Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod bod gan bob swyddog ac aelod staff yr hawl i gael ei drin gydag urddas, tegwch a pharch yn y gwaith.
Mae Tegwch yn y Gwaith yn seiliedig ar yr egwyddor o ymyrraeth gynnar, bod yn agored, ac yn dryloyw. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i bawb ymdrin â materion yn agored ac yn anffurfiol, ar lefel leol pan fyddant yn codi gyntaf, ac i weithio ar gyflawni datrysiad derbyniol ac addas i atal dwysâd i weithdrefn ffurfiol oni bai ei bod yn briodol.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl Swyddogion yr Heddlu, Staff yr Heddlu, Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu, a gwirfoddolwyr. Mae'r weithdrefn yn caniatáu i holl bersonél Heddlu Dyfed-Powys sy'n credu eu bod wedi cael eu trin yn annheg yn y gwaith godi'r mater heb ofni cael eu cosbi, eu beirniadu na'u herlid, a cheisio ac archwilio datrysiad derbyniol.
Mae’n berthnasol ar gyfer y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau swyddogion Heddlu Dyfed-Powys, pa un ai a ydynt yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, neu dros dro.
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn ymdrin ag unrhyw faterion sydd o bosibl yn annheg neu’n wahaniaethol yn gadarnhaol a rhagweithiol ac yn rhoi’r cymorth priodol i gydweithwyr.
Mae'n ofynnol i bob goruchwyliwr/rheolwr gymryd camau cadarnhaol i sicrhau y cynhelir diwylliant sefydliadol iach drwy arweinyddiaeth briodol a chefnogol.
Anogir pawb i herio pob math o ymddygiad amhriodol, stereoteipio, gwneud drwg i rywun, rhagfarn, aflonyddu a gwahaniaethu anghyfreithlon (nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr).
Mae’r materion canlynol wedi’u heithrio o’r polisi/gweithdrefn:
Crëwyd y polisi hwn yn unol â deddfwriaethau a chanllawiau a dylid ei ddarllen ar y cyd â’r ddogfen weithdrefn Tegwch yn y Gwaith a’r polisïau, protocolau ac arferion allanol a mewnol canlynol.
• Deddf Cydraddoldeb 2010
• Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Polisïau mewnol perthnasol
Mae ffurflen Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi’i chwblhau.
Gweithredir egwyddorion plismona moesegol ar gyfer penderfyniadau a wneir yn y broses hon. Yn benodol: -
Mae’r polisi hwn yn anelu i gefnogi Ein Cynllun a'n Llw Diwylliant.
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu bob tair blynedd, gan ystyried ei effeithiolrwydd, newidiadau i ddeddfwriaethau, canllawiau cenedlaethol ac unrhyw heriau i’r polisi.
Bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal gan yr adran Datblygu Pobl a’r Sefydliad a bydd unrhyw ddiwygiadau i’r polisi neu’r weithdrefn yn cael eu goruchwylio a’u cymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor Trafod ac Ymgynghori.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mehefin 2026