Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae angen y polisi hwn er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) 1981. Bydd gan yr Heddlu nifer digonol o aelodau staff cymwys i weinyddu cymorth cyntaf yn y gweithle yn unol â gofynion Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) 1981 bob amser.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer holl weithwyr Heddlu Dyfed-Powys, sydd, yn y cyd-destun hwn, yn cynnwys swyddogion heddlu, holl aelodau staff yr heddlu (gan gynnwys staff dros dro/staff asiantaeth/cymdeithion/contractwyr/staff sydd ar secondiad), cwnstabliaid gwirfoddol, gwirfoddolwyr, ymwelwyr lleyg a phawb sydd, am y tro, wedi’u gosod gyda Heddlu Dyfed-Powys o dan Gynlluniau Cadét, Prentisiaeth Fodern neu Brofiad Gwaith yr Heddlu. Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer holl gategorïau gweithwyr Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol neu dros dro, ac unrhyw weithiwr sy’n cael mynediad i asedau ac eiddo’r Heddlu ac yn eu defnyddio.
Mae gweithwyr yn gyfrifol am gymryd cyfrifoldeb personol o’u hunain ac eraill, a rhaid iddynt gydweithredu â’u cyflogwyr er mwyn galluogi’r cyflogwr i ryddhau ei rwymedigaeth gyfreithiol.
Bydd yr Heddlu’n sicrhau bod pob Swyddog Heddlu ac Aelodau Staff penodol yn gymwys ar gyfer rhoi Cymorth Cyntaf sy’n cyfateb â disgwyliadau eu rôl.
Er mwyn cyflawni hyn, mae hyfforddiant Cymorth Cyntaf yn orfodol ar gyfer pob swyddog heddlu a swyddogion cymorth cyntaf penodol. Mae lefel yr hyfforddiant cymorth cyntaf yn benodol ar gyfer y rôl ac wedi’i deilwra i fodloni safonau cenedlaethol derbyniol a gyhoeddwyd gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Datblygwyd y Rhaglen Ddysgu Cymorth Cyntaf gan y Coleg Plismona, a sicrhawyd ei hansawdd yn erbyn y safonau uchod. Defnyddir corff achrededig annibynnol er mwyn sicrhau y darperir cyflenwi a dilysu cymeradwy, gan sicrhau cymhwysedd yr hyfforddiant Cymorth Cyntaf.
Bydd gan hyfforddwyr sy’n cyflenwi’r rhaglen cymorth cyntaf y sgiliau, gwybodaeth a chymhwysedd gofynnol ar gyfer cynnal hyfforddiant o’r fath.
Y tu hwnt i hynny, bydd dadansoddiad o anghenion hyfforddi lleol, ynghyd ag asesiad risg digonol o rôl neu swyddogaeth, yn nodi’r lefel hyfforddiant briodol sy’n berthnasol mewn achos penodol.
Lle mae’r asesiad risg yn nodi gofyniad posibl ar gyfer Cymorth Cyntaf, bydd rheolwyr a goruchwylwyr unigol sy’n gyfrifol am gynllunio a chydlynu ymgyrchoedd heddlu’n sicrhau bod staff sydd wedi’u hyfforddi’n briodol ar gael yn hawdd pan mae’r ymgyrch yn digwydd.
Bydd gan yr Heddlu nifer digonol o aelodau staff cymwys i weinyddu cymorth cyntaf yn y gweithle bob amser, yn unol â gofynion Rheoliadau Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) 1981.
Bydd cofnodion cywir o anafiadau i staff a thriniaethau a roddwyd yn cael eu cofnodi ar y system ar-lein ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau ar fewnrwyd yr heddlu.
Bydd hyfforddiant cymorth cyntaf a gyflwynir yn cael ei gofnodi a’i gynnal ar y system TRENT ac yn hawdd ei gael.
Caiff swyddogion cymorth cyntaf cymwys drin pobl nad ydynt yn aelodau staff (cleientiaid/contractwyr/ymwelwyr â’r safle ac ati) os asesir bod y sefyllfa’n un argyfyngus lle mae angen atal anafiadau pellach neu ddiogelu bywyd hyd nes y bydd parafeddygon yn cyrraedd.
Rhaid cofnodi pob triniaeth a roddir ar-lein ar system ddigwyddiadau’r Heddlu.
Bydd y polisi hwn yn sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliadau Iechyd Diogelwch (Cymorth Cyntaf) 1981 drwy sicrhau bod pob perygl cymorth cyntaf yn cael ei ystyried, a’u bod nhw’n cael eu lleihau lle bo’n bosibl.
Cyfathrebu
Gosodir y polisi ar dudalen fewnrwyd Polisïau’r Heddlu. Hefyd, bydd dolen o safle mewnrwyd yr adran Iechyd a Diogelwch i’r polisi hwn, a bydd swyddogion a staff yn cael gwybod amdano drwy fwletinau mewnrwyd a/neu gopi caled wrth iddo gael ei adolygu a’i ddiweddaru.
Anogir y Ffederasiwn Heddlu ac Unsain i wneud eu haelodau’n ymwybodol o’r ddogfen a bod yn rhan o reoli ac adolygu’r ddogfen.
Mae pynciau hefyd yn cael eu dwyn i sylw Uwch Reolwyr mewn Digwyddiadau Perfformiad.
Gwneud Penderfyniadau
Mae gan yr Heddlu Grŵp Pwyllgor Iechyd a Diogelwch sy’n cael ei gadeirio gan y Prif Gwnstabl Cynorthwyol. Mae’n cwrdd bob chwarter i archwilio i faterion o bryder neu berthnasedd i weithgareddau’r Heddlu. Ceir manylion pellach am y Grŵp Pwyllgor ar y safle mewnrwyd Iechyd a Diogelwch. Mae cylch gorchwyl y Pwyllgor ar gael i’w ddarllen ar dudalen fewnrwyd yr adran Iechyd a Diogelwch.
Mae’r Grŵp Pwyllgor hefyd yn cael ei gefnogi gan gyfarfodydd Adrannol Uwch Reolwyr a Phwyllgorau Iechyd a Diogelwch Ardal, gan gynnwys y grŵp Llywodraethu Clinigol.
Ymgynghorir ag Aelodau’r Grŵp Pwyllgor, ynghyd ag unigolion, grwpiau neu bwyllgorau eraill yr ystyrir eu bod yn briodol, ar bolisïau a gweithdrefnau. Bydd ymgynghoriadau’n cael eu cydlynu gan yr Adran Iechyd a Diogelwch, oni chytunir fel arall.
Dyletswyddau’r Cyflogwr
Ar gyfer dibenion y polisi hwn, diffinnir y cyflogwr fel Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, sydd â chyfarwyddyd a rheolaeth o bob “gweithiwr”, fel y diffinnir uchod.
Yn ogystal â’r ddyletswydd gofal i’r cyhoedd, drwy reolwyr a goruchwylwyr, mae gan y Prif Gwnstabl ddyletswydd i gymryd gofal rhesymol i sicrhau nad yw aelodau staff yn dioddef unrhyw anafiadau rhesymol rhagweladwy yn y gwaith.
Mae hyn yn cynnwys dyletswydd i sicrhau bod:
Wrth ymgymryd â’r ddyletswydd gyffredinol hon, bydd Uwch Reolwyr a Phenaethiaid Adran yn sicrhau bod asesiad o anghenion cymorth cyntaf pob gweithle o dan ei reolaeth yn cael ei gynnal, ac yn rhoi trefniadau priodol/gofynnol mewn grym ar gyfer sicrhau darpariaeth Cymorth Cyntaf digonol.
Dyletswydd Gweithwyr
Mae gan bob “gweithiwr” fel y diffinnir uchod ddyletswyddau o dan adran 7 ac 8 Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974, fel yr estynnir ac a bwysleisir gan Ddeddf yr Heddlu (Iechyd a Diogelwch) 1997, a amlinellir ym Mholisi Iechyd a Diogelwch yr Heddlu.
Yn arbennig, mewn perthynas â Chymorth Cyntaf, rhaid i aelodau staff:
Gorfodi ac Adrodd
Cyfrifoldeb pob aelod staff, swyddog, goruchwylydd a rheolwr yw sicrhau cydymffurfiaeth â’r polisi hwn a sicrhau ei fod yn gweithredu mewn modd ar gyfer sicrhau diogelwch ei hun ac eraill.
Wrth arfer eu cyfrifoldebau, bydd pob aelod staff yn glynu wrth dogfennau canllaw iechyd a diogelwch.
Tra bod deddfwriaethau iechyd a diogelwch yn sefydlu safonau gweithredu lleiaf, mae’r Heddlu wedi ymrwymo i hyrwyddo diwylliant iechyd a diogelwch cadarnhaol a gwella ein perfformiad diogelwch yn barhaus drwy gyfres o archwiliadau parhaus, arolygiadau a monitro arferion gweithio.
Asesiad Risg
Dywed Deddf Iechyd a Diogelwch (Cymorth Cyntaf) 1981 bod y penderfyniad ynghylch nifer y swyddogion cymorth cyntaf sydd angen a lefel yr hyfforddiant maen nhw’n derbyn yn seiliedig ar yr asesiad risg. Ar y cyd â Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999 a Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd 2002 fel y’u diwygiwyd, dylai’r asesiad nodi gweithleoedd a gweithgareddau gwaith peryglus i roi arwydd o’r darpariaethau cymorth cyntaf sydd angen.
Y ffactorau i’w hystyried wrth asesu’r perygl yw:
Cynhaliwyd asesiad risg ar wahân ar gyfer cludo a gweinyddu Nycsoid (Nalocson) i’r cyhoedd fel rhan o ddarpariaeth Cymorth Cyntaf y Sefydliad.
Offer Cymorth Cyntaf
Bydd Arolygwyr Tiriogaethol a Phenaethiaid Adran yn sicrhau bod asesiad risg addas a digonol o’r gofynion cymorth cyntaf ar gyfer eu hardal(oedd) yn cael eu cynnal a bod gan Swyddogion Cymorth Cyntaf fynediad at offer cymorth cyntaf addas a phriodol.
Bydd pob sefydliad, yn ddieithriad, yn darparu o leiaf un blwch cymorth cyntaf, ac mewn dalfeydd, bydd o leiaf un diffibriliwr allanol awtomatig. Bydd rhain yn cael eu cynnal a’u hailgyflenwi’n rheolaidd.
Ceir manylion pellach ynghylch lleoliadau diffibrilwyr allanol awtomatig a chynnwys pecynnau cymorth cyntaf gan yr Adran Iechyd a Diogelwch a Chanolfan Gyfathrebu’r Heddlu.
Rhaid i’r holl offer Cymorth Cyntaf a ddarperir:
Arddangosir arwyddion priodol sy’n dangos pwy yw’ch swyddog cymorth cyntaf, ble y gellir dod o hyd iddynt, a sut i gysylltu â nhw.
Cedwir Nycsoid (Nalocson) mewn mannau canolog, gan unigolyn enwebedig, ym mhob rhanbarth, er mwyn sicrhau bod y dyddiadau y daw’r cynnyrch i ben yn cael eu monitro, a bod y cynnyrch yn cael ei adalw a’i adnewyddu yn ôl yr angen.
Swyddogion Cymorth Cyntaf
Bydd Arolygwyr, Rhingylliaid a Phenaethiaid Adran yn sicrhau bod nifer digonol o ‘unigolion addas’ (a fydd yn cael eu galw’n Swyddogion Cymorth Cyntaf Enwebedig) ar gael i roi triniaeth cymorth cyntaf yn y gwaith.
Lle bo’n bosibl, Swyddogion Heddlu fydd y swyddogion cymorth cyntaf enwebedig ar gyfer safleoedd. Mewn lleoliadau neu Adrannau lle nad yw hyn yn bosibl, rhaid cyflwyno achos busnes drwy’r Rheolwr Adrannol i’r Adran Gwasanaethau Dysgu a Datblygu yn gofyn am i staff heddlu dderbyn hyfforddiant cymorth cyntaf addas.
Yn ogystal, bydd angen i Benaethiaid Adran ystyried yr angen i ategu nifer y Swyddogion Cymorth Cyntaf â nifer o Unigolion Penodedig. Nid yw Unigolion Penodedig wedi derbyn hyfforddiant Cymorth Cyntaf i’r un graddau â Swyddogion Cymorth Cyntaf Enwebedig, ond maen nhw wedi’u pennu i ymdrin â materion cymorth cyntaf mewn argyfwng pan nad oes Swyddog Cymorth Cyntaf ar gael yn hawdd. Gall Unigolion Enwebedig fod ar gael pan mae Swyddog Cymorth Cyntaf yn absennol o’r gwaith, er enghraifft.
Bydd Penaethiaid Adran hefyd yn sicrhau eu bod nhw’n nodi Swyddogion Cymorth Cyntaf Enwebedig ac Unigolion Dynodedig a’u bod nhw’n cael eu hyrwyddo’n dda o fewn y gweithle.
Pennir nifer y swyddogion cymorth cyntaf gan asesiad risg. Does dim cymhareb manwl gywir ar gyfer Swyddogion Cymorth Cyntaf Enwebedig i aelodau staff, ond mae Heddlu Dyfed-Powys yn ystyried argymhellion Codau Ymarfer Cymeradwy’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Bydd Swyddogion Cymorth Cyntaf Enwebedig wedi cwblhau Modiwl perthnasol rhaglen Sgiliau Cymorth Cyntaf yr Heddlu, a bydd Unigolion Enwebedig wedi cwblhau Modiwl perthnasol rhaglen Sgiliau Cymorth Cyntaf yr Heddlu.
Hyfforddiant Ychwanegol
Bydd asesiadau risg o fewn Adrannau/Safleoedd unigol yn pennu lle y canfyddir y perygl o anaf ar lefel uwch a bydd hyn yn gorchymyn lefel unrhyw hyfforddiant ategol sydd angen.
Cadw Cofnodion
Bydd Penaethiaid Adran yn sicrhau bod cofnodion cywir yn cael eu cynnal mewn perthynas â digwyddiadau a hyfforddiant cymorth cyntaf lle mae anafiadau a chlefydau wedi’u trin gan Swyddogion Cymorth Cyntaf.
Gwybodaeth Ychwanegol
Darperir canllawiau a gwybodaeth ychwanegol ar gyfer rheolwyr a staff ar y dudalen fewnrwyd ‘Iechyd a Diogelwch’.
Mae cyngor hefyd ar gael gan yr Adran Iechyd a Diogelwch a’r Hyfforddwr Cymorth Cyntaf Arweiniol yn yr adran Dysgu a Datblygu.
Rolau a Chyfrifoldebau
Rheolwyr â Meysydd Rheolaeth
Mae gan Benaethiaid Adran neu eu cynrychiolwyr dynodedig gyfrifoldeb penodol ar gyfer yr elfennau hynny o’r polisi sydd wedi’u dirprwyo iddynt:
Swyddogion Heddlu a Swyddogion Cymorth Cyntaf Enwebedig
Byddant yn sicrhau bod;
Holl Swyddogion yr Heddlu, Staff yr Heddlu a Gwirfoddolwyr yr Heddlu
Dylai pob swyddogion yr heddlu, staff yr heddlu a gwirfoddolwyr yr heddlu gydymffurfio â’r polisi hwn a sicrhau ei fod yn cydymffurfio â pholisïau cysylltiedig Heddlu Dyfed-Powys:
Mae holl egwyddorion y Cod Moeseg newydd yn berthnasol ar gyfer y polisi hwn -wrder
Mae holl egwyddorion y Cod Moeseg newydd yn berthnasol ar gyfer y polisi hwn -
Bydd y Cynorthwyydd a’r Rheolwr Iechyd a Diogelwch Uwch yn monitro’r polisi, naill ai drwy adrodd ei fod dal yn “addas ar gyfer y diben” neu drwy gyflwyno drafft diwygiedig ar gyfer cymeradwyaeth y Grŵp Pwyllgor Iechyd a Diogelwch, i’w alluogi i gynnal adolygiad rheolaidd (gweler isod).
Bydd monitro’n ystyried y canlynol;
ADOLYGU
Bydd y polisi’n cael ei adolygu’n ffurfiol gan y Grŵp Pwyllgor Iechyd a Diogelwch bob dwy flynedd.
Gallai’r Polisi fod yn destun craffu gan Arolygiaeth Heddluoedd Ei Fawrhydi, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a phartïon eraill fel y bo’n briodol.
PWY I GYSYLLTU Â NHW YNGLŶN Â’R POLISI HWN
Codwch unrhyw faterion gyda’r Cyfarfod Pwyllgor Iechyd a Diogelwch os gwelwch chi’n dda, neu cysylltwch â’r Uwch Reolwr Iechyd a Diogelwch yn achos unrhyw ymholiad ynglŷn â chynnwys y polisi.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
Mae Rhan 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi’r nodweddion gwarchodedig sy’n gymwys i’w diogelu dan y Ddeddf, sef: Oed; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhywedd; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i roi ystyriaeth, wrth arfer eu swyddogaethau, i’r angen i:
Mae’r ddyletswydd gydraddoldeb yn berthnasol i’r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil, ac yn yr achos hwnnw dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu camwahaniaethu sy’n berthnasol.
Er mwyn cynnal asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb rhaid mynd ati’n systematig i asesu effeithiau tebygol neu wirioneddol polisi ar bobl o safbwynt yr holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer pob polisi sy’n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Ebrill 2024