Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i greu a chynnal amgylchedd sy’n seiliedig ar berthnasau gweithio cadarnhaol sy’n galluogi pob aelod staff, rheolwr a gwirfoddolwr i ddileu aflonyddu, gwahaniaethu, brawychu a bwlio.
Mae’r polisi hwn a’r ddogfen weithdrefn yn rhoi arweiniad ymarferol i unigolion ar y camau y gallant eu cymryd os ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu bwlio neu eu haflonyddu, ac yn annog staff i deimlo’n hyderus i gyflwyno cwynion dilys.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr llawn amser, rhan amser, parhaol, gweithwyr am gyfnod penodol, gweithwyr dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, partneriaid a chontractwyr) neu staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr sy’n cyrchu a defnyddio asedau ac eiddo’r heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gosod arweinyddiaeth a lles wrth galon cyflenwi gwasanaeth a dylai swyddogion, staff a gwirfoddolwyr Heddlu Dyfed-Powys fod yn rhydd rhag gwahaniaethu, aflonyddu a bwlio.
Ni fydd Heddlu Dyfed-Powys yn goddef bwlio nac aflonyddu yn y gweithle. Amlinella’r polisi hwn a’r canllawiau y camau y gall unigolyn gymryd os yw’n teimlo ei fod wedi bod yn destun bwlio a / neu aflonyddu naill ai yn y gwaith neu yn ystod digwyddiad cysylltiedig â gwaith. Fel sefydliad, cydnabyddir mai ein cyfrifoldeb ar y cyd yw sicrhau bod ein swyddogion, staff a gwirfoddolwyr wedi’u diogelu a phan fydd bwlio neu aflonyddu yn digwydd, cymryd camau priodol i ymyrryd.
Rhaid i holl swyddogion heddlu, staff yr heddlu, a’r rheini sy’n gweithio’n wirfoddol neu o dan gytundeb gyda Heddlu Dyfed-Powys gymryd cyfrifoldeb personol dros gydymffurfio â’r polisi hwn.
Mae’n gymwys mewn perthynas â rhyngweithiadau gydag aelodau eraill o staff, y gymuned yn gyffredinol ac unrhyw drydydd parti sy’n gwneud gwaith o fewn eiddo Heddlu Dyfed-Powys. Gallai unrhyw aelod o Heddlu Dyfed-Powys sy’n methu cynnal safonau Ymddygiad Proffesiynol fod yn destun ymchwiliad disgyblaeth.
Diffinia Heddlu Dyfed-Powys fwlio yn y gweithle fel:
“Ymddygiad tramgwyddus, brawychus, maleisus neu sarhaus, cam-drin neu gamddefnydd ar bŵer trwy ddulliau sy’n tanseilio, yn bychanu, yn dirmygu neu’n anafu’r derbynnydd”.
Nid yw bwlio yn ei hun yn erbyn y gyfraith, ond mae aflonyddu, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a dyna pryd y mae’r ymddygiad digroeso yn perthyn i un o’r “Nodweddion Gwarchodedig”.
Defnyddia Deddf Cydraddoldeb 2010 un diffiniad o aflonyddu i ymdrin â’r nodweddion gwarchodedig perthnasol: “Ymddygiad digroeso sy’n perthyn i nodweddion gwarchodedig perthnasol, sydd â’r diben a’r effaith o dorri urddas yr unigolyn neu greu amgylchedd dychrynllyd, gelyniaethus, diraddiol, bychanus neu dramgwyddus ar gyfer yr unigolyn hwnnw”.
Yn ychwanegol at yr uchod, mae Deddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997 yn nodi:
“Ni ddylai unigolyn geisio ymddygiad sydd gyfwerth ag aflonyddu person arall ac y maen nhw’n gwybod neu y dylent wybod sydd gyfwerth ag aflonyddu person arall.’
Dylid darllen y ddogfen bolisi hon ar y cyd â’r ddogfen ganllaw Urddas yn y Gweithle.
Mae Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi’i gwblhau.
Mae cyfrifoldeb ar reolwyr, swyddogion, staff a gwirfoddolwyr i greu a chynnal amgylchedd gwaith cadarnhaol yn unol â’r Safonau Ymddygiad Proffesiynol.
Rhaid i bawb fod yn barod i wrando ac ymateb yn gadarnhaol os oes rhywun yn gofyn iddynt newid eu hymddygiad oherwydd eu bod yn ei ystyried yn sarhaus.
Nodir rhestr o gyfrifoldebau rheolwyr, swyddogion a staff yn glir yn y ddogfen ganllaw Urddas yn y Gweithle.
Mae egwyddorion Gwasanaeth Cyhoeddus, Dewrder, Parch ac Empathi’r Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn.
Mae'r polisi hwn yn anelu i gefnogi cyflenwi Ein Cynllun a'n Llw Diwylliant.
Bydd y polisi’n cael ei adolygu o dro i dro er mwyn sicrhau ei fod dal yn berthnasol, a cheisir adborth gan randdeiliaid allweddol a’r gwasanaeth heddlu ehangach.
Cofnodir unrhyw adborth neu anfodlonrwydd â’r polisi a’i drafod gyda pherchennog y polisi, cyn cymryd camau gweithredu priodol.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Tachwedd 2024