Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nod y polisi yw rhoi fframwaith ar gyfer arfer gorau o ran recriwtio a dethol, a sicrhau:
Rhaid gweithredu’r polisi hwn yn deg, cyfartal a chyson, ni waeth am oed, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol neu unrhyw nodweddion gwarchodedig.
Mae’r polisi hwn a’r ddogfen weithdrefn gysylltiedig yn disodli polisïau recriwtio a dethol staff heddlu blaenorol yn ogystal â dethol swyddogion heddlu ar gyfer swyddi arbenigol.
Er ei fod yn cael ei weithredu’n unol â’r llawlyfr staff, mae’r polisi hwn a’r ddogfen weithdrefn gysylltiedig yn rhoi mwy o fanylion am recriwtio a dethol o fewn yr heddlu a’r prosesau y dylid glynu wrthynt. Nid yw’r polisi hwn yn ffurfio rhan o delerau ac amodau cyflogaeth staff yr heddlu, a gall fod yn agored i newid yn ôl disgresiwn Prif Swyddogion.
Mae’r polisi’n berthnasol i’r canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny: Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, pa un ai a ydynt yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr), staff sydd ar secondiad neu’n wirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion, staff a gwirfoddolwyr sy’n cael gafael ar asedau ac eiddo’r Heddlu a’u defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Ystyrir yr holl ddeddfwriaethau cyflogaeth cyffredinol wrth gynhyrchu neu adolygu’r polisi a gweithdrefnau cysylltiedig. Agweddau allweddol o ddeddfwriaeth yw:
Deddf Cydraddoldeb 2010
Rheoliad 10A Rheoliadau’r Heddlu 2003
Rheoliad 1ZA Rheoliadau Cwnstabliaid Gwirfoddol 1965
Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996
Polisi Dyrchafu a Dethol Swyddogion Heddlu
Rheoli Gweithwyr ar Brawf
Polisi Rheoli Newid
Rheoliadau Gweithwyr Asiantaeth.
Gweithdrefn Recriwtio a Dethol
Nod unrhyw broses recriwtio a dethol yw penodi’r unigolyn gorau ar gyfer y swydd. Mae nifer o rolau a chyfrifoldebau arbennig o fewn y broses recriwtio. Nodir y rhain isod:
Cyfrifoldeb Rheolwyr Llinell/Adran
4.1 Proffil Rôl
4.2 Ffurflen Gais Swydd Wag
4.3 Recriwtio a’r broses gynefino
Tîm Recriwtio Datblygu Pobl a’r Sefydliad
Er mwyn sicrhau effeithiolrwydd y polisi hwn a’r ddogfen weithdrefn gysylltiedig, bydd yn cael ei adolygu gan yr adran Datblygu Pobl a’r Sefydliad bob tair blynedd. Ystyrir unrhyw heriau, newidiadau i ddeddfwriaethau a chanllawiau cenedlaethol.
Bydd unrhyw ddiwygiadau i’r polisi neu’r ddogfen weithdrefnau gysylltiedig yn cael eu gweithredu gan yr adran Datblygu Pobl a’r Sefydliad gyda chymeradwyaeth y Bwrdd Pobl, Diwylliant a Moeseg.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mawrth 2026