Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nod y polisi hwn yw cefnogi’r defnydd o secondiadau i ddarparu cyfleoedd o ran gyrfa a datblygiad personol ar gyfer staff, yn ogystal â bodloni anghenion proffesiynol a chynllunio ar gyfer olyniaeth yr Heddlu.
Defnyddir y termau ‘Aelod staff’ a ‘Staff’ i gyfeirio at Swyddogion a Staff yr Heddlu.
Diffiniad secondiad yw swyddog heddlu neu aelod staff yn trosglwyddo dros dro i weithio i gyflogwr arall heb golli ei statws o fewn Heddlu Dyfed-Powys.
Defnyddir y term ‘sefydliad sy’n secondio’ i ddisgrifio cyflogwyr allanol y mae swyddogion a staff wedi’u secondio iddynt.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr llawn amser, rhan amser, parhaol, gweithwyr am gyfnod penodol, a staff ar secondiad.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer pob swyddog heddlu a holl aelodau staff yr heddlu, ac mae’n nodi ymagwedd yr Heddlu tuag at secondiadau allanol. Fodd bynnag, nid yw’n berthnasol ar gyfer secondiadau tramor, sy’n cael eu cynnwys ar wahân yn nogfen y Swyddfa Gartref, “Lleoliadau swyddogion a staff yr heddlu tu allan i’w heddlu cartref (secondiadau)”. Pan nad yw’r canllaw hwn yn sôn am bwnc penodol, bydd y Polisi hwn yn berthnasol.
Nid yw’r polisi hwn yn ffurfio rhan o delerau ac amodau cyflogaeth staff yr heddlu a gall fod yn destun newid yn ôl disgresiwn rheolwyr.
Dylid darllen y polisi hwn ar y cyd â’r ddogfen ganllaw Secondiad Allanol, a’r canlynol: -
Lleoliadau swyddogion a staff yr heddlu tu allan i’w heddlu cartref - GOV.UK
Mae Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi’i gwblhau.
Amlinellir rhestr o gyfrifoldebau yn y ddogfen ganllaw Secondiad Allanol.
Mae egwyddorion y Cod Moeseg, sef Gwasanaeth Cyhoeddus, Dewrder a Pharch ac Empathi, yn berthnasol i’r polisi hwn.
Mae'r polisi hwn yn anelu i gefnogi cyflenwi Ein Cynllun a'n Llw Diwylliant.
Bydd y polisi’n cael ei adolygu’n rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod dal yn berthnasol, a cheisir adborth gan randdeiliaid allweddol a’r gwasanaeth heddlu ehangach.
Bydd unrhyw adborth neu anfodlonrwydd gyda’r polisi’n cael ei gofnodi a’i drafod gyda pherchennog y polisi a chymerir camau gweithredu priodol.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Hydref 2025