Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae angen y polisi hwn er mwyn cydymffurfio â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005.
Sicrhau, cyn belled ag sy’n rhesymol bosibl, diogelwch pob aelod staff ac ymwelydd drwy leihau’r posibilrwydd y bydd tân yn digwydd, ac os bydd tân, ei fod yn cael ei ganfod yn gyflym, ei reoli’n effeithiol a’i ddiffodd yn gyflym er mwyn atal anaf / afiechyd i unrhyw un a allai gael ei effeithio gan weithredoedd y sefydliad.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer holl weithwyr Heddlu Dyfed-Powys, sydd, yn y cyd-destun hwn, yn cynnwys swyddogion heddlu, aelodau staff yr heddlu (gan gynnwys staff dros dro/staff asiantaeth/cymdeithion/contractwyr/staff sydd ar secondiad), cwnstabliaid gwirfoddol, gwirfoddolwyr, ymwelwyr a phawb sydd, am y tro, wedi’u gosod gyda Heddlu Dyfed-Powys o dan Gynlluniau Cadét, Prentisiaeth Fodern neu Brofiad Gwaith yr Heddlu. Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer holl gategorïau gweithwyr Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol neu dros dro, ac unrhyw weithiwr sy’n cael mynediad i asedau ac eiddo’r Heddlu ac yn eu defnyddio.
Mae gweithwyr yn gyfrifol am gymryd gofal rhesymol dros eu hunain ac eraill, a rhaid iddynt gydweithredu â’u cyflogwyr er mwyn galluogi’r cyflogwr i ryddhau ei rwymedigaeth gyfreithiol. Rhaid i unrhyw weithiwr sy’n cael mynediad i asedau ac eiddo’r Heddlu ac yn eu defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
RHAID i bob contractwr a phawb sy’n ymweld â safle Heddlu Dyfed-Powys gael gwybod am y Gweithdrefnau ar gyfer Gadael Adeg Tân gan yr unigolyn cyfrifol ar lafar ar gyrraedd a/neu drwy ohebiaeth ysgrifenedig cyn yr ymweliad â’r safle.
Bydd y polisi’n sicrhau cydymffurfiaeth â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 drwy sicrhau yr ystyrir risgiau tân a’u bod nhw’n cael eu lleihau lle bo’n bosibl.
Cyflawnir cydymffurfiaeth drwy reoli’r ‘Cylch Cydymffurfiaeth Diogelwch Tân’:-
Er mwyn sicrhau a chynnal cydymffurfiaeth diogelwch tân, rhaid rheoli 4 cydran allweddol y Cylch Cydymffurfiaeth Diogelwch Tân yn ddigonol, systematig a pharhaus. Mae rheoli cydymffurfiaeth yn effeithiol yn ganolog ar gyfer lleihau peryglon diffyg cydymffurfiaeth.
Unigolyn Cyfrifol:
Yr unigolyn Cyfrifol yw’r Prif Gwnstabl (Cyflogwr) am ddiogelwch tân o ddydd i ddydd ar gyfer yr Heddlu.
Ar gyfer adeiladau y mae’r Heddlu’n eu rhentu, perchennog y safle yw’r Unigolyn Cyfrifol a bydd yr Heddlu’n cydymffurfio â’i gyfarwyddiadau/gweithdrefnau.
Unigolyn Cyfrifol Dirprwyedig:
Yr unigolyn cyfrifol dirprwyedig ar gyfer pob maes yn yr Heddlu fydd yr Arolygydd/Prif Arolygydd perthnasol, neu’r Pennaeth Adran neu ei gynrychiolydd dirprwyedig. Byddant yn gyfrifol am sicrhau bod larymau tân yn cael eu profi’n wythnosol a bod gweithdrefnau gwagio adeilad yn cael eu cynnal bob 6 mis.
Marsial Tân:
Yr unigolyn/unigolion enwebedig sydd â chyfrifoldeb cyffredinol am adeilad adeg tân neu pan fydd larwm yn canu ac am wagio safle heddlu pan mae hyn yn digwydd.
Yn achos ymarfer neu gamrybudd, y Marsial Tân sy’n dweud wrth staff am fynd yn ôl i mewn i’r adeilad yn dilyn cyfarwyddyd gan yr Ystafell Weithrediadau.
Pan fydd tân yn cael ei gadarnhau, bydd Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu’n hysbysu’r Frigâd Dân ac yn dweud wrth y Marsial Tân am ymgymryd â threfniadau neu ddyletswyddau ychwanegol yn ôl yr angen.
Gwaith y Marsial Tân yw:
Gwiriadau misol neu yn syth ar ôl gwagio adeilad gan y Marsial Tân
Gwiriadau chwarterol y Marsial Tân
Wardeniaid Tân:
Aelodau staff a nodwyd ydynt sydd wedi derbyn hyfforddiant i’w cynorthwyo i wagio safle heddlu. Maent yn adrodd wrth Farsial Tân.
Dylai eu swyddogaethau gynnwys:
Cyfrifoldebau’r Warden Tân – ADEG digwyddiad
Cyfrifoldebau’r Warden Tân – AR ÔL digwyddiad
Yn gyffredinol, bydd y Marsialiaid a’r Wardeniaid (a’u dirprwyon) yn derbyn hyfforddiant a bydd angen iddynt sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r polisi diogelwch tân a’u rhan penodol nhw o ran ei weithredu. Mae hyn yn debygol o gynnwys:
Comander Digwyddiad:
Os yw sefyllfa’n codi lle mae Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu (Rheolwr Digwyddiadau’r Heddlu neu ei Ddirprwy) yn ystyried bod angen anfon Comander Digwyddiadau i’r lleoliad, bydd y Comander Arian ar Ddyletswydd yn cael ei benodi gan Ganolfan Gyfathrebu’r Heddlu, yn unol â Phrotocolau Safonol yr Heddlu.
Dylai’r Comander Digwyddiadau a fyddai’n monitro gweithrediadau a/neu’n cymryd rheolaeth o’r digwyddiad (fel y mae’n ystyried sy’n briodol yn unol â Phrotocolau’r Heddlu ar gyfer digwyddiadau honedig neu amlwg) aros mewn cysylltiad â Chanolfan Gyfathrebu’r Heddlu fel bod modd sefydlu lleoliad ac achos y tân, neu sefydlu camrybudd.
Yn achos tân, rhaid rhoi cadarnhad bod y frigâd dân wedi’i galw.
Os nad oes Comander Arian ar gael i ymgymryd â’r rôl Comander Digwyddiad yn lleoliad y digwyddiad am ei fod yn ymateb i ddigwyddiad arall neu’n rhy bell i ffwrdd i ddod i’r lleoliad yn gyflym, gall Canolfan Gyfathrebu’r Heddlu, fel Rheolwr Digwyddiadau, alw ar Gomander Efydd neu Uwch Swyddog i’r safle er mwyn dirprwyo fel Comanderiaid Digwyddiad.
Noder:-
Os ydyw yn y Pencadlys, rhaid bod gan y Comander Digwyddiad set radio Airwaves ar y sianel ddynodedig yn ei feddiant i’w allugoi i gyfathrebu â Chanolfan Gyfathrebu’r Heddlu, y tîm Ystadau a Marsialiaid Tân.
Bydd y Cynorthwyydd a’r Rheolwr Iechyd a Diogelwch Uwch yn monitro’r polisi, naill ai drwy adrodd ei fod dal yn “addas ar gyfer y diben” neu drwy gyflwyno drafft diwygiedig ar gyfer cymeradwyaeth y Grŵp Pwyllgor Iechyd a Diogelwch, i’w alluogi i gynnal adolygiad rheolaidd (gweler isod).
Bydd monitro’n ystyried y canlynol;
ADOLYGU
Bydd y polisi’n cael ei adolygu’n ffurfiol gan y Grŵp Pwyllgor Iechyd a Diogelwch bob dwy flynedd.
Gall y Polisi fod yn destun craffu gan Arolygiaeth Heddluoedd Ei Fawrhydi, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a phartïon eraill fel y bo’n briodol.
PWY I GYSYLLTU Â NHW YNGLŶN Â’R POLISI HWN
Rhowch wybod i’r Cyfarfod Pwyllgor Iechyd a Diogelwch am unrhyw faterion, neu cysylltwch â’r Uwch Reolwr Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd yn achos unrhyw ymholiad sy’n ymwneud â chynnwys y polisi hwn
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Ebrill 2024