Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r cyhoedd yn disgwyl y safonau uchaf o ran uniondeb ac ymddygiad gan y gwasanaeth heddlu. Mae’n hanfodol bod aelodau Heddlu Dyfed-Powys yn sicrhau ac yn cynnal hyder y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu yn unol â safonau ymddygiad proffesiynol.
Mae angen i Heddlu Dyfed-Powys amddiffyn buddiannau ac uniondeb pob swyddog heddlu a rhai aelodau penodol o staff yr heddlu mewn perthynas â honiadau posibl o ragfarn neu ffafr wleidyddol a allai godi trwy unrhyw ymlyniad neu weithgaredd gwleidyddol.
Yn berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i’r canlynol: Staff heddlu penodol yn unig.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol i rai rolau staff yr heddlu o dan gyfarwyddyd a rheolaeth y Prif Gwnstabl.
Nid yw swyddogion heddlu wedi’u cynnwys o dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. Fodd bynnag, mae Rheoliad 6 (atodlen 1) o Reoliadau’r Heddlu 2003 yn nodi cyfyngiadau penodol ar fywydau preifat swyddogion.
Dylid darllen y cyfyngiadau hyn ar y cyd â’r Cod Moeseg sy’n amlinellu’r safonau ymddygiad proffesiynol disgwyliedig sy’n berthnasol i’r holl staff a swyddogion.
Yn 1989, cyflwynodd Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yr egwyddor o ‘swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol’ a chyfyngu ar weithgareddau gwleidyddol gweithwyr awdurdodau lleol.
Mae adran 30 o Ddeddf Democratiaeth Leol, Datblygu Economaidd ac Adeiladu 2009 yn gwneud gwelliannau i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 mewn perthynas â’r dull o nodi swyddi sydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol drwy ddileu’r ddyletswydd i gynnal rhestr o swyddi sy’n ennill uwchlaw cyflog enwebedig. Daeth hyn i rym o 12 Ionawr 2010 gyda’r canlyniad bod angen i awdurdodau adolygu’r swyddi a ystyriwyd yn flaenorol yn rhai o dan gyfyngiadau gwleidyddol oherwydd lefel cyflog er mwyn asesu a ddylent fod o dan gyfyngiadau gwleidyddol gwirioneddol oherwydd y dyletswyddau y maent yn eu cyflawni.
Mae swyddi o dan gyfyngiadau gwleidyddol yn perthyn i ddau brif gategori: swyddi penodedig a swyddi sensitif.
Effaith bod mewn swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol yw atal yr unigolyn rhag cael unrhyw rôl wleidyddol weithredol naill ai yn y gweithle neu y tu allan iddo.
Bydd gweithwyr mewn swyddi sydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol yn cael eu gwahardd yn awtomatig rhag sefyll am swydd etholedig neu rhag dal swydd etholedig megis:
Maent hefyd wedi’u cyfyngu rhag canfasio ar ran plaid wleidyddol neu unigolyn sy’n ymgeisydd neu’n ceisio bod yn ymgeisydd, a siarad â’r cyhoedd yn gyffredinol neu gyhoeddi unrhyw waith ysgrifenedig neu artistig a allai roi’r argraff eu bod yn eirioli dros gefnogi plaid wleidyddol.
Effaith gronnus y cyfyngiadau hyn yw cyfyngu deiliaid swyddi sydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol i aelodaeth o bleidiau gwleidyddol yn unig, heb ganiatáu unrhyw gyfranogiad gweithredol o fewn y blaid.
Swyddi Penodedig [prif swyddogion statudol ac anstatudol, penaethiaid adrannol (swyddogion sy’n atebol i brif swyddog) a swyddogion sy’n ymarfer pwerau dirprwyedig]. Mae’r swyddi hyn wedi’u rhestru fel a ganlyn:
|
Cyfarwyddwr Cyllid |
|
Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol |
|
Pennaeth TGCh |
|
Pennaeth Darparu Gwasanaethau AD |
|
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol |
|
Pennaeth Cyllid Corfforaethol |
|
Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol |
|
Pennaeth Caffael a Chontractau |
|
Pennaeth Gwasanaethau Fforensig |
|
Pennaeth Rheoli Cyswllt a Digwyddiadau |
|
Pennaeth Ystadau |
|
Pennaeth Gwasanaethau Fflyd |
|
Pennaeth Talent |
Swyddi Sensitif [swyddi sy’n rhoi cyngor yn rheolaidd i’r sefydliad ei hun neu i unrhyw bwyllgor neu fwrdd y sefydliad neu’n siarad ar ran y sefydliad yn rheolaidd â newyddiadurwyr neu ddarlledwyr]. Rhestrir y swyddi hyn fel a ganlyn:
|
Uwch-reolwr Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd |
|
Uwch-reolwr Recriwtio. |
|
Uwch-reolwr Cynllunio Olyniaeth a Gwobrwyo |
|
Uwch-reolwr Systemau Ariannol. |
|
Uwch-reolwr Safonau Proffesiynol |
|
Uwch-reolwr Gweithredol TGCh (Cyflenwi) |
|
Uwch-reolwr Gweithredol TGCh (Cymorth) |
|
Uwch-reolwr Cymwysiadau TGCh |
|
Uwch-reolwr Iechyd Galwedigaethol a Llesiant |
|
Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a’r Gymraeg |
|
Cyfreithiwr |
|
Uwch-swyddog Cyfathrebu |
|
Swyddog Cyfathrebu [swyddog y wasg yn flaenorol] |
|
Cofrestrydd Troseddau’r Heddlu |
|
Rheolwr Gwybodaeth |
|
Uwch-reolwr Llywodraethiant a Newid |
|
Uwch-reolwr y Gwasanaeth Fforensig Digidol |
|
Uwch-reolwr Perfformiad a Dadansoddeg |
|
Uwch-reolwr Gweithrediadau Fforensig |
|
Uwch-reolwr Cyfleusterau |
|
Uwch-reolwr Cymorth Gwyddonol |
Cyfrifoldebau
Mae holl staff yr heddlu yn gyfrifol am gydymffurfio â’r gofynion a nodir yn y polisi hwn os ydynt yn dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol.
Mae rheolwyr llinell yn gyfrifol am y canlynol:
Mae’r adran Pobl a Datblygu Sefydliadol yn gyfrifol am y canlynol:
Mae egwyddorion y Cod Moeseg canlynol yn berthnasol i’r polisi a’r weithdrefn hon.
Nod y polisi hwn a’r weithdrefn gysylltiedig yw cefnogi Ein Cynllun a'n Llw Diwylliant.
Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau ei effeithiolrwydd, a cheisir adborth gan randdeiliaid allweddol a’r heddlu ehangach.
Bydd unrhyw adborth ar y polisi, neu anfodlonrwydd, yn cael ei gofnodi a’i drafod â pherchennog y polisi a chymerir camau gweithredu priodol.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Mehefin 2026