Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r polisi hwn a'r ddogfen gweithdrefnau cysylltiedig yn nodi sut y bydd y Tîm Cyflogres, Datblygu Pobl a’r Sefydliad, yn ymdrin â hawliadau taliadau am lwfansau cynhaliaeth a milltiredd.
Mae'r polisi a’r ddogfen gweithdrefnau cysylltiedig yn gysylltiedig â Rheoliadau'r Heddlu a Chyngor Staff yr Heddlu.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr amser llawn, rhan-amser, parhaol, am gyfnod penodol neu dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, partneriaid a chontractwyr), a staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r Heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl swyddogion heddlu, staff heddlu, a staff o fewn Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu.
Mae'r polisi hwn yn gweithio yn unol â Rheoliadau'r Heddlu a'r telerau ac amodau a nodir yng Nghyngor Cymorth Staff yr Heddlu.
Dylai holl swyddogion heddlu a staff heddlu fod yn ymwybodol o'r polisi hwn a chadw ato.
Bydd holl swyddogion heddlu a staff heddlu yn cael ad-daliad o’r gwariant cynhaliaeth gwirioneddol a dynnwyd yn ystod eu dyletswydd cyn belled ag y tybir bod hyn yn –
Angenrheidiol, Rhesymol, Cymwys, Ychwanegol i'r hyn y byddai'r unigolyn wedi'i ysgwyddo fel arall, ac Wedi'i gefnogi gan dderbynneb TAW.
Mae holl swyddogion heddlu a staff heddlu yn gyfrifol am gostau teithio cymudo rhwng eu cartref a'u gweithle parhaol.
Mae unrhyw hawliad am gynhaliaeth neu filltiredd o fewn pum milltir i weithle parhaol yn drethadwy.
Rheoliadau'r Heddlu
Telerau ac Amodau, Cyngor Staff yr Heddlu
Mae'r Arbenigwr Cyflogres yn gyfrifol am fonitro'r polisi hwn a'r ddogfen gweithdrefnau cysylltiedig gyda chymeradwyaeth y Cyfarwyddwr Cyllid.
Bydd y Tîm Cyflogres, Datblygu Pobl a’r Sefydliad, yn sicrhau bod yr holl hawliadau a dderbynnir ac a dalwyd yn cydymffurfio â'r polisi hwn a'r ddogfen gweithdrefnau cysylltiedig.
Mae holl swyddogion heddlu a staff heddlu yn gyfrifol am sicrhau bod pob hawliad a wneir i’r Tîm Cyflogres am lwfans cynhaliaeth a milltiredd yn cydymffurfio â'r polisi hwn a'r ddogfen gweithdrefnau cysylltiedig.
Mae’r egwyddorion canlynol yn y Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn –
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu bob dwy flynedd.
Bydd y polisi'n cael ei fonitro gan y Tîm Cyflogres i sicrhau ei fod yn parhau'n effeithiol, yn addas i'r pwrpas, ac i adlewyrchu unrhyw heriau i'r polisi a newidiadau i brosesau/canllawiau cenedlaethol / yr Heddlu.
Bydd unrhyw newidiadau i'r polisi hwn a/neu'r ddogfen gweithdrefnau cysylltiedig yn cael eu gweithredu yn dilyn cymeradwyaeth gan y Bwrdd Cyllid Strategol.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Medi 2024