Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nod y polisi hwn yw sicrhau ymagwedd resymegol a chyson at ailstrwythuro, adleoli a dileu swyddi yn Heddlu Dyfed–Powys, gan ddarparu triniaeth deg a chyfiawn i staff beth bynnag fo'u sefyllfa o ran eu Hoedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol neu'r Gymraeg.
Mae’n berthnasol ar gyfer staff heddlu llawn amser, rhan amser, parhaol, tymor penodol, a dros dro.
Mae’n berthnasol i’r canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, tymor penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, contractwyr a chymdeithion) staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Dylai swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yr Heddlu sy’n cael mynediad at asedau ac eiddo’r Heddlu ac sy’n eu defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl staff yr heddlu ac yn nodi dull yr heddlu o ymdrin ag ailstrwythuro, adleoli a dileu swyddi. Nid yw'r polisi yn rhan o delerau ac amodau cyflogaeth cyflogeion a gellid ei newid yn ôl disgresiwn y rheolwyr.
Mae’r polisi hwn yn ymwneud â ‘Darpariaethau Anghyflogaeth’ yr Heddlu a Llawlyfr Cyflog ac Amodau Gwasanaeth Staff yr Heddlu.
Mae’r Cyfarwyddwr/Pennaeth Adran yn gyfrifol am weithredu’r newidiadau arfaethedig gyda chymorth, cyngor ac arweiniad gan yr adran Datblygu Pobl a’r Sefydliad.
Mewn ymgynghoriad â’r adran Datblygu Pobl a’r Sefydliad, bydd rheolwyr llinell yn sicrhau bod y gronfa ar gyfer dethol yn cael ei nodi’n gywir a bod y meini prawf dethol a ddefnyddir yn wrthrychol ac yn cael eu gweithredu’n deg.
Gweithredir y Cod Moeseg i benderfyniadau a wneir yn y broses hon. Yn benodol:
Mae'r polisi hwn yn anelu i gefnogi cyflenwi Ein Cynllun a'n Llw Diwylliant.
Er mwyn sicrhau effeithiolrwydd y polisi hwn, cynhelir adolygiad bob tair blynedd, gan ystyried heriau i’r polisi ac unrhyw newidiadau i ddeddfwriaethau a chanllawiau cenedlaethol.
Yr adran Datblygu Pobl a’r Sefydliad fydd yn cynnal yr adolygiad. Bydd pob diwygiad i’r polisi’n cael ei oruchwylio a’i gymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor Ymgynghori a Negodi.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Ionawr 2025