Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr llawn amser, rhan amser, parhaol, gweithwyr am gyfnod penodol, gweithwyr dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, partneriaid, a chontractwyr) a staff ar secondiad. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn. Mae’r polisi hwn hefyd yn berthnasol i briod neu bartneriaid sy’n goroesi cyn-swyddogion neu staff sy’n cael eu herlyn am drosedd ar ôl marwolaeth eu priod neu eu partner. Trwy gydol y polisi hwn, cyfeirir at bob unigolyn y mae’r polisi hwn yn berthnasol iddo (fel y nodir isod) fel ‘Aelod(au) Cynllun Pensiwn’.
Os felly, bydd yn rhoi tystysgrif i gyn-gyflogwr y cynllun. Yna, rhaid i gyflogwr y cynllun benderfynu a ddylid fforffedu pensiwn yr aelod staff ac i ba raddau.
Mae’n bosibl i’r Comisiynydd, fel yr ‘awdurdod goruchwylio pensiynau’, wneud cais i fforffedu pensiwn mewn perthynas ag aelod o staff yr heddlu, o dan Reoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2013. Cytunwyd rhwng Heddlu Dyfed-Powys a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh) y bydd unrhyw fforffediad o bensiwn staff yr heddlu yn cael ei gyfeirio at SCHTh fel yr awdurdod goruchwylio pensiynau.
Pan gaiff swyddog heddlu ei euogfarnu o drosedd, bydd y corff plismona lleol, fel yr awdurdod goruchwylio pensiynau ar gyfer swyddogion heddlu yng Nghymru a Lloegr, yn asesu a ydyw’r euogfarn yn gysylltiedig â gwasanaeth y swyddog. Os ydyw’r euogfarn yn gysylltiedig â gwasanaeth y swyddog, bydd y corff plismona lleol yn anfon crynodeb achos llawn i’r Swyddfa Gartref, a fydd yn adolygu ac yn prosesu’r cais, cyn ceisio penderfyniad gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried a oedd y drosedd:
Os felly, bydd yn rhoi tystysgrif i’r corff plismona lleol. Yna, rhaid i’r corff plismona lleol benderfynu a ddylid fforffedu pensiwn y swyddog, ac i ba raddau (hyd at 65% o gyfraniadau’r cyflogwr).
Mae gan y Prif Gwnstabl ddwy rôl wahanol yn yr achosion hyn:
Mae gan y broses fforffedu pensiwn dri cham:
Dylid adolygu pob achos lle mae aelodau cynllun pensiwn yn cael eu heuogfarnu o droseddau, a dylid ystyried a ydynt yn bodloni’r meini prawf sy’n berthnasol ar gyfer fforffedu pensiwn. Dylai’r Prif Gwnstabl (neu eu Swyddog Staff / cynrychiolydd) drafod y posibilrwydd o wneud cais i fforffedu â SCHTh, yr Adran Safonau Proffesiynol, yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol, ac arbenigwr pensiynau’r heddlu. Fel rhan o’r broses hon, dylid rhoi gwybod i’r aelod cynllun pensiwn a’i gymdeithas staff fod y Prif Gwnstabl (neu ei Swyddog Staff / cynrychiolydd) yn ystyried fforffedu pensiwn.
Mae canllawiau’r Gymdeithas Prif Weithredwyr Plismona a Throseddu yn nodi nad yw fforffedu pensiwn yn broses rhy gymhleth, ac er nad yw cyngor cyfreithiol yn ofyniad statudol, dylid ei ystyried ar gyfer pob achos, yn ôl ei rinweddau. Fel isafswm fodd bynnag, dylai’r CHTh gael cefnogaeth y Prif Weithredwr / Swyddog Monitro yn ei broses gwneud penderfyniadau. Gan fod gan y Swyddog Monitro ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod proses gwneud penderfyniadau’r CHTh yn gyfreithlon, mae’n darparu mwy o ddiogelwch rhag heriau cyfreithiol yn y dyfodol. Efallai y bydd swyddfeydd comisiynwyr heddlu a throseddu hefyd am ystyried unigolion eraill a allai gynorthwyo’r broses o wneud penderfyniadau, fel aelodau panel annibynnol.
Bydd y Prif Gwnstabl (neu eu Swyddog Staff / cynrychiolydd) yn darparu adroddiad i’r Comisiynydd, yn nodi’n fyr manylion am unrhyw swyddog neu aelod o staff yr heddlu a gafwyd yn euog o droseddau nad ydynt wedi’u cyfeirio at y Comisiynydd er mwyn ystyried fforffedu a’r rhesymau dros hyn.
Unwaith y bydd Heddlu Dyfed-Powys wedi darparu’r wybodaeth berthnasol, os ydyw SCHTh yn teimlo bod achos dros wneud cais, dylid paratoi adroddiad fel y gall y Comisiynydd wneud penderfyniad rhagarweiniol ynghylch a ddylid gwneud cais i fforffedu, yn dilyn achos llys.
Os caiff yr aelod cynllun pensiwn ei euogfarnu yn y llys, ar ôl cael ei gyhuddo o drosedd a allai ddod o fewn y diffiniadau a nodir ym mharagraffau 2.1 a 2.2 uchod, dylai’r heddlu roi gwybod i SCHTh o fewn 14 diwrnod o’r euogfarn.
Os rhoddir caniatâd i’r aelod cynllun pensiwn apelio, dylai’r Comisiynydd aros am ganlyniad yr apêl honno. Nid yw’r ddarpariaeth hon yn berthnasol pan wrthodir caniatâd i apelio i ddechrau a bod yr aelod cynllun pensiwn yn ceisio caniatâd i lys uwch.
Os nad yw’r Prif Gwnstabl yn ystyried y dylid gwneud cais, bydd ei gynrychiolydd yn rhoi gwybod i’r Prif Weithredwr, a fydd yn cynghori’r Comisiynydd. Ni fydd fforffedu’n cael ei ystyried os na chaiff yr aelod cynllun pensiwn ei euogfarnu o drosedd. Bydd y broses yn dod i ben ar y cam hwn.
Os nad oes cysylltiad rhwng y drosedd, neu droseddau, a rôl yr aelod cynllun pensiwn, ni fydd y cais yn cael ei wneud a bydd y broses yn dod i ben ar y cam hwn.
Bydd troseddau ac euogfarnau a gafwyd mewn gwledydd tramor, ac euogfarnau sydd wedi digwydd ar ôl i’r swyddog adael cyflogaeth yr heddlu, hefyd yn cael eu hystyried at ddiben fforffedu.
Nid yw cyfnod o garchar yn hanfodol i gychwyn y broses fforffedu; fodd bynnag, byddai cosb lai yn tueddu i awgrymu bod y drosedd, neu droseddau, yn llai difrifol.
Mae canllawiau’r Gymdeithas Prif Weithredwyr Plismona a Throseddu yn nodi’r canlynol o ran ‘difrifoldeb’:
Ni ddylai comisiynwyr heddlu a throseddu gyfyngu eu hunain i’r hyn y gellid ei ystyried fel y troseddau mwyaf difrifol, fel trais rhywiol neu ymosodiadau rhywiol. Ni ddylid eu perswadio ychwaith nad yw trosedd yn ddigon ‘difrifol’ i warantu ystyriaeth. Er bod y canllawiau presennol yn nodi mai dim ond ar gyfer achosion ‘difrifol’ y dylid fforffedu, nid yw hyn wedi’i ddiffinio. Mater i’r CHTh, ac yna’r Ysgrifennydd Cartref, yw penderfynu beth maen nhw’n ei gredu sy’n ddifrifol.
Mae Dyfarniad Harrington (pwynt 50 ymlaen) yn rhoi mwy o ganllawiau yn y maes hwn (gweler canllawiau’r Swyddfa Gartref – atodiad A). Os gall y CHTh ddangos tystiolaeth y byddai’r achos yn cael effaith negyddol ar farn y cyhoedd o’r gwasanaeth heddlu, dylid bwrw ymlaen.
Bydd y Prif Gwnstabl (neu eu Swyddog Staff / cynrychiolydd) yn rhoi gwybod i’r Swyddog Heddlu, aelod staff yr heddlu, neu’r pensiynwr bod y Prif Gwnstabl yn llunio adroddiad i’r Comisiynydd, gan ofyn am ystyriaeth ynghylch a ydyw fforffedu’r pensiwn yn briodol pan fydd adroddiad yn cael ei lunio (i’r Comisiynydd).
Bydd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o’r amgylchiadau pam y teimlir y gallai’r Comisiynydd ddymuno ystyried a ydyw fforffedu’r pensiwn yn briodol.
Bydd yr adroddiad yn cynnwys digon o wybodaeth (gweler ffurflen gais y Swyddfa Gartref ar gyfer fforffedu pensiwn yr heddlu):
Er mwyn galluogi’r Comisiynydd i ystyried a ddylid gwneud cais i’r Ysgrifennydd Cartref am dystysgrif fforffedu pensiwn;
Dylid atodi manylion pensiwn yr unigolion i adroddiad Heddlu Dyfed-Powys, gydag enghreifftiau o sut y byddai gwahanol ostyngiadau o ran canran yn effeithio ar y pensiwn. Mae canllawiau’r Swyddfa Gartref ar fforffedu pensiwn yr heddlu, ac achosion cyfreithiol, yn nodi nad oes isafswm y gellir ei fforffedu a bod y swm uchaf y gellir ei fforffedu yn 65% o gyfraniadau cyflogwyr a wnaed gan yr heddlu. Mae’r gweddill yn adlewyrchu cyfraniadau’r aelod ei hun na ellir eu fforffedu.
Efallai y bydd angen cynnwys dogfennau perthnasol neu ddeunydd arall ochr yn ochr â’r adroddiad i gynorthwyo yn y broses o wneud penderfyniadau. Dylai hefyd gynnwys unrhyw sylwadau ysgrifenedig gan y swyddog heddlu / aelod o staff (neu gyn-swyddog neu gyn-aelod o staff) neu sylwadau ysgrifenedig gan briod neu bartner sy’n goroesi swyddog heddlu / aelod o staff sydd wedi marw, y rhoddir 21 diwrnod iddynt i’w cyflwyno (mae gan y Comisiynydd yr opsiwn o fynnu bod yr unigolyn yn bresennol wyneb yn wyneb i wneud sylwadau ar lafar yn seiliedig ar y sylwadau ysgrifenedig).
Ar ôl cael adroddiad Heddlu Dyfed-Powys, bydd Prif Weithredwr SCHTh yn trefnu i’r Comisiynydd ystyried yr achos dros gais am fforffedu pensiwn o fewn 21 diwrnod.
Cyn gynted ag y bo’n ymarferol, bydd y Comisiynydd yn rhoi gwybod i’r swyddog, yr aelod o staff, neu briod neu bartner sy’n goroesi swyddog heddlu / aelod o staff sydd wedi marw dan sylw (yn ysgrifenedig) ei fod wedi cael yr adroddiad ac y bydd fforffedu ei bensiwn yn cael ei ystyried. Os gwneir penderfyniad cynnar i beidio â gwneud cais i’r Ysgrifennydd Cartref am dystysgrif, efallai na fydd angen y gofyniad hwn. (Ni ddylid datgelu Adroddiad Heddlu Dyfed-Powys nac unrhyw ddogfennaeth / deunydd ategol i’r swyddog, aelod o staff, na phriod neu bartner sy’n goroesi’r swyddog heddlu / aelod o staff sydd wedi marw ar y cam hwn).
Mae canllawiau’r Gymdeithas Prif Weithredwyr Plismona a Throseddu yn nodi y dylid rhoi sylw hefyd i lesiant yr aelod cynllun pensiwn. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydynt yn dal yn y carchar. Mae’n bosibl iawn nad yw’r unigolyn yn ymwybodol y gallai ei drosedd arwain at fforffedu, neu fod fforffediadau pensiwn yn bodoli. Os ydyw’r aelod cynllun pensiwn yn dal yn y carchar, gellir trosglwyddo gwybodaeth drwy swyddogion cyswllt y carchar, neu drwy Swyddfa’r Llywodraethwr, i’w wneud yn ymwybodol y gallai fod angen cymorth arno.
Os ydyw’r swyddog, aelod o staff, neu briod neu bartner sy’n goroesi swyddog heddlu / aelod o staff sydd wedi marw wedi cael caniatâd i apelio yn erbyn eu heuogfarn, dylai’r Comisiynydd aros am ganlyniad yr apêl cyn bwrw ymlaen.
Ar y cam hwn, dim ond penderfynu a ddylid gwneud cais i’r Ysgrifennydd Cartref am dystysgrif y mae’n rhaid i’r Comisiynydd ei wneud.
Mae fforffedu yn gosb ychwanegol at gosb llys, ac ni ddylid fforffedu hawliau pensiwn, ac eithrio mewn amgylchiadau difrifol. Ni fydd fforffedu bob amser yn berthnasol ym mhob achos, ond dylid ei ystyried bob amser lle bu’r drosedd yn drosedd difrifol a lle bo pryder gan y cyhoedd ynghylch camddefnyddio safle ymddiriedaeth y swyddog heddlu / aelod o staff neu’r priod neu bartner sy’n goroesi.
Bydd y Comisiynydd yn ystyried y cwestiwn ynghylch a ddylid gwneud y cais am dystysgrif fforffedu i’r Ysgrifennydd Cartref.
Rhaid gwneud cais ar ôl cael euogfarn, ond nid oes unrhyw derfynau amser ar gyfer gwneud cais am fforffedu ar gyfer swyddogion heddlu.
Dylai’r Comisiynydd hefyd ystyried yn benodol a ydyw’r canlynol yn wir mewn perthynas â’r swyddog heddlu, y cyn-swyddog heddlu neu’r aelod o staff:
Yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol dros swyddogion heddlu yw Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref.
Mae aelodau o staff yr heddlu yn cyfranogi yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar wahân, a’r Ysgrifennydd Gwladol perthnasol yw’r Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol. Pan fo’r Comisiynydd yn dymuno gwneud cais am fforffedu pensiwn mewn perthynas ag aelod o staff yr heddlu o dan Reoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2013, dylai geisio rhagor o wybodaeth gan: [email protected].
Dylai cais y Comisiynydd gynnwys yr wybodaeth hanfodol ganlynol:
Gallai gwybodaeth ddefnyddiol ychwanegol gynnwys:
Mae’r dogfennau i’w hatodi i’r adroddiad a allai fod yn berthnasol yn cynnwys:
Dylid anfon ceisiadau at:
Swyddogion heddlu: [email protected]
Staff yr heddlu: [email protected]
Pan fydd y Comisiynydd yn penderfynu gwneud cais am dystysgrif, rhaid i’r awdurdod goruchwylio pensiynau roi gwybod i’r aelod(au) cynllun pensiwn am y cais i’r Ysgrifennydd Cartref cyn gynted â phosibl.
Unwaith y bydd y Swyddfa Gartref yn cael y cais, bydd swyddogion yn ystyried yr wybodaeth a ddarparwyd, ac yn cysylltu â’r awdurdod goruchwylio pensiynau os oes unrhyw ymholiadau, neu os oes unrhyw wybodaeth bwysig wedi’i hepgor. Yna, caiff cyngor ffurfiol ei baratoi a’i gyflwyno i’w ystyried gan yr Ysgrifennydd Cartref.
Gwneir y penderfyniad ynghylch a ddylid cyhoeddi tystysgrif gan yr Ysgrifennydd Cartref, neu Weinidog Gwladol, ar ei ran o dan awdurdod dirprwyedig. Mae rhai o’r ffactorau y bydd yr Ysgrifennydd Cartref yn eu hystyried wrth lunio barn yn cynnwys:
Rôl yr Ysgrifennydd Cartref yw ardystio a ydyw’r drosedd a gyflawnwyd yn cael ei hystyried yn niweidiol iawn i fuddiannau’r wladwriaeth, neu’n debygol o arwain at golled ddifrifol o hyder yn y gwasanaeth cyhoeddus. Nid yw’n ofynnol i’r awdurdod goruchwylio pensiynau roi unrhyw arwydd o unrhyw swm na chyfran, na hyd unrhyw fforffedu y gallent fod yn ei ystyried er mwyn gwneud cais am dystysgrif gan yr Ysgrifennydd Cartref.
Unwaith y bydd y penderfyniad hwn wedi’i wneud, bydd swyddogion yn cysylltu â’r awdurdod goruchwylio pensiynau i’w hysbysu o’r canlyniad. Fel arfer bydd hyn yn cynnwys llythyr eglurhaol ffurfiol yn amlinellu’r rhesymau dros y penderfyniad, gyda’r dystysgrif wedi’i llofnodi wedi’i hatodi hefyd (os ydyw wedi’i chyhoeddi). Mae’r llythyr eglurhaol yn atgoffa’r awdurdod bod yn rhaid rhoi gwybod i’r aelod cynllun pensiwn sy’n destun fforffedu o ganlyniad y cais, a’r rhesymau drosto, ynghyd â chopi o’r dystysgrif (os ydyw wedi’i chyhoeddi). Dylai’r awdurdod goruchwylio pensiynau roi gwybod i’r unigolyn cyn gynted â phosibl ar ôl iddo gael y dystysgrif (os ydyw wedi’i chyhoeddi).
Os ydyw’r Ysgrifennydd Cartref yn gwrthod cyhoeddi tystysgrif, ni all y broses fforffedu fynd rhagddi ac mae’r broses yn dod i ben yma.
Bydd y Comisiynydd yn ystyried a ddylid fforffedu pensiwn yr aelod cynllun pensiwn ac, os felly, i ba raddau y dylid fforffedu’r pensiwn, ac am ba hyd.
Gwneir y penderfyniadau hyn fesul achos a byddant yn dibynnu ar fanylion pob achos. Ni ellir fforffedu pensiwn unigolyn fwy na 65% (a dim ond cyfraniadau sydd wedi’u gwneud gan yr heddlu).
Gallai ffactorau a allai ddylanwadu ar faint y fforffedu y mae awdurdod goruchwylio pensiynau yn penderfynu ei gymhwyso gynnwys:
Fel sy’n berthnasol ar gyfer Cam 1:
Os bydd y CHTh yn penderfynu fforffedu, bydd angen i’r SCHTh roi gwybod i’r aelod cynllun pensiwn, y Prif Gwnstabl, y Swyddfa Gartref, a’r adran bensiynau berthnasol, naill ai’n uniongyrchol neu drwy dîm cyflogres yr heddlu. Argymhellir ceisio cadarnhad gan y darparwr pensiwn y bydd y fforffediad yn cael ei gymhwyso, a bod yr wybodaeth hon yn cael ei chofnodi.
Dylai’r aelod cynllun pensiwn hefyd gael gwybod am ei hawl i apelio. Felly mae’n hanfodol bod cofnodion cywir a manwl yn cael eu cynnal drwy gydol y broses, rhag ofn y bydd yr aelod cynllun pensiwn yn dymuno apelio.
Efallai y bydd hefyd am hyrwyddo’r fforffedu, yn fewnol ac yn allanol. Yn fewnol, o bosibl ar y cyd â’r Adran Safonau Proffesiynol, bydd yn dangos i swyddogion ganlyniad posibl camwedd troseddol difrifol. Gallai hyn fod yn rhan o broses gyfathrebu fewnol ehangach sydd â’r nod o dynnu sylw at y gwaith y mae’r heddlu yn ei wneud i frwydro yn erbyn camymddygiad swyddogion. Yn allanol, bydd yn dangos ymrwymiad y CHTh i’r safonau uchaf, a chamau cadarn i’w cynnal. Efallai y bydd Comisiynwyr Heddlu a Throseddu hefyd yn dymuno rhoi gwybod i’w Panel Heddlu a Throseddu lleol.
Mae Rheoliad H5 o Reoliadau 1987 yn darparu ar gyfer hawl i apelio i Lys y Goron, yn erbyn penderfyniad yr awdurdod goruchwylio pensiynau i fforffedu’r pensiwn. Gall aelod cynllun pensiwn apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod goruchwylio pensiynau bod yr achos wedi dod o fewn cwmpas y rheoliadau perthnasol, a/neu yn erbyn hyd a lled y fforffedu. Gallai penderfyniad i ohirio’r penderfyniad ynghylch fforffedu yn dilyn cyhoeddi tystysgrif, mewn rhai amgylchiadau, fod yn niweidiol i apêl lwyddiannus ac yn agored i her.
Mae’r hawl i apelio yn bodoli ar ôl i’r fforffedu ddigwydd, hyd yn oed os ydyw’r achos dros dramgwydd yn ymwneud â ph’un a gyflawnwyd y drosedd mewn cysylltiad â’u gwasanaeth ai peidio.
O dan reolau Llys y Goron, dylid cyflwyno hysbysiad o apêl i’r llys ac unrhyw barti arall i’r apêl o fewn 21 diwrnod i’r diwrnod y cafodd yr unigolyn ei hysbysu o’r penderfyniad. Fodd bynnag, mae gan y llys ddisgresiwn i dderbyn apêl ar ôl y cyfnod hwnnw.
Mae hawliau apelio hefyd yn cael eu cynnwys yn Rheoliadau 2006 (rheoliadau 66(d) a 67(2)(d)) a Rheoliadau 2015 (rheoliad 216).
Rheoliad K5 o Reoliadau Pensiynau’r Heddlu 1987
Rheoliad 55 o Reoliadau Pensiynau’r Heddlu 2006
Pennod 5 Rhan 13 o Reoliadau Pensiynau’r Heddlu 2015
Canllawiau’r Swyddfa Gartref ar fforffedu pensiwn yr heddlu: Canllawiau ar sut i wneud cais am dystysgrif fforffedu pensiwn ar gyfer pensiynau swyddogion heddlu yn dilyn euogfarn o drosedd Fersiwn 1.0 – Cyhoeddwyd 11 Chwefror 2021
Fforffedu pensiwn heddlu’r Swyddfa Gartref: Ffurflen gais
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mehefin 2026