Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod bod achlysuron pan fydd swyddogion a staff yn ymgymryd â gwaith sy’n arbennig o amhleserus, pwysig neu anodd o ran natur. Mae’r polisi hwn yn darparu mecanwaith ar gyfer cydnabod y gwaith hwn a’i wobrwyo ar ffurf taliad bonws.
Rhaid gweithredu’r polisi hwn a’r canllawiau cysylltiedig yn deg, cyfartal a chyson ar gyfer holl swyddogion a staff yr heddlu, ni waeth am oed, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol neu unrhyw sail anghyfiawnadwy arall.
Mae’n berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i: Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, pa un ai a ydynt yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol neu dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr), staff sydd ar secondiad neu’n wirfoddolwyr.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer swyddogion heddlu hyd at a gan gynnwys rheng Prif Arolygydd, ynghyd â phob aelod o staff yr heddlu, ac mae’n nodi ymagwedd yr Heddlu tuag at dalu taliadau bonws.
Nid yw’r polisi hwn yn ffurfio rhan o delerau ac amodau cyflogaeth staff yr heddlu a gall fod yn destun newid yn ôl disgresiwn Prif Swyddogion.
Mae’r polisi hwn wedi’i greu yn unol â Rheoliadau’r Heddlu a chanllawiau cenedlaethol, ac ar ôl ymgynghori â’r Ffederasiwn Heddlu ac UNSAIN.
Mewnol – Gweithdrefn Taliadau Bonws Heddlu Dyfed-Powys
Swyddogion Heddlu a Staff yr Heddlu
Pan mae swyddogion a staff yr heddlu’n cyflawni gwaith sydd, yn eu tyb nhw, yn syrthio o fewn y meini prawf, dylent gwblhau Rhan A o’r Cais am Daliad Bonws a’i anfon at eu Rheolwr Llinell. Mae hawl i apelio’n bodoli ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cael eu cefnogi. Cewch hyd i’r ffurflen gais o fewn y ddogfen Weithdrefnau.
Rheolwr Llinell
Bydd y Rheolwr Llinell yn asesu’r cais er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni’r meini prawf ac yn ardystio Rhan B y ffurflen. Lle mae cais yn cael ei gefnogi, bydd y Rheolwr yn anfon y cais at yr Uned Cymorth Busnes er ystyriaeth y Panel Taliadau Bonws.
Y Panel Taliadau Bonws
Bydd y Panel Taliadau Bonws yn penderfynu pa un ai a yw’r meini prawf ar gyfer taliadau bonws wedi’u bodloni, ac os felly, gwobrwyir y taliad. Bydd y panel yn gyson wrth wobrwyo taliadau bonws.
Cyfarwyddwr Datblygu Pobl a’r Sefydliad
Bydd y Cyfarwyddwr Datblygu Pobl a’r Sefydliad yn gyfrifol am dderbyn unrhyw apeliadau a wneir mewn perthynas â cheisiadau nad ydynt yn cael eu cefnogi. Penodir Rheolwr uwch i ystyried yr apêl.
Mae egwyddorion y Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn a’r canllawiau cysylltiedig.
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu bob tair blynedd er mwyn sicrhau ei fod dal yn berthnasol, a cheisir adborth gan randdeiliaid allweddol a’r sefydliad ehangach.
Bydd unrhyw adborth neu anfodlonrwydd â’r polisi’n cael ei gofnodi a’i drafod gyda pherchennog y polisi a chymerir camau gweithredu priodol. Bydd y Bwrdd Pobl, Diwylliant a Moeseg yn goruchwylio’r polisi hwn.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mehefin 2024