Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys a SCHTh wedi ymrwymo i weithredu fframwaith ar gyfer atal a chanfod twyll, llwgrwobrwyo a llygredigaeth yn y gweithle.
Cydnabyddir y gall twyll, lladrad a llygredigaeth gael eu cyflawni gan y rhai o fewn yr heddlu a SCHTh yn ogystal â'r rhai y tu allan i'r sefydliad. Mae atal twyll a llygredigaeth yn elfen hanfodol o gynnal enw da'r heddlu a SCHTh.
Mae twyll a llygredigaeth yn faterion difrifol sydd angen ymchwiliadau a chanlyniadau cadarn. Gall y rhai a geir yn euog o gyflawni twyll a llygredigaeth ddisgwyl wynebu erlyniad troseddol posibl a/neu ddiswyddo.
Nid oes rhaid i unigolyn elwa o’r twyll i fod yn euog o drosedd – cyn gynted ag y bydd yn gwneud gosodiad anwir / ffug, mae wedi cyflawni twyll; lle mae rhywun wedi gwneud camgymeriad gwirioneddol nid oes unrhyw dwyll.
Bwriad y polisi hwn a’r protocol sy’n cyd-fynd ag ef yw cynorthwyo’r holl staff a gwirfoddolwyr i adnabod pryd y gall gweithgareddau twyllodrus fod yn digwydd ac addysgu staff a gwirfoddolwyr i ddeall pryd y dylid rhoi gwybod am amheuaeth o dwyll a sut y dylid gwneud hyn. Mae’r polisi hwn hefyd yn rhoi arweiniad i swyddogion, staff a gwirfoddolwyr ynglŷn â’r broses Nawdd a Rhoddion. Mae dogfen weithdrefn Nawdd a Rhoddion ar wahân ar gael ar gyfer arweiniad ar fewnrwyd yr heddlu.
Bydd nodi gweithgarwch twyllodrus yn gynnar yn galluogi ymyrraeth gynnar ac uwchgyfeirio drwy'r sianeli priodol i gynnal ymchwiliad effeithiol lle bo angen.
Bydd cydymffurfio â’r polisi hwn a’r protocol cysylltiedig yn meithrin diwylliant parhaus o atebolrwydd ac yn sicrhau bod yr holl swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yn cynnal y lefel gonestrwydd ac uniondeb gofynnol.
Mae’n berthnasol i’r canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, tymor penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, contractwyr a chymdeithion) staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Dylai swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yr Heddlu sy’n cael mynediad at asedau ac eiddo’r Heddlu ac sy’n eu defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Dylid defnyddio’r polisi hwn a’r Protocol Gwrth-dwyll a Llygredigaeth sy’n cyd-fynd ag ef er mwyn grymuso’r holl staff a gwirfoddolwyr i gydnabod a deall risgiau twyll. Dylai’r holl staff a gwirfoddolwyr ymgyfarwyddo â chynnwys y polisi a’r protocol hwn fel eu bod yn gallu cynorthwyo i atal a chanfod ymddygiadau twyllodrus. Dylai'r holl staff a gwirfoddolwyr ymgyfarwyddo â'u cyfrifoldebau i herio ac adrodd am ymddygiad twyllodrus a amheuir.
Mae'r polisi hwn wedi'i gynllunio i sicrhau bod Heddlu Dyfed-Powys a SCHTh yn sicrhau cydymffurfiaeth wrth hyrwyddo gofynion adrodd am weithgarwch twyllodrus a amheuir. Mae'n ddyletswydd ar bob aelod o staff i gyflawni disgwyliadau o ran priodoldeb ac atebolrwydd ac i arwain drwy esiampl wrth sicrhau y cedwir at ofynion cyfreithiol, rheolau, gweithdrefnau ac arferion.
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd â'r Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol.
Mae'n bwysig bod yr holl staff a gwirfoddolwyr yn gallu adnabod gweithgaredd twyllodrus a bod ganddynt wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael iddynt a hyder ynddynt i ddelio'n effeithiol â'r materion hyn. Mae'r protocol ar wahân yn rhoi cyfeiriad clir yn hyn o beth.
Gallai diffyg ymwybyddiaeth o'r polisi a'r protocol hwn arwain at achosion o dwyll a llygredigaeth yn mynd heb eu canfod a / neu heb eu cofnodi. Bydd diffyg llywodraethu yn y maes hwn yn debygol o arwain at ddinistrio ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yng ngwasanaeth yr heddlu.
Gall twyll a llygredigaeth fod ar sawl ffurf. Mewn perthynas â’r polisi hwn, mae’r diffiniadau a’r ddeddfwriaeth canlynol yn berthnasol; er ei bod yn bwysig nodi nad yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr:
Gellir defnyddio’r term ‘Twyll’ i ddisgrifio gweithredoedd fel twyll troseddol, ffugio, blacmel, llygredigaeth, cynllwynio a chuddio ffeithiau materol a chydgynllwynio. I bwrpas ymarferol gellir diffinio twyll fel defnyddio twyll gyda'r bwriad o gael mantais, osgoi rhwymedigaeth neu achosi colled i barti arall.
Mae llygredigaeth yn weithred a wneir gyda'r bwriad o roi rhywfaint o fantais sy'n anghyson â dyletswydd swyddogol a hawliau eraill. Mae hyn yn cynnwys llwgrwobrwyo ond mae hefyd yn cynnwys rhagfarn (ee wrth ddethol neu ddyfarnu). Ymdrinnir â dehongliad ehangach o lygredigaeth heddluoedd o dan reoliadau'r heddlu, codau ymddygiad staff a chyfraith droseddol.
Fel arfer diffinnir lladrad fel cymryd bron unrhyw beth o werth heb ganiatâd y perchennog, gyda’r bwriad o’i amddifadu ef neu hi yn barhaol o’r eiddo a gymerwyd.
Deddf Twyll 2006
Mae Deddf Twyll y DU yn nodi bod unigolyn yn euog o dwyll os yw’n gwneud y canlynol:
Deddf Llwgrwobrwyo 2010 y DU
Mae’r ddeddf hon yn diffinio dau fath o lwgrwobrwyo:
Dan ddarpariaethau Adran 93 (1) Deddf yr Heddlu 1996:
‘Gall Comisiynydd Heddlu a Throseddu (CHTh) neu Brif Gwnstabl (PG), mewn cysylltiad â rhyddhau unrhyw un o’i swyddogaethau, dderbyn arian ac anrhegion neu fenthyg eiddo arall ar yr amod bod telerau eu rhoddion yn ymddangos yn briodol.
Gall y telerau ar gyfer derbyn anrhegion neu fenthyciadau o dan is-adran (1) gynnwys telerau ar gyfer nawdd masnachol unrhyw un o weithgareddau CHTh neu swyddogaethau’r Prif Gwnstabl a gynhelir ganddo.’
Dan ddarpariaethau Cod Ymarfer Rheolaeth Ariannol y Swyddfa Gartref ar gyfer Heddluoedd Cymru a Lloegr (‘Y Cod’):
‘Gall CHTh dderbyn arian neu anrhegion, neu fenthyg eiddo arall, os bydd hyn yn galluogi’r heddlu i wella neu estyn y gwasanaeth y byddai disgwyl iddynt ei ddarparu fel arfer. Gall y telerau ar gyfer derbyn anrhegion, benthyciadau a nawdd ganiatáu nawdd masnachol o rai gweithgareddau heddlu.
Gellir derbyn rhoddion a nawdd o unrhyw ffynhonnell sydd â rhesymau dilys llawn bwriadau da dros fod eisiau cefnogi prosiectau penodol. Yn gyfnewid am hyn, efallai bydd y darparwr yn disgwyl rhywfaint o gyhoeddusrwydd neu gydnabyddiaeth arall. Mae’n dderbyniol caniatáu i’r darparwr arddangos enw neu logo’r sefydliad ar ddeunydd cyhoeddusrwydd, ar yr amod nad yw’n dominyddu neu’n tynnu sylw oddi wrth ddiben y prosiect sy’n cael ei gefnogi.’
Mae'r Coleg Plismona yn cynnig gwasanaeth ar-lein sy'n darparu mynediad i ganllawiau cyfunol ar gyfer plismona o'r enw APP (Arferion Proffesiynol Awdurdodedig (APP) | Coleg Plismona
Mae’r Cod Moeseg yn sail i bob polisi, gweithdrefn, penderfyniad a gweithred ym maes plismona heddiw ac atgoffir yr holl staff bod angen cydymffurfio â’r Safonau Ymddygiad Proffesiynol ac egwyddorion y Cod Moeseg.
Mae'r Cyd-fframwaith Llywodraethu Corfforaethol yn nodi'r egwyddorion, y strwythurau a'r prosesau a ddefnyddir i lywodraethu SCHTh a Heddlu Dyfed-Powys, ar y cyd ac ar wahân. Mae'r Cyd-fframwaith Llywodraethu Corfforaethol yn amlinellu dull yr heddlu a SCHTh o atal twyll a llygredigaeth.
Mae’r Cyd-bwyllgor Archwilio yn gyfrifol am gynnal, o leiaf unwaith y flwyddyn, adolygiad annibynnol o effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu, rheoli risg a fframweithiau rheoli, gan gynnwys adroddiadau ariannol, prosesau llywodraethu blynyddol a chanfyddiadau archwilio mewnol ac allanol.
Mae’r polisi hwn yn cydymffurfio â Strategaeth Gwrth-lygredigaeth Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu 2021-22 ac mae asesiad Cudd-wybodaeth Strategol 2022 yr Asiantaeth Troseddol Cenedlaethol yn sail iddo.
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn mynnu bod atgyfeiriadau lladrad / twyll / llygredigaeth yn cael eu hatgyfeirio o dan y meini prawf atgyfeirio gorfodol. Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn penderfynu a oes angen ymchwiliad ac os felly pwy ddylai ymchwilio. Felly mae'r broses hon yn darparu llywodraethu a throsolwg pellach.
Rhoddion a Nawdd
Mae hyder cyhoeddus yn yr heddlu’n hollbwysig. Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn sicrhau tryloywder a gonestrwydd llwyr, ac ni fydd yn derbyn unrhyw roddion neu nawdd a fydd yn effeithio ar ei unplygrwydd neu foeseg neu a allai gael ei gamddehongli fel triniaeth ffafriol posibl gan gystadleuwyr.
Rhaid i roddion neu gynigion nawdd beidio â chyfaddawdu neu osod neu awgrymu amodau a fydd yn cyfyngu, neu’n ymddangos fel pe bai’n cyfyngu, ar allu’r heddlu i gyflawni ei swyddogaethau’n llawn a diduedd.
Diffiniadau
Rhodd
Rhodd yw’r weithred o drosglwyddo perchnogaeth o arian neu ased diriaethol arall fel anrheg am ddim. Gall hefyd gael ei estyn i gynnwys gwasanaethau (h.y. act neu actau’n perfformio am ddim) ond ni ddylid ei ystyried fel cytundeb neu nawdd neu fod ag unrhyw fwriad masnachol, rhwymedigaeth neu ymrwymiad cilyddol.
Nawdd
I ddiben y polisi hwn, diffinnir ‘nawdd’ fel ‘darpariaeth wirfoddol i’r gwasanaeth heddlu o arian nad yw’n arian cyhoeddus, gwasanaethau, offer neu adnoddau eraill.’
Llywodraethu
Pan dderbynnir rhodd neu gynnig nawdd, mae’r Comander URS neu’r Pennaeth Adran perthnasol, neu Brif Swyddog Cyllid y Prif Gwnstabl, yn gyfrifol am benderfynu pa un ai a yw’n dderbyniol mewn ymgynghoriad â’r adrannau Cyllid Corfforaethol, Caffael a Safonau Proffesiynol.
Bydd yr Adran Safonau Proffesiynol yn dal ac yn cynnal cofrestr o’r holl roddion a nawdd a dderbynnir gan Heddlu Dyfed-Powys.
Caiff Dalwyr Cyllideb Dirprwyedig dderbyn nawdd a rhoddion hyd at £1,000 ar ran y Prif Gwnstabl yn unol â’r Cynllun Dirprwyo.
Caiff y Prif Gwnstabl dderbyn nawdd a rhoddion hyd at £50,000.
Caiff Prif Swyddog Cyllid CHTh dderbyn rhodd neu nawdd hyd at werth o £50,000 ar ran CHTh Heddlu Dyfed-Powys.
Lle mae gwerth gwirioneddol neu asesiedig rhodd neu nawdd yn fwy na £50,000, rhaid cyfeirio’r penderfyniad i dderbyn at y CHTh i’w gadarnhau.
Ni chaiff y cyfanswm gwerth y gellir ei dderbyn mewn unrhyw flwyddyn ariannol, wrth ei ystyried ynghyd â gwerth rhoddion neu nawdd, fod yn fwy nag 1% (un y cant) o gyfanswm cyllideb cronfa’r heddlu yn flynyddol.
Ceir manylion llawn am sut y dylid cyflawni’r broses Rhoddion a Nawdd gyda’r Weithdrefn Rhoddion a Nawdd.
Proses Gymeradwyo: Bydd penderfyniadau cymeradwyo ynghylch gweithredu'r polisi hwn yn cael eu gwneud gan Bennaeth yr Adran Safonau Proffesiynol ar y cydâ'r Cyfarwyddwr Cyllid a'r Prif Swyddog Cyllid gyda goruchwyliaeth y Cyd-bwyllgor Archwilio.
Strategaeth gwrth-lygredigaeth yr Uned Gwrth-lygredigaeth: mae’r strategaeth yn nodi’r gweithdrefnau a’r prosesau ar gyfer ymateb Heddlu Dyfed-Powys i lygredd. Mae’n sefydlu fframwaith uchelgeisiol a hirdymor ar gyfer mynd i’r afael â llygredigaeth i gefnogi Strategaeth Gwrth-lygredigaeth Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu 2017-22 ac mae’n cael ei ategu gan Asesiad Cudd-wybodaeth Strategol 2019 yr Asiantaeth Troseddol Cenedlaethol. Mae'n nodi blaenoriaethau gwrth-lygredd a fydd yn ffocws i ymdrech yr Uned Gwrth-lygredigaeth.
Er mwyn sicrhau dealltwriaeth o'r prosesau sydd wedi'u cynnwys yn y strategaeth gwrth-lygredigaeth, mae personél yr heddlu (gan gynnwys gwirfoddolwyr), y mae'r polisi yn effeithio arnynt, yn cael hyfforddiant a’u hatgoffa'n rheolaidd.
Byddai methiannau sylweddol o fewn y gweithdrefnau a gynhwysir yn strategaeth gwrth-lygredigaeth yr heddlu yn cael eu cyfeirio at ‘Bwyllgor Dysgu’r Gwersi’ yr heddlu i’w hystyried.
Mae pob un o egwyddorion plismona moesegol y Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn, yn benodol:
Dewrder
Bydd herio a / neu adrodd yn cael ei wneud yn unol â'r opsiynau a amlygwyd sydd ar gael yn y protocol cysylltiedig.
Byddwn yn cymhwyso’r polisi a’r protocol hwn yn unol â’r angen i gadw gonestrwydd ac uniondeb yr unigolyn a’r sefydliad cyfan ac er mwyn sicrhau y cynhelir hyder y cyhoedd.
Byddwn yn atebol am y penderfyniadau, y camau gweithredu a'r hepgoriadau a wneir mewn perthynas â chymhwyso'r prosesau a'r gweithdrefnau a gynhwysir yn strategaeth yr Uned Gwrth-lygredigaeth.
Parch ac empathi
Byddwn yn trin pawb â pharch.
Bydd cymhwyso'r polisi hwn a'r protocol cysylltiedig yn seiliedig ar dystiolaeth a barn broffesiynol orau. Er enghraifft, efallai na fydd bob amser yn angenrheidiol adrodd am ymddygiad y mae rheolwyr a goruchwylwyr yn gallu canfod yn gynnar iddo fod yn gamgymeriad gonest, yn wahanol i ymddygiad sy'n anonest ac a allai fod yn drosedd o dwyll. Rhoddir sylw dyledus i amgylchiadau unigol a dylid ystyried statws y sawl sy’n adrodd fel ‘chwythwr chwiban’ lle bo angen.
Gwasanaeth cyhoeddus
Byddwn yn ymddwyn yn anhunanol ac er budd y cyhoedd. Byddwn yn agored ac yn dryloyw yn ein gweithredoedd a’n penderfyniadau a byddwn yn trin cudd-wybodaeth a gwybodaeth sy’n ymwneud â llygredigaeth â pharch a byddwn yn cael mynediad iddi neu’n ei datgelu wrth gyflawni ein gwaith yn briodol yn unig.
Bydd adran Safonau Proffesiynol Heddlu Dyfed-Powys a SCHTh yn monitro gweithrediad y polisi hwn ac yn arfer disgresiwn i'w adolygu ar unrhyw adeg trwy'r mecanweithiau ymgynghori priodol ac ystyried unrhyw ddatblygiadau mewn newidiadau deddfwriaethol ac arfer gorau.
Pennaeth yr Adran Safonau Proffesiynol a SCHTh a fydd yn gyfrifol am fonitro’r polisi’n rheolaidd ar gyfer:
Bydd unrhyw newidiadau i'r polisi hwn a'r protocol cysylltiedig yn cael eu gweithredu drwy'r Cyd-bwyllgor Archwilio ar y cyd â'r Cyfarwyddwr Cyllid a Phrif Swyddog Cyllid SCHTh.
Bydd ymgynghori â’r Cyd-bwyllgor Archwilio ac adborth ganddo ar lywodraethu, fel y manylir arno yn y Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol, yn rhan barhaus o fonitro ac adolygu'r polisi a'r protocol hwn.
Bydd adolygiadau o effeithiolrwydd y polisi a'r protocol hwn yn cynnwys adrodd yn rheolaidd i'r Cydbwyllgor Archwilio ac i'n harchwilwyr allanol. Bydd staff yr Adran Safonau Proffesiynol yn parhau i fonitro ac adolygu adroddiadau a wneir a dulliau adrodd a ddefnyddir mewn perthynas â phob gweithgaredd twyllodrus a amheuir. Bydd monitro ac adolygu yn cynnwys nodi cyfleoedd a gollwyd a chyfleoedd dysgu a allai arwain at newid prosesau er mwyn atal ymddygiad ailadroddus.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mehefin 2025