Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Iechyd Galwedigaethol yn gyfrifoldeb a rennir. O dan y gyfraith, mae Heddlu Dyfed-Powys (HDP) yn gyfrifol am iechyd a diogelwch ei swyddogion a’i staff, sydd, yn eu tro, â chyfrifoldeb i ofalu am eu hiechyd a diogelwch eu hunain. Mae Heddlu Dyfed-Powys a’i weithwyr yn gyfrifol am ofalu am iechyd a diogelwch eraill.
Mae’n berthnasol i’r canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Yr holl weithwyr Iechyd Galwedigaethol a gyflogir gan Heddlu Dyfed-Powys, gan gynnwys staff Iechyd Galwedigaethol asiantaeth, boed yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, tymor penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, contractwyr a chymdeithion) neu staff ar secondiad. Dylai unrhyw weithiwr sy’n cael mynediad at asedau ac eiddo’r Heddlu ac sy’n eu defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae iechyd galwedigaethol yn cofleidio:
Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr. Mae’n cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.
Mae’r egwyddorion Cod Moeseg canlynol hefyd yn gyson â chod y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac yn berthnasol ar gyfer y polisi Iechyd Galwedigaethol hwn..
Egwyddorion plismona
Codau’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Bydd y polisi’n cael ei adolygu ar ôl blwyddyn i ddechrau, a bob yn ail flwyddyn wedi hynny. Bydd unrhyw ddiwygiadau newydd yn cael eu hychwanegu a’u cofnodi’n briodol.
Mae’r gweithdrefnau canlynol yn berthnasol o fewn y polisi hwn ar gyfer Adran Iechyd Galwedigaethol Heddlu Dyfed-Powys.
Bydd archwiliad misol o’r holl nodiadau clinigwyr yn cynnwys detholiad ar hap o 2 adroddiad a 2 set o nodiadau clinigol gan bob clinigwr, gan gynnwys nyrs sgrinio, Ymgynghorwyr Iechyd Galwedigaethol, Ymgynghorydd Cyhyrysgerbydol, Cwnsler ac Ymgynghorwyr Meddygol yr Heddlu. Gwneir hyn gan ddefnyddio arf archwilio a rhoddir y canlyniadau i bob unigolyn a’i reolwr llinell. Cedwir yr holl ganlyniadau, adborth ac adolygiadau ar olrheiniwr archwilio.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Hydref 2023