Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nod Heddlu Dyfed-Powys yw cefnogi trefniadau gweithio’n glyfrach ac arloesol sy'n dal i ddiwallu'r gwaith o ddarparu gwasanaethau effeithiol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ac anghenion y cyhoedd sy'n byw yn ardal Dyfed-Powys.
Mae cefnogi swyddogion a staff er mwyn sicrhau mwy o hyblygrwydd yn gofyn am ystyried ble, pryd a sut y cyflawnir gwaith; mae hyn yn sail i'r cysyniad o weithio'n glyfrach. Gall helpu i gynyddu cymhelliant swyddogion a staff, lleihau absenoldeb oherwydd salwch, hyrwyddo llesiant swyddogion a staff a denu/cadw gweithlu medrus a brwdfrydig.
Nod y polisi hwn a’r weithdrefn gysylltiedig yw rhoi fframwaith i reolwyr ar gyfer gweithredu ffyrdd newydd o weithio yn unol â gweithio'n glyfrach.
Mae'r polisi yn berthnasol i swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys yn unig, boed yn staff amser llawn, rhan-amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth) neu staff ar secondiad. Rhaid i unrhyw swyddog heddlu a staff heddlu sy'n cyrchu ac yn defnyddio asedau ac eiddo'r Heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae'r categori 'Ystwyth' o weithio'n glyfrach, fel y nodir o fewn y ddogfen weithdrefn gysylltiedig, yn berthnasol i staff yr heddlu’n unig.
3.1 Cydraddoldeb
Bydd ymrwymiad Heddlu Dyfed-Powys i gyfle cyfartal yn cael ei weld bob amser wrth weithredu'r polisi hwn a'r weithdrefn ategol. Bydd hyn yn sicrhau bod unigolion yn cael eu trin yn deg a heb wahaniaethu ar sail hil, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, rhyw, statws priodasol neu bartneriaeth sifil, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, aelodaeth neu weithgaredd undebau llafur, cred wleidyddol neu grefyddol, mamolaeth neu feichiogrwydd, ailbennu rhywedd ac euogfarn droseddol nad yw'n gysylltiedig.
3.2 Gofynion Cyfreithiol
Mae'r gofynion cyfreithiol canlynol wedi'u nodi yn y polisi hwn:
3.3 Polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau cysylltiedig
Polisi Gweithio Rhan Amser a Gweithio Hyblyg, Cynllun Oriau Hyblyg, Polisi Iechyd a Diogelwch, Canllawiau Gweithio’n Glyfrach - Cyflogai, Canllawiau Gweithio’n Glyfrach - Rheolwyr Llinell, Polisi Diogelu Data, Polisi Torri Diogelu Data, Polisi a Safonau Diogelwch Gwybodaeth
4.1 Beth yw Gweithio’n Glyfrach?
Mae gweithio’n glyfrach yn golygu bod yn fwy hyblyg ynghylch pryd a/neu ble rydym yn gweithio, a sut rydym yn defnyddio gofod a thechnoleg i ddarganfod ffyrdd newydd a mwy effeithiol o wneud pethau, e.e. patrymau gwaith amrywiol, gweithio o bell, defnyddio galwadau cynhadledd yn hytrach na chyfarfodydd corfforol ac ati. Gall y math hwn o weithio helpu i leihau costau, gwella cynhyrchiant a chanolbwyntio ar gwsmeriaid, yn ogystal â chefnogi llesiant unigolion a gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
4.2 Categorïau Gweithio’n Glyfrach
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod na fydd pob swydd yn gymwys ar gyfer gweithio ystwyth neu weithio gartref ond mae gweithio’n glyfrach yn cwmpasu mwy na dim ond pryd a ble rydych chi'n gweithio a dylid ystyried defnyddio amser ac adnoddau yn fwy effeithlon yn gyffredinol.
Er mwyn sicrhau ei bod yn glir ac yn gyson, bydd y graddau y gall rolau unigolion ddefnyddio gweithio ystwyth a gweithio gartref yn cael eu hasesu fel un o dri chategori: Ystwyth, Sefydlog a Gweithredol Sefydlog. Ceir diffiniad o'r categorïau o fewn y ddogfen weithdrefn gysylltiedig.
4.3 Biliau Cyfleustodau a Threth
Ni fydd Heddlu Dyfed-Powys yn ad-dalu unigolion am gostau cyfleustodau wrth weithio gartref, megis gwresogi, goleuo a band eang.
Mae gweithio gartref yn wirfoddol yn Heddlu Dyfed-Powys, ac o ganlyniad nid yw gwneud hawliad o'r fath i CThEF yn ddilys.
4.4 Offer
Yr offer safonol ar gyfer gweithwyr ystwyth yw: gliniadur, llygoden, bysellfwrdd, clustffonau ac un monitor (ar gais).
4.5 Telerau ac Amodau Gwasanaeth a Chytundeb Cyflogaeth (Staff yr Heddlu)
Bydd telerau ac amodau gwasanaeth, polisïau a gweithdrefnau presennol yn parhau i fod yn berthnasol i'r holl swyddogion a staff.
Yn achos staff yr heddlu sy'n 'optio i mewn' i weithio ystwyth, bydd cytundeb yn cael ei amrywio i nodi'n glir hyblygrwydd a chyfyngiadau'r trefniant gweithio ystwyth. Bydd y gweithle cytundebol a'r oriau gwaith yn aros yr un fath.
4.6 Rheolwyr Llinell
Nid yw rheoli gweithwyr ystwyth yn wahanol i arferion rheoli da bob dydd; dylai rheolwyr bennu amcanion penodol a gofynion canlyniadau clir i'w galluogi i asesu pa mor dda y mae'r unigolyn yn perfformio yn erbyn yr amcanion a'r canlyniadau hyn. Mae rheolwyr yn gyfrifol am hybu amcanion y polisi hwn a hyrwyddo’r newid diwylliannol sydd ei angen, sy’n cynnwys cael agwedd gadarnhaol tuag at ystyried ceisiadau ar gyfer gweithio’n glyfrach, (yn amodol ar anghenion y gwasanaeth) a chefnogi gweithredu’r ffyrdd newydd o weithio.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cadw'r hawl i dynnu'n ôl y cyfle i weithio ystwyth, gan gynnwys gweithio gartref, os torrir y Polisi Gweithio'n Glyfrach. Mae torri'r Polisi Gweithio'n Glyfrach yn cynnwys torri rheolau diogelwch a diogelu data.
Mae egwyddorion y Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn -
Mae'r polisi hwn yn anelu i gefnogi cyflenwi Ein Cynllun a'n Llw Diwylliant.
Datblygwyd y polisi hwn i alluogi Heddlu Dyfed-Powys i ddiwallu anghenion y boblogaeth y mae'n ei gwasanaethu yn y ffordd fwyaf effeithiol a hyblyg.
Mae’r polisi hwn yn ddarostyngedig i’r broses adolygu arferol. Mae cyfnod adolygu o dair blynedd o’r dyddiad cyhoeddi wedi’i gytuno. Datblygu Pobl a’r Sefydliad sy’n gyfrifol am adolygu’r polisi a chyfrifoldeb y Cyd-bwyllgor Ymgynghori a Thrafod Ffurfiol yw goruchwylio’r polisi.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Medi 2025