswyr, aseswyr a staff sy’n gysylltiedig â’r broses ddyrchafu gynnal unplygrwydd y broses a gwybodaeth a geir fel rhan o’r broses honno.
Data a Dogfennaeth – Bydd data a geir mewn cysylltiad â’r broses ddyrchafu ond yn cael ei defnyddio ar gyfer y diben y mae’r wybodaeth wedi’i chasglu.
Cesglir gwybodaeth am hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred, anabledd ac oed er mwyn monitro nifer y ceisiadau gan grwpiau gwahanol. Ni ddefnyddir y wybodaeth hon yn ystod y broses ddethol neu unrhyw ddefnydd arall heblaw’r diben hwn, heblaw lle mae gwybodaeth wedi’i datgelu am anabledd â’r bwriad o geisio addasiadau rhesymol (felly, bydd y wybodaeth honno ond yn cael ei defnyddio neu ei datgelu i’r graddau y mae’n ofynnol gwneud hynny er mwyn galluogi sefydlu addasiadau rhesymol).
Mae egwyddorion y Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn a’r ddogfen weithdrefn gysylltiedig -
Mae'r polisi hwn yn anelu i gefnogi cyflenwi Ein Cynllun a'n Llw Diwylliant.
Bydd y polisi hwn yn cael ei fonitro gan yr unigolyn enwebedig o fewn yr adran Datblygu Pobl a’r Sefydliad.
Bydd adolygiad o’r dogfennau hyn yn cynnwys y canlynol -
Bydd unrhyw ddiwygiadau i’r polisi hwn yn cael eu gweithredu gan yr adran Datblygu Pobl a’r Sefydliad ar ôl cymeradwyaeth gan y Bwrdd Cynllunio Gweithlu Strategol.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Hydref 2025