Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r datganiad hwn yn nodi’r Polisi ar gyfer y Prif Gwnstabl (PG) a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh) ar gyfer sicrhau iechyd, diogelwch a lles eu holl adnoddau a’r rhai a allai gael eu heffeithio gan weithgareddau’r Heddlu.
Bydd y Polisi’n sicrhau y bydd Heddlu Dyfed-Powys (HDP) a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh) ar gyfer Dyfed-Powys yn cydymffurfio â’r gofynion a osodir arnynt gan ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch, yn arbennig adrannau 2 a 3 o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974.
Mae’r Polisi hwn yn bodloni’r ddyletswydd eglur a osodir ar gyflogwyr sydd â mwy na 5 gweithiwr i baratoi datganiad ysgrifenedig o’u polisi mewn perthynas ag iechyd a diogelwch, ynghyd â disgrifiad o’u sefydliad a’r trefniadau sydd ar waith ar gyfer gweithredu’r polisi hwnnw.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer pob un o weithwyr a gwirfoddolwyr Heddlu Dyfed-Powys a SCHTh, sydd yn y cyd-destun hwn yn cynnwys swyddogion heddlu, aelodau staff yr heddlu (gan gynnwys staff dros dro/staff asiantaeth/cymdeithion/contractwyr/staff sydd ar secondiad), cwnstabliaid gwirfoddol, gwirfoddolwyr, ymwelwyr lleyg a phawb sydd, am y tro, wedi’u gosod gyda Heddlu Dyfed-Powys o dan Gynlluniau Cadét, Prentisiaeth Fodern neu Brofiad Gwaith yr Heddlu. Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer holl gategorïau gweithwyr Heddlu Dyfed-Powys, boed yn weithwyr llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol neu dros dro, ac unrhyw weithiwr sy’n cael mynediad i asedau ac eiddo’r Heddlu ac yn eu defnyddio. Hefyd, mae’n berthnasol ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn safle a rennir, partneriaethau a’r rhai a secondiwyd i sefydliadau eraill. Bydd disgwyl cydweithredu rhwng y partïon cysylltiedig er mwyn sicrhau fod pawb yn glir ynghylch statws eu polisïau, gweithdrefnau a threfniadau unigol.
Diffinnir y polisi gan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch. Dylai cydymffurfiaeth â’r polisi hwn a pholisïau eraill sicrhau y diogelir y PG, CHTh ac unigolion yn erbyn erlyniad am fethu â chydymffurfio a’r gyfraith.
Cefnogir y polisi iechyd a diogelwch hwn gan brotocolau eraill sy’n ei briodoli, ei gefnogi a’i ganmol.
DATGANIAD POLISI IECHYD A DIOGELWCH
Rydyn ni’n cydnabod fod gan reoli iechyd a diogelwch yn dda fanteision cadarnhaol o ran darparu diogelwch a gwasanaeth ardderchog i’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.
Byddwn ni’n ceisio cyrraedd safonau iechyd a diogelwch teilwng ar gyfer ein holl weithwyr (Swyddogion Heddlu, Staff yr Heddlu, Staff SCHTh, a gwirfoddolwyr) i’r graddau y mae’n bosibl, a gyda golwg ar natur ddynamig plismona gweithredol.
Byddwn ni’n:
Rydyn ni’n derbyn cyfrifoldeb dros iechyd a diogelwch rhai nad ydyn ni’n eu cyflogi megis gwirfoddolwyr, contractwyr, ymwelwyr ag adeiladau y mae CHTh yn berchen arnynt ac aelodau o’r cyhoedd a allai gael eu heffeithio gan ein gweithredoedd neu esgeulustod.
Byddwn ni’n cydymffurfio’n llawn â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974, a phob darpariaeth statudol a chodau ymarfer cymeradwy arall.
Rydyn ni’n disgwyl i’n holl weithwyr (Swyddogion Heddlu a Staff yr Heddlu), gwirfoddolwyr, contractwyr ac ymwelwyr sy’n gweithio ar ein rhan i gydweithredu’n llwyr â’r polisi hwn. Bydd y polisi hwn ar gael i’w ddarllen ar wefan Heddlu Dyfed-Powys.
Fel cyflogwr cyfreithiol Staff o fewn SCHTh, mae gan y CHTh gyfrifoldebau statudol dros eu hiechyd a’u diogelwch yn y gwaith. Dirprwyir cyfrifoldebau CHTh fel cyflogwr i Bennaeth Staff SCHTh.
Hefyd, fel perchennog adeiladau’r ystâd heddlu, mae gan y CHTh ddyletswyddau o fan Adran 4 o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974 i sicrhau fod yr adeiladau’n ddiogel. Rhyddheir y dyletswyddau hyn drwy’r systemau rheoli diogelwch ac ystadau a thrwy arolygiaeth CHTh o reolaeth o’r ystâd heddlu.
Hefyd, mae gan y CHTh gyfrifoldebau o dan Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2012 i sicrhau cynnal heddlu effeithiol ac effeithlon a dal y PG i gyfrif am swyddogaethau’r PG a phersonau o dan ei gyfarwyddyd a’i reolaeth.
Gan hynny, mae’r CHTh yn dal goruchwyliaeth strategol dros drefniadau iechyd a diogelwch yr Heddlu a’i ymrwymiad i reoli’r holl weithgareddau yr ymgymerir â nhw o fewn SCHTh. Yn arbennig, mae gan y CHTh y cyfrifoldebau sy’n ymwneud â chyfrifoldebau ar gyfer holl ystâd HDP, gan gynnwys:-
Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys
Mae gan y swydd PG ddyletswyddau cyflogwr mewn perthynas â Swyddogion, Staff a Gwirfoddolwyr yr Heddlu sy’n cael eu diffinio’n gyflogeion ar gyfer diben iechyd a diogelwch o dan Ddeddf (Iechyd a Diogelwch) yr Heddlu 1997.
Mae gan y Prif Gwnstabl gyfrifoldeb cyffredinol ar gyfer materion iechyd a diogelwch dydd i ddydd ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys gan gynnwys:
Arweinydd Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu (ACPO) ar gyfer Iechyd a Diogelwch
Bydd y Dirprwy Brif Gwnstabl yn cyflawni rôl “Arweinydd” ar gyfer iechyd a diogelwch o fewn y Grŵp Prif Swyddogion (GPS) ac mae ganddo gyfrifoldeb dros adrodd am faterion i’r Bwrdd Plismona. Mae’r rôl hon yn gwasanaethu fel eiriolwr – hyrwyddo, cefnogi, noddi a chwestiynu materion iechyd a diogelwch ar Lefel Prif Swyddog a Bwrdd Plismona. Bydd yn darparu cyswllt rhwng y Bwrdd Plismona, GPS a Phwyllgor Iechyd a Diogelwch yr Heddlu. Mae hyn yn cynnwys:
Prif Swyddogion
Mae pob Prif Swyddog a Phennaeth Adran yn gyfrifol am sicrhau y gweithredir y polisi hwn a’i fod yn cael ei reoli’n effeithiol o fewn eu maes cyfrifoldeb. Yn benodol, disgwylir iddynt:
Rheolwyr a Goruchwylwyr
Disgwylir i bawb sydd â chyfrifoldeb rheoli neu oruchwylio hyrwyddo diwylliant cadarnhaol yn y gweithle, ac maen nhw’n gyfrifol am sicrhau fod:
Holl Swyddogion yr Heddlu, Staff yr Heddlu a Gwirfoddolwyr
Rhaid i bob gweithiwr a gwirfoddolwr:
Iechyd a Diogelwch (Gwasanaethau Cyfreithiol)
Mae Rheolwr Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd yr Heddlu’n darparu gwybodaeth a chyngor cymwys ar faterion Iechyd, Diogelwch ac Amgylcheddol i’r Heddlu a SCHTh mewn cydymffurfiaeth â Rheoliad 7 o Reoliadau Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999.
Mae’r Ymgynghorwyr Iechyd a Diogelwch yn darparu rheolaeth effeithiol o iechyd a diogelwch y gweithle felly mae’n cael ei ystyried yn integrol i weithredu effeithiol Heddlu Dyfed-Powys a SCHTh. Mae hyn yn cynnwys:
Y Ffederasiwn Heddlu, y Gymdeithas Uwch-arolygwyr a Chynrychiolwyr Unsain
Mae cynrychiolwyr y Ffederasiwn Heddlu, y Gymdeithas Uwch-arolygwyr ac Unsain yn cynrychioli diddordebau eu haelodau mewn perthynas â materion iechyd a diogelwch yn y gwaith. Mae ganddynt yr hawl i fynychu’r Pwyllgor Iechyd a Diogelwch. Mae hawl gan aelodau o Unsain a’r Ffederasiwn Heddlu ethol Cynrychiolwyr Diogelwch sydd â hawliau cyfreithiol i gyflawni’r swyddogaethau canlynol:
Polisïau, protocolau, arferion neu Gytundebau Gwasanaeth cysylltiedig
Gweithir gyda rheolwyr lleol i sicrhau y dilynir arferion gweithio diogel ac iach. Fodd bynnag, dylid cofio bod y prif gyfrifoldeb ar gyfer sicrhau iechyd a diogelwch pobl yn gorwedd gyda rheolwyr, nid y cynrychiolydd diogelwch. Dylai rheolwyr ymgynghori â’r cynrychiolydd diogelwch wrth gynnal asesiadau risg oherwydd mae ganddo rôl bwysig o ran sicrhau yr ystyrir barn ac arbenigedd staff. Ceir polisïau cysylltiedig ar y fewnrwyd, ynghyd â gweithdrefnau a chanllawiau cysylltiedig:
TREFNIADAU RHEOLI I’W GWEITHREDU
Gweithdrefnau
Cynhwysir gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch safonol a gweithdrefnau gweithredol penodol sy’n effeithio ar swyddogion a staff o dan y Trefniadau Iechyd a Diogelwch.
Mae’r trefniadau hyn, ynghyd â’r system rheoli iechyd a diogelwch, yn atgyfnerthu’r Polisi hwn ac yn nodi ei weithrediad.
Pwyntiau Allweddol
Alinir gweithdrefnau gweithredol penodol â’r system rheoli iechyd a diogelwch ac maen nhw’n rhan o’r fframwaith rheoli sy’n darparu staff, swyddogion a gwirfoddolwyr â gweithdrefnau, arweiniad a chyngor arfer gorau.
Tra bod y gweithdrefnau a’r dogfennau canllaw cysylltiedig yn darparu manylion llawn ar gyfer gweithredu’r polisi hwn, mae’r wybodaeth ganlynol yn crynhoi rhai pwyntiau allweddol:
Asesu Risg
Asesu Risg yw conglfaen rheoli iechyd a diogelwch effeithiol. Rhaid i asesiad risg gael ei gynnal gan y rheolwr/goruchwylydd sy’n gyfrifol am unrhyw weithiwr neu weithwyr sy’n cyflawni gweithgareddau gwaith sy’n cynnwys peryglon sylweddol. Rhaid iddynt ystyried:
Mae’n bwysig cofio mai ffordd systematig o nodi sut y gellir cyflawni gweithgareddau gwaith yn gymharol ddiogel yw’r broses asesu risg. Nid yw asesu risg yn ymwneud â dileu’r holl beryglon posibl, ac nid yw’n ymwneud a chynhyrchu gweithdrefnau sydd byth yn cael eu rhoi ar waith.
Lle bo’n ymarferol, dylid adolygu asesiadau risg yn dilyn digwyddiad, neu pan y mae’r gweithgarwch gwaith yn newid. Os na fu unrhyw newidiadau neu ddigwyddiadau, rhaid iddynt gael eu hadolygu bob dwy flynedd. Ceir rhagor o wybodaeth ac arweiniad ynglŷn ag asesu risg ar y tudalennau mewnrwyd Iechyd a Diogelwch. Mae hyn yn cynnwys rhestr sy’n dangos holl asesiadau Risg Heddlu Dyfed-Powys sy’n cael eu monitro o leiaf unwaith bob chwe mis er mwyn sicrhau y gweithredir ar y dyddiadau adolygu.
Mae’n ofynnol yn ôl rhai deddfwriaethau i gyflawni asesiadau risg penodol e.e. codi a chario, cyfarpar sgrin arddangos a sylweddau peryglus.
Mae angen i Swyddogion Heddlu a Staff Heddlu Gweithredol fod yn ymwybodol o dechnegau asesiadau risg dynamig fel eu bod nhw’n medru cyflawni asesiadau goddrychol o beryglon yn ystod digwyddiadau risg uchel amser cyflym, a chymryd camau gweithredu priodol ac uniongyrchol i reoli’r peryglon a’r risgiau.
Y Pwyllgor Iechyd a Diogelwch
Mae gan y Pwyllgor Iechyd a Diogelwch y prif swyddogaethau o oruchwylio strategaeth iechyd a diogelwch Heddlu Dyfed-Powys a monitro eu perfformiad o ran iechyd a diogelwch. Mae’r Pwyllgor hwn yn cael ei gadeirio gan Reolwr Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd Heddlu Dyfed-Powys ac mae aelodaeth yn cynnwys Cadeirydd pob un o’r Pwyllgorau Iechyd a Diogelwch Rhanbarthol neu eu dirprwy enwebedig, arweinwyr iechyd a diogelwch SCHTh, y Ffederasiwn Heddlu ac Unsain. Mae’r Ymgynghorwyr Iechyd a Diogelwch yn cynnal ac yn cynghori’r Pwyllgor. Mae’r camau gweithredu o’r Pwyllgor ar gael ar y tudalennau mewnrwyd Iechyd a Diogelwch.
Hyfforddiant
Mae’r Adran Iechyd a Diogelwch (Gwasanaethau Cyfreithiol) yn darparu matrics hyfforddi sy’n amlinellu’r hyfforddiant iechyd a diogelwch sydd ar gael ac yn adnabod pwy ddylai fod yn bresennol.
Mae’r Adran Dysgu a Datblygu’n trefnu’r cyrsiau sy’n cael eu cyflwyno mewn amryw o ffyrdd:-
Cynhelir cofnodion o hyfforddiant iechyd a diogelwch gan yr Adran Dysgu a Datblygu.
Rhaid i reolwyr sicrhau fod gweithwyr yn derbyn cyflwyniad cynefino a hyfforddiant iechyd a diogelwch arall, sy’n briodol i anghenion eu gwaith.
Mae gwybodaeth am fynediad i hyfforddiant ar gael drwy’r tudalennau Dysgu a Datblygu ar y tudalennau Gwasanaethau Pobl ar y fewnrwyd.
Monitro, Archwilio ac Adolygu
Mae monitro perfformiad iechyd a diogelwch yn defnyddio technegau ymatebol a rhagweithiol.
Monitro Ymatebol
Mae hyn yn digwydd ar ôl digwyddiadau megis damweiniau ac afiechyd sy’n gysylltiedig â’r gwaith. Mae’n cynnwys ymchwilio i ddigwyddiadau, dadansoddi ac adrodd ar ddata, ystadegau a thueddiadau, a glynu wrth y gofynion statudol ar gyfer hysbysu am anafiadau ac ati.
Adroddir am ystadegau damweiniau / digwyddiadau wrth y pwyllgor iechyd a diogelwch a chyfarfodydd rheoli adrannol.
Mae’r Adran Iechyd a Diogelwch yn adrodd wrth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch o dan Reoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus 2013 ar ôl derbyn Ffurflen Adrodd am Ddamweiniau ar-lein.
Monitro Rhagweithiol
Mae hyn yn digwydd cyn digwyddiadau megis damweiniau neu salwch ac mae’n cynnwys archwilio safleoedd, adolygu cyfnodol o asesiadau risg, a monitro’r nifer sy’n derbyn hyfforddiant.
Ymgynghorwyr Iechyd a Diogelwch sy’n cynnal archwiliadau safle er mwyn monitro materion iechyd a diogelwch sy’n gysylltiedig â safle ar amlder sy’n dibynnu ar lefel y perygl. Yn ogystal, bydd y rhai sydd wedi’u pennu’n “Unigolion Cyfrifol” Safle yn sicrhau bod taith ddiogelwch chwarterol yn cael ei chynnal gan ddefnyddio’r “Rhestr Wirio Iechyd a Diogelwch”.
Yr Adran Iechyd a Diogelwch (Gwasanaethau Cyfreithiol) sy’n craffu ar asesiadau risg drwy adolygu/archwilio asesiadau risg a’u gweithredu’n ymarferol. Fel arfer, adroddir drwy’r Pwyllgor Iechyd a Diogelwch.
Pandemig / Argyfyngau eithriadol
Rheolir pandemig neu sefyllfaoedd argyfyngus eraill nas rhagwelwyd drwy Grŵp Aur yr Heddlu, yn unol â thimoedd Cynllunio Gweithrediadau arbennig a chynllunio ar gyfer parhad busnes. Digwyddiadau anrhagweladwy yw’r rhain a rhaid ystyried Iechyd a Diogelwch pawb sy’n gysylltiedig fel blaenoriaeth.
Adolygu
Bydd y polisi’n cael ei adolygu’n ffurfiol gan y Grŵp Strategaeth Iechyd a Diogelwch bob dwy flynedd, neu pryd bynnag y bydd unrhyw newidiadau i ddeddfwriaethau i ganllawiau/arfer gorau’n cael eu cyhoeddi gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu gyrff perthnasol eraill. Bydd y polisi hefyd yn cael ei adolygu os oes newidiadau’n digwydd i arferion gweithio, personél neu strwythurau’r Heddlu/SCHTh. Bydd y polisi hefyd yn cael ei adolygu os nodir unrhyw faterion aneffeithiol neu heriau mewn perthynas â’i weithredu.
Mae’n bosibl y bydd y Polisi’n destun craffu gan Arolygiaeth Heddluoedd Ei Fawrhydi, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a phartïon eraill perthnasol fel y bo’n briodol.
Y Broses Apelio
Pan mae gweithiwr yn teimlo nad yw’r polisi hwn yn cael ei weithredu’n briodol, dylai Apelio i’r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol a Chydymffurfio neu swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Gall aelodau o’r cyhoedd ac unigolion nad ydynt yn weithwyr apelio drwy broses gwyno’r Heddlu ar wefan yr Heddlu neu mewn unrhyw orsaf heddlu.
PWY DDYLID CYSYLLTU Â NHW AM Y POLISI HWN
Rhowch wybod i’r Cyfarfod Pwyllgor Iechyd a Diogelwch am unrhyw faterion, neu cysylltwch â’r Uwch Reolwr Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd fel isod yn achos unrhyw ymholiad sy’n ymwneud â chynnwys y polisi hwn.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
Mae Rhan 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi’r nodweddion gwarchodedig sy’n gymwys i’w diogelu dan y Ddeddf, sef: Oed; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhywedd; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i roi ystyriaeth, wrth arfer eu swyddogaethau, i’r angen i:
Mae’r ddyletswydd gydraddoldeb yn berthnasol i’r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil, ac yn yr achos hwnnw dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu camwahaniaethu sy’n berthnasol.
Er mwyn cynnal asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb rhaid mynd ati’n systematig i asesu effeithiau tebygol neu wirioneddol polisi ar bobl o safbwynt yr holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer pob polisi sy’n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Ebrill 2024