Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r protocol hwn yn berthnasol ar gyfer holl swyddogion, staff a gwirfoddolwyr Heddlu Dyfed-Powys, a all wneud cais am gymorth i ymgymryd â hyfforddiant, cyfleoedd prentisiaeth neu weithgarwch addysg uwch arall.
Gweithredir y polisi hwn yn gyson i bawb. Mae’r Heddlu’n cydnabod yr amddiffyniad a roddir i swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yr heddlu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Y ‘nodweddion gwarchodedig’ sy’n gymwys ar gyfer amddiffyniad o dan y ddeddf yw: Oed, Anabledd, Ailbennu Rhywedd, Priodas a Phartneriaethau Sifil, Beichiogrwydd a Mamolaeth, Hil, Crefydd neu Gred, Rhyw, Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae’n berthnasol ar gyfer y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, pa un ai a ydynt yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr), yn staff sydd ar secondiad neu’n wirfoddolwyr. Rhaid i unrhyw swyddogion, staff neu wirfoddolwyr yr heddlu sy’n cael gafael ar asedau ac eiddo’r Heddlu a’u defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae egwyddorion cyffredinol y polisi hwn yn tanategu’r ffordd y mae Heddlu Dyfed-Powys yn creu Cytundeb Dysgu ffurfiol rhwng yr Heddlu a Swyddogion, Staff a Gwirfoddolwyr yr Heddlu sy’n ymgymryd â gweithgareddau dysgu o fewn eu swydd.
Cefnogir ceisiadau ar y sail ganlynol:
Rhaid i ymgeiswyr ymgyfarwyddo â’r amodau ar gyfer cymorth a’r Cytundeb Dysgu, fel y nodir yn y ddogfen hon, cyn gwneud cais.
Does dim byd yn y polisi hwn sydd wedi’i fwriadu i wrth-ddweud neu beidio â chydymffurfio mewn unrhyw ffordd arall â’r ddeddfwriaeth, polisi ac arweiniad a gynhwysir yn y canlynol:
Cyfrifoldebau’r Myfyriwr
Mae unigolion sy’n ymgymryd â hyfforddiant, Prentisiaethau neu raglenni Addysg Uwch yn gyfrifol am y canlynol:
Cyfrifoldebau’r Rheolwr/Goruchwylydd
Mae rheolwyr/goruchwylwyr yn gyfrifol am y canlynol:
Cyfrifoldebau’r Gwasanaethau Dysgu a Datblygu
Mae’r Gwasanaethau Dysgu a Datblygu’n gyfrifol am y canlynol:
Cyfrifoldebau’r Adran Adnoddau Dynol/Gwasanaethau Dysgu a Datblygu
Bydd yr adolygiad ac unrhyw ddiwygiadau’n ystyried:
Bydd y polisi’n cael ei adolygu’n ffurfiol gan y Gwasanaeth Dysgu a Datblygu o fewn yr amserlenni a gyhoeddwyd ar gyfer polisïau’r Heddlu.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Ionawr 2026