Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nod y polisi hwn yw sicrhau cysondeb a chywirdeb wrth gyfrifo a phennu gwyliau blynyddol a gwyliau cyhoeddus, gan fodloni Rheoliadau’r Heddlu 2003 (Rheoliad 33 ac Atodiad O)
Mae’r polisi hefyd yn sicrhau bod swyddogion yn ymwybodol o’u hawl i wyliau blynyddol a’r gofynion gweithdrefnol mae’n rhaid iddynt ddilyn wrth wneud cais am wyliau blynyddol.
Mae’r polisi hwn a’r ddogfen ganllaw gysylltiedig yn berthnasol i bob swyddog heddlu o rengoedd cyfunol yn Heddlu Dyfed-Powys, gan gynnwys y rhai sydd wedi’u pennu i dimoedd ac adrannau arbenigol, a’r rhai mewn rolau anweithredol.
Dylid darllen y ddogfen bolisi hon ar y cyd â’r ddogfen ganllaw Gwyliau Blynyddol ar gyfer Swyddogion Heddlu, a’r canlynol: -
Mae Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi’i gwblhau.
Amlinellir rhestr o gyfrifoldebau yn y ddogfen ganllaw Gwyliau Blynyddol ar gyfer Swyddogion Heddlu.
Mae egwyddorion Gwasanaeth Cyhoeddus, Dewrder, a Pharch ac Empathi’r Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn.
Mae'r polisi hwn yn anelu i gefnogi cyflenwi Ein Cynllun a'n Llw Diwylliant.
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu’n rheolaidd, a cheisir adborth gan randdeiliaid allweddol a’r gwasanaeth heddlu ehangach.
Cofnodir unrhyw adborth neu anfodlonrwydd â’r polisi a’i drafod gyda pherchennog y polisi a chymerir camau gweithredu priodol.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Rhagfyr 2024