Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r polisi Archwilio Cydymffurfiaeth â Diogelu Data yn galluogi Heddlu Dyfed-Powys i sefydlu arferion da o ran defnyddio a thrin gwybodaeth, hyrwyddo diwylliant o ymwybyddiaeth a gwelliant, deall eu cyfrifoldebau a'u hatebolrwydd, a chydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol gan gynnwys Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU a Deddf Diogelu Data 2018.
Ei nod yw darparu fframwaith i weithwyr sy'n sicrhau y defnydd priodol o ddata personol a rhoi sicrwydd bod yr Heddlu'n gweithredu'n gyfrifol i ddiogelu'r data personol y mae'n ei brosesu.
Mae'r polisi hwn, a dogfennau proses cysylltiedig, yn nodi pwysigrwydd archwilio cydymffurfiaeth â diogelu data ac yn amlinellu'n glir sut y dylid gwneud hyn.
Diben y polisi hwn yw rhoi'r ddealltwriaeth angenrheidiol i swyddogion, staff a gwirfoddolwyr perthnasol Heddlu Dyfed-Powys o broses archwilio cydymffurfiaeth â diogelu data'r Heddlu a'u cyfrifoldebau yn hynny o beth. Bydd yn cynorthwyo'r Prif Gwnstabl, yn ei rôl fel Rheolwr Data, i gael sicrwydd bod yr holl ddata a brosesir drwy systemau'r Heddlu yn cydymffurfio â'r egwyddorion diogelu data.
Mae gwybodaeth yn arf pwerus ac yn ased hanfodol, o ran prosesu gorfodi’r gyfraith a rheoli gwasanaethau ac adnoddau ledled yr Heddlu.
Mae'n hollbwysig bod swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yn gallu cael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gyflawni eu dyletswyddau'n ddiogel ac yn effeithiol, ond hefyd bod gwybodaeth gyfrinachol a sensitif yn parhau'n ddiogel. Mae hyn yn berthnasol i wybodaeth sy'n ymwneud â'r sefydliad, ei swyddogion, staff a gwirfoddolwyr, a'r cyhoedd. Mae hefyd yn hanfodol bod polisïau, gweithdrefnau a phrosesau priodol yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer cydymffurfio â diogelu data ar draws yr Heddlu cyfan.
Mae’n berthnasol ar gyfer y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, pa un ai a ydynt yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr) yn staff sydd ar secondiad neu’n wirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion, staff a gwirfoddolwyr heddlu sy’n cael gafael ar asedau ac eiddo’r Heddlu ac yn eu defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae rhwymedigaeth statudol ar Heddlu Dyfed-Powys i brosesu data personol yn unol â darpariaethau Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU mewn perthynas â phrosesau nad ydynt yn gorfodi’r gyfraith a Deddf Diogelu Data 2018 mewn perthynas â phrosesau gorfodi’r gyfraith.
Bydd y polisi hwn yn sicrhau cydymffurfiaeth Heddlu Dyfed-Powys â'r Cod Ymarfer ar Reoli Gwybodaeth, deddfwriaeth diogelu data berthnasol y DU, Arfer Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona ar Reoli Gwybodaeth, sy'n darparu safonau a chanllawiau clir, gofynion archwilio cenedlaethol ac argymhellion a wnaed gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Arfer Proffesiynol Awdurdodedig Plismona ar Archwilio Cydymffurfiaeth a’r Cod Ymarfer ar reoli cofnodion a gwybodaeth yr heddlu – Gorffennaf 2023.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer unrhyw systemau neu brosesau, papur neu electronig, sy’n cynnwys prosesu data personol. Gallai’r rhain fod yn destun archwiliad cydymffurfiaeth â diogelu data ar unrhyw adeg.
Mae'n ofynnol i bob swyddog, aelod staff a gwirfoddolwr ddeall ei gyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth diogelu data'r DU, gyda grwpiau staff penodol yn gofyn am wybodaeth fanylach am broses archwilio cydymffurfiaeth â diogelu data'r Heddlu. Cyfrifoldeb POB swyddog, aelod staff a gwirfoddolwr yw diogelu data a rhaid cadw at y polisi hwn.
Os na chedwir at y polisi hwn a/neu os na chaiff y broses archwilio cydymffurfiaeth â diogelu data ei chwblhau ar yr adeg briodol, mae risgiau posibl i'r Heddlu yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar Heddlu Dyfed-Powys i gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data'r DU. Bydd Heddlu Dyfed-Powys hefyd yn cyfeirio at y Coleg Plismona, Ymarfer Proffesiynol Awdurdodedig - Rheoli Gwybodaeth - Diogelu Data.
Mae deddfwriaethau perthnasol yn cynnwys:
Mae archwiliad cydymffurfiaeth â diogelu data o brosesu data personol, gan yr Heddlu, yn cael ei lywodraethu gan Ddeddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data cysylltiedig y DU. Mae'n ofynnol i bob gweithiwr ddeall eu cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth hon.
Dylai'r polisi hwn hefyd gael ei ddarllen ar y cyd â'r polisïau, protocolau, arferion a/neu gytundebau gwasanaethau canlynol:
Prif Gwnstabl
Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys yw'r Rheolwr Data ac o'r herwydd mae ganddo gyfrifoldeb cyffredinol am brosesu'r holl ddata personol a brosesir gan yr Heddlu yn gyfreithlon. Mae ganddo hefyd atebolrwydd cyffredinol am ddogfennau gweithdrefnol ac mae’n bennaf gyfrifol am gydymffurfio â'r polisi hwn a diogelu data ar draws yr Heddlu cyfan. Mae archwiliadau rheolaidd o brosesu data personol yn sicrhau bod y Prif Gwnstabl yn gwybod yn iawn am statws presennol data personol ledled yr Heddlu.
Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth (SIRO)
Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys yw'r Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth penodedig. Mae’n gyfrifol am:
Swyddog Diogelu Data
Pennaeth Rheoli Gwybodaeth Heddlu Dyfed-Powys yw'r Swyddog Diogelu Data penodedig. Mae’n gyfrifol am:
Perchennog/Perchnogion Asedau Gwybodaeth
Mae Perchnogion Asedau Gwybodaeth yn uwch swyddogion a staff sy'n berchnogion enwebedig ar un neu fwy o asedau gwybodaeth a nodwyd. Maent yn gyfrifol am:
Ymgynghorydd Diogelu Data
Mae'r Ymgynghorydd Diogelu Data yn gyfrifol am:
Uwch Reolwr – Llywodraethu a Newid
Mae’r Uwch Reolwr Llywodraethu a Newid yn gyfrifol am:
Swyddog Diogelwch Gwybodaeth
Mae’r Swyddog Diogelwch Gwybodaeth yn gyfrifol am:
Goruchwylydd Ansawdd Data a Chofnodion
Mae’r Goruchwylydd Ansawdd Data a Chofnodion yn gyfrifol am:
Swyddog Cydymffurfiaeth Diogelu Data
Mae'r Swyddog Cydymffurfiaeth Diogelu Data yn gyfrifol am:
Swyddogion, Staff a Gwirfoddolwyr
Mae'n ofynnol i bob gweithiwr ddeall ei gyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth diogelu data'r DU, a gwybod bod angen cysylltu â'r Adran Rheoli Gwybodaeth a Chydymffurfiaeth gydag unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â diogelu data. Byddant yn derbyn cyfarwyddyd, arweiniad a diweddariadau ynglŷn â'r polisi gan:
Mae angen iddynt fod yn ymwybodol bod cydymffurfiaeth â diogelu data’n cael ei archwilio.
Bwrdd Sicrhau Gwybodaeth
Rôl y Bwrdd Sicrhau Gwybodaeth yw:
Y Cod Moeseg
Yn unol â’r egwyddorion plismona moesegol, mae’r Polisi hwn yn ceisio mynd i’r afael â’r canlynol:-
Defnyddir yr egwyddorion plismona moesegol i helpu’r Heddlu i wneud penderfyniadau proffesiynol mewn perthynas ag achosion o dorri rheoliadau diogelu data ac adlewyrchu arnynt.
Mae'r polisi hwn yn eiddo i'r Adran Rheoli Gwybodaeth a Chydymffurfiaeth. Bydd y broses adolygu yn cael ei chynnal gan yr Ymgynghorydd Diogelu Data bob dwy flynedd i sicrhau effeithiolrwydd parhaus y polisi, gan ystyried unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth, canllawiau cenedlaethol, canllawiau Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ac ati.
Bydd effeithiolrwydd y polisi yn cael ei fonitro'n rheolaidd yn ychwanegol at y cyfnod adolygu dwy flynedd a bydd unrhyw bryderon mawr yn cael eu huwchgyfeirio fel y bo'n briodol.
Bydd effeithiolrwydd y polisi yn cael ei fesur trwy archwilio'r mynediad i'r ddogfen a'r ddogfennaeth ganllaw gysylltiedig. Y nod yw gwirio ymwybyddiaeth y broses archwilio cydymffurfiaeth â diogelu data a sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth diogelu data'r DU. Hefyd, bydd mesur nifer yr ymholiadau a gyfeirir at yr Adran mewn perthynas â'r broses archwilio cydymffurfiaeth â diogelu data a'r polisi yn caniatáu mesur ei effeithiolrwydd.
Yn achos unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r polisi hwn, ei gynnwys, neu'r ddogfennaeth broses gysylltiedig - dylai unigolion gysylltu ag:
(cyfeiriwch yr e-bost at sylw’r Ymgynghorydd Diogelu Data)
Bydd y polisi hwn yn cael ei hyrwyddo'n briodol, a all gynnwys codi ymwybyddiaeth pan roddir mewnbynnau hyfforddi a chyflwyniadau i swyddogion, staff a gwirfoddolwyr ledled yr Heddlu. Bydd y polisi ar gael ar fewnrwyd a rhyngrwyd yr Heddlu. Bydd cyhoeddi trwy'r rhyngrwyd yn sicrhau ei fod ar gael i'r cyhoedd ei weld.
Bydd unrhyw faterion sy'n peri pryder neu risg mewn perthynas â chydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data'r DU ar draws yr Heddlu yn cael eu trosglwyddo i Swyddog Diogelu Data'r Heddlu, Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth yr Heddlu a’r Bwrdd Sicrhau Gwybodaeth, yn dibynnu ar ddifrifoldeb y mater.
Bydd gwybodaeth am unrhyw faterion diogelu data posibl eraill ar draws yr Heddlu, yn cael ei phrosesu yn unol â Pholisi Diogelu Data'r Heddlu. Gall adroddiadau o'r fath, ac ymchwiliadau dilynol, dynnu sylw at faterion gyda'r polisi hwn a chanllawiau cysylltiedig, a allai arwain at adolygiad angenrheidiol. Os digwydd hyn, cymerir camau perthnasol. Bydd yr Ymgynghorydd Diogelu Data yn gweithio'n agos gyda chynrychiolwyr o'r adrannau perthnasol i fynd i'r afael â'r materion a sicrhau y bydd unrhyw wersi a ddysgir yn cael eu hadrodd a'u rhaeadru yn llawn yn ôl yr angen.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Medi 2024