Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i sicrhau rheolaeth dda ar berfformiad a gwelliant parhaus drwy'r Datblygiad blynyddol parhaus a’r Broses Proffil Datblygu ac Asesu (DAP) a datblygiad proffesiynol yr holl swyddogion, staff a gwirfoddolwyr a enwir.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn hyrwyddo cydraddoldeb a thegwch yn y gwaith yn gadarnhaol ac fel cyflogwr cyfle cyfartal, ni fydd yn gwahaniaethu yn erbyn unigolion yn y ffordd y caiff y Proffil Datblygu ac Asesu ei reoli oherwydd eu hoedran, hil, rhyw, ailbennu rhywedd, anabledd, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth.
Mae’n berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i: Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, pa un ai a ydynt yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol neu dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr), staff sydd ar secondiad neu’n wirfoddolwyr.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i Swyddogion yr Heddlu, Staff yr Heddlu, ac aelodau'r Heddlu Gwirfoddol (uwch rengoedd yn unig) ac mae'n dilyn canllawiau cenedlaethol a gyhoeddwyd gan y Coleg Plismona.
Mae'r polisi yn nodi'r egwyddorion a'r broses y mae angen i unigolion eu dilyn wrth gwblhau eu Proffil Datblygu ac Asesu (DAP). Mae’r polisi hwn yn anelu i roi cyngor ac arweiniad clir i reolwyr llinell a staff ar sut y dylid gweithredu’r broses DAP.
Noder: Bydd Cwnstabliaid Gwirfoddol, Rhingylliaid Gwirfoddol ac Arolygwyr Gwirfoddol yn cwblhau DAP drwy'r system Taflen Ddyletswydd a bydd y Prif Arolygydd Gwirfoddol a’r rhengoedd uwch yn cwblhau DAP gan ddefnyddio system Heddlu Dyfed-Powys.
Gofyniad gorfodol yw’r Safon Datblygiad Cyflog a nodir yn Rheoliadau’r Heddlu 2003 (Rheoliad 24 – Atodiad F (Diwygiadau). Bydd y safon hon yn berthnasol ar gyfer swyddogion heddlu sydd ar raddfa gyflog gynyddol ac sydd heb gyrraedd brig y pwynt cyflog eto.
Mae'n hanfodol bod unigolion, y rheolwyr llinell a'r ail reolwyr llinell yn ymwybodol o'r hyn a amlinellir yn y dogfennau polisi a gweithdrefn, gan fod y ddwy’n chwarae rhan ganolog mewn cwblhau proses DAP ystyrlon a sicrhau bod cyfleoedd datblygu yn cael eu hamlygu a'u gweithredu.
Bydd y Grŵp Prif Swyddogion ac Adnoddau Dynol yn monitro cyfraddau cwblhau'r DAP er mwyn sicrhau bod yr holl Swyddogion a staff yn cael yr amser gwaith angenrheidiol i gwblhau'r broses a bod unigolion a rheolwyr llinell yn ymgysylltu â'r system.
Bydd cyfraddau cwblhau DAP yn cael eu cyfleu ar gyfathrebu'r Heddlu a byddant yn cael eu cynnwys yn y Bwrdd Pobl, Diwylliant a Moeseg.
Wrth gyflawni nodau ac amcanion y polisi hwn bydd yr Heddlu yn gwneud y peth iawn yn y ffordd iawn ac yn bodloni egwyddorion y Cod Moeseg Plismona.
Mae’n bwysig bod rheolwyr llinell yn trin yr holl staff yn deg heb wrthrychedd, nid yn unig drwy ddarparu gradd yn unol â’r dystiolaeth a ddarparwyd ond hefyd drwy sicrhau bod pawb yn cael yr amser gwaith angenrheidiol i gwblhau DAP ystyrlon.
I’r gwrthwyneb, rhaid i unigolion fod yn onest ac yn agored am eu perfformiad a’r gwaith y maent yn ei gwblhau drwy fod yn atebol am eu gweithredoedd, eu datblygiad a’r amser a gymerant i gwblhau DAP.
Mae’r egwyddorion Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn a’r ddogfen weithdrefn gysylltiedig:
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o’r ansawdd gorau i’r cymunedau a wasanaethir ganddo. Mae'r DAP yn arf defnyddiol i helpu i fonitro a chynnal perfformiad gwych.
Mae'r polisi hwn yn sicrhau bod safon yn cael ei defnyddio ar gyfer pob DAP ac y bydd pob gweithiwr cymwys yn cael DAP yn ystod y flwyddyn.
Mae'r polisi hwn yn sicrhau bod rhwymedigaethau cyfreithiol yn cael eu bodloni.
Yr adran Datblygu Pobl a’r Sefydliad sy'n berchen ar y polisi hwn ac mae'n cael ei adolygu'n rheolaidd trwy'r Grwpiau Ymgynghorol Anffurfiol a Ffurfiol ar gyfer Swyddogion Heddlu a Staff yr Heddlu.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mehefin 2024