1. Datganiad Polisi
- Mae gan bob swyddog ac aelod staff rôl hollbwysig i’w chwarae o ran sicrhau y darperir y safon gwasanaeth uchaf i’r gymuned. Gan hynny, mae’r Heddlu wedi ymrwymo i greu amgylchedd lle mae gan bawb y cyfle i gyflawni ei botensial llawn, waeth beth yw ei swydd yn y sefydliad.
- Er mwyn meithrin yr amgylchedd hwn, cydnabyddir hefyd ei bod hi’n hanfodol bod pob swyddog ar brawf yn deall yn llawn y safonau presenoldeb, perfformiad ac ymddygiad a ddisgwylir ohonynt. Fodd bynnag, bydd adegau pan na fyddant yn bodloni’r safon ofynnol.
- Gan hynny, nod y polisi hwn a’r weithdrefn gysylltiedig yw cynorthwyo rheolwyr, hyfforddwyr a staff i nodi pa gymorth sydd angen i wella’r sefyllfa’n gyflym. Bwriedir iddo fod yn fecanwaith cadarnhaol a chefnogol i alluogi pob swyddog ar brawf i gyflawni’r safonau disgwyliedig a chyson a ddisgwylir ohonynt mewn modd mwy teg a chyson. Ystyrir pob achos yn ôl ei haeddiant ei hun.
Diben y polisi yw:
- sicrhau bod pob aelod staff yn ymwybodol o’i hawliau a’i rwymedigaethau o dan y polisi hwn ac yn deall y recordio, monitro a gweithdrefnau y gall Heddlu Dyfed-Powys ddefnyddio mewn perthynas â phryderon am dangyflawni, presenoldeb ac ymddygiad
- rhoi fframwaith wedi’i strwythuro i reolwyr a goruchwylwyr i’w cynorthwyo i reoli tangyflawni a phresenoldeb, a mynd i’r afael â phryderon am ymddygiad
- sicrhau bod pob swyddog ar brawf yn cael ei drin yn deg a chyson
- creu cyfle ar gyfer cymryd camau gweithredu cadarnhaol i wella perfformiad a lles swyddogion ar brawf drwy eu cynorthwyo i oresgyn unrhyw anawsterau a allai effeithio ar eu gallu i weithio’n effeithiol
- sicrhau y gellir cynnal y lefelau safon a gwasanaeth uchaf ar gyfer pawb yn Heddlu Dyfed-Powys er mwyn cyflawni ei rwymedigaethau i’r cyhoedd
2. Cwmpas y Polisi
- Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i roi cyfleoedd hyfforddi a datblygu i swyddogion ar brawf yn unol â’r Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona a Rhaglen Mynediad Cwnstabliaid yr Heddlu, sy’n cwmpasu pob mynediad i blismona.
- Beth bynnag am eu llwybr mynediad, bydd unrhyw benderfyniad i gymryd camau gweithredu yn erbyn swyddog o dan y polisi hwn ond yn cael ei wneud os yw ymddygiad, agwedd, perfformiad a/neu bresenoldeb swyddog wedi arwain at bryder nad ydynt yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i gyflawni dyletswyddau cwnstabl, arolygydd, uwch-arolygydd neu ailymunwr (fel y bo’n briodol), ac nad ydynt yn debygol o ddod yn swyddog effeithiol sy’n cynnal ei hun yn dda.
- Rhaid i bob swyddog ar brawf sicrhau’r cymwyseddau, safonau a chymwysterau sydd angen ar gyfer eu rhengoedd/rôl cyn y cadarnheir ei benodiad. Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn darparu’r holl ffyrdd rhesymol ar gyfer hwyluso’r broses honno.
- Yn ystod eu cyfnod hyfforddi cychwynnol ym Mhencadlys yr Heddlu, bydd y tîm o fewn y Gwasanaethau Dysgu a Datblygu a’r Sefydliad Addysg Uwch, ac ar ôl hynny eu rheolwyr llinell ar ôl cwblhau’r hyfforddiant cychwynnol, yn gyfrifol am reoli ymddygiad, presenoldeb a/neu berfformiad y swyddogion ar brawf.
- Mae’r polisi hwn yn darparu strwythur ac eglurder, ac yn amlinellu’r camau i’w dilyn. Mae’n cynorthwyo rheolwyr a staff i adnabod pa gymorth sydd angen er mwyn gwella’r sefyllfa yn gyflym. Fe’i bwriedir fel mecanwaith i alluogi pob aelod staff i gyflawni’r safonau perfformiad a / neu bresenoldeb a ddisgwylir ohonynt mewn modd teg a chyson. Dylent ddefnyddio eu barn broffesiynol wrth weithredu gofyniad rhagnodol y polisi hwn. Rhaid cyfiawnhau unrhyw achos o wyro oddi wrth y polisi.
- Bydd y polisi hwn yn cael ei weithredu’n gyson ar gyfer pob swyddog ar brawf. Mae’r heddlu’n cydnabod y warchodaeth a roddir i staff gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
- Dylid gweithredu’r polisi a’r weithdrefn yn yr amgylchiadau canlynol:
- Lle mae tystiolaeth o batrwm o berfformiad gwael gan swyddog ar brawf, gan gynnwys methu â:
- cyrraedd y safon academaidd ofynnol, fel y’i gosodwyd gan y Sefydliad Addysg Uwch, gan sicrhau cwblhau aseiniadau ac arholiadau’n llwyddiannus o fewn y terfynau amser ar gyfer cyflwyno
- cynnal lefelau ffitrwydd priodol i safonau gofynnol er mwyn cynnal safonau ymddygiad proffesiynol
- cwblhau’r portffolio asesiad unigol
- Lle mae tystiolaeth o lefelau presenoldeb annerbyniol neu o fod yn anffit i gyflawni dyletswyddau arferol drwy salwch neu anaf. Ceir manylion am y sbardunau rheoli ar gyfer salwch yn y weithdrefn.
- Lle mae tystiolaeth o ymddygiad sy’n arwain at amheuon y byddant yn dod yn swyddog sy’n cynnal ei hun yn dda.
Terminoleg
- I ddiben y ddogfen hon, bydd y termau ‘aelod staff’ ‘aelod o staff’ a ‘staff’ yn cael eu defnyddio i gyfeirio at Swyddogion Heddlu o fewn eu cyfnod prawf.
- Mae’r term ‘Rheoliad 12’ yn cyfeirio at Reoliad 12 Rheoliadau’r Heddlu 2003 sy’n caniatáu ar gyfer estyn cyfnod prawf swyddog ar brawf os teimlir bod angen.
- Mae’r term ‘Rheoliad 13’ yn cyfeirio at Reoliad 13 Rheoliadau’r Heddlu 2003 sy’n darparu’r sail y caiff Prif Gwnstabl gael gwared ar wasanaethau swyddog ar brawf.
Mae acronymau a ddefnyddir yn aml yn cynnwys y canlynol:
- GDD – Gwasanaethau Dysgu a Datblygu
- SAU – Sefydliad Addysg Uwch
- PCG –Portffolio Cymhwysedd Gweithredol
- GPP – Gradd mewn Plismona Proffesiynol
- RhMCH – Rhaglen Mynediad Cwnstabliaid yr Heddlu
- PGCH – Prentisiaeth Gradd Cwnstabliaid yr Heddlu
- RhMR – Rhaglen Mynediad i Raddedigion
- Defnyddir y term ‘cyfaill gweithle’ i ddisgrifio swyddog heddlu neu aelod o staff yr heddlu a gyflogir gan Heddlu Dyfed-Powys, cynrychiolydd cymdeithas staff neu undeb llafur a all fynd gyda, cynghori a chynrychioli’r aelod staff yn ystod holl gamau ffurfiol y weithdrefn.
- Defnyddir y term ‘Awdurdod Priodol i ddisgrifio’r Prif Swyddog sy’n gyfrifol am Wasanaethau Pobl.
3. Pwerau a Gofynion Cyfreithiol/Polisi
Lluniwyd y ddogfen hon i gydymffurfio â’r dyletswyddau cyffredinol a phenodol yn:
- Rheoliadau’r Heddlu (Perfformiad) 2020;
- Rheoliadau’r Heddlu (Ymddygiad) 2020;
- Rheoliadau’r Heddlu 2003;
- Rheoliadau’r Heddlu (Ymddygiad, Perfformiad a Chwynion a Chamymddwyn) (Diwygiad) 2025
- Rheoliad 10 – Cymwysterau Plismona a Phrofiad
- Deddf Cydraddoldeb Act 2010;
- Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol) 2011
- Deddf Diogelu Data 1998, 2018;
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974
- Deddf Mynediad at Adroddiadau Meddygol 1998
- Deddf Rhyddid Gwybodaeth;
- Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol;
- Deddf Cyflogaeth 2002;
- Deddf Cysylltiadau Gweithwyr 1999
- Canllawiau Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (parth: gwyliadwriaeth gyfeiriedig)
- unrhyw ddeddfwriaeth arall sy’n berthnasol i blismona.
Polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau cysylltiedig:
- Polisi Rheoli Presenoldeb;
- Polisi Seibiant Gyrfa;
- Polisi Rheoli Newid;
- Polisi Diogelu Data;
- Polisi Tor Diogelwch Data;
- Polisi Urddas yn y Gweithle;
- Polisi Camddefnyddio Cyffuriau, Alcohol a Sylweddau
- Polisi Tegwch yn y Gwaith;
- Polisi Oriau Hyblyg;
- Polisi Iechyd a Diogelwch;
- Polisi Diogelwch Gwybodaeth;
- Polisi Prawf Ffitrwydd Cysylltiedig â Gwaith;
- Polisi Absenoldeb ar gyfer Rhesymau Personol a Theuluol ac Absenoldebau Arbennig Eraill;
- Polisi Dyletswyddau Cyfyngedig;
- Polisi Absenoldeb Cymorth Mamolaeth, Tadolaeth a Mabwysiadu;
- Polisi Menopos;
- Polisi Rheoli Perfformiad;
- Polisi Camymddwyn ar gyfer Staff yr Heddlu;
- Polisi Recriwtio a Dethol;
- Polisi Hawl i Ofyn am Waith Rhan Amser a Hyblyg;
- Polisi Gweithio’n Glyfrach.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn gweithredu o fewn yr egwyddorion plismona fel y’u diffinnir gan God Moeseg y Coleg Plismona, ac er mwyn cefnogi hyn, bydd ein polisïau’n ceisio hyrwyddo:
- Dewrder
- Parch ac Empathi
- Gwasanaeth Cyhoeddus.
Mae'r polisi hwn yn anelu i gefnogi cyflenwi Ein Cynllun a'n Llw Diwylliant.
Mae Safonau’r Gymraeg yn darparu’n benodol y gall aelodau staff ymgymryd â rhai prosesau, neu dderbyn rhai dogfennau, drwy gyfrwng y Gymraeg. Rhestrir yr hawliau hyn isod, a gallant fod yn berthnasol i’r polisi hwn neu beidio. Mae gan weithwyr Heddlu Dyfed-Powys yr hawl i’r canlynol:
- Derbyn unrhyw ddogfennau sy’n amlinellu eu gofynion neu anghenion hyfforddiant, amcanion perfformiad, neu gynllun gyrfa drwy gyfrwng y Gymraeg;
- Gwneud cwyn drwy gyfrwng y Gymraeg;
- Ymateb i gŵyn neu unrhyw honiadau amdanynt drwy gyfrwng y Gymraeg;
- Mynd i gyfarfod i drafod cwyn neu fater disgyblu drwy gyfrwng y Gymraeg; a
- Derbyn penderfyniadau mewn perthynas â chwyn neu broses ddisgyblu drwy gyfrwng y Gymraeg.
4. Dewisiadau a Chynlluniau Wrth Gefn
Mae’r Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn a’r ddogfen ganllaw gysylltiedig.
- Dewrder
- Parch ac Empathi
- Gwasanaeth Cyhoeddus
Mae angen dewrder, parch ac empathi a gwasanaeth cyhoeddus i blismona’n foesegol.
5. Gweithredu ac adolygu
- Mae Heddlu Dyfed-Powys yn monitro gweithredu’r polisi hwn ac mae ganddo’r disgresiwn i’w adolygu unrhyw bryd drwy'r mecanweithiau ymgynghori priodol ac yng ngoleuni unrhyw ddatblygiadau o ran deddfwriaethau cyflogaeth ac arferion cyflogaeth da.
- Mae’r adran Adnoddau Dynol yn gyfrifol am weithredu, monitro a datblygu’r polisi hwn.
Bydd yr adolygiad yn ystyried y meini prawf canlynol:
- Enghreifftiau o arfer da gan Heddluoedd eraill a/neu sefydliadau eraill
- Sylwadau gan unigolion a/neu grwpiau cynrychioladol
- Data amrywiaeth perthnasol
- Unrhyw heriau i’r polisi
Bydd y Bwrdd Pobl, Diwylliant a Moeseg yn goruchwylio’r polisi a’r ddogfen weithdrefn gysylltiedig.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
- ddileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth, ac unrhyw ymddygiad arall sy'n anghyfreithlon o dan y Ddeddf;
- hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng unigolion sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol ac unigolion nad ydynt yn ei rhannu;
- meithrin perthnasoedd da rhwng unigolion sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol ac unigolion nad ydynt yn ei rhannu.
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Hydref 2025