Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r Polisi Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data yn galluogi Heddlu Dyfed-Powys i sefydlu arferion da o ran defnyddio a thrin gwybodaeth, hyrwyddo diwylliant o ymwybyddiaeth a gwelliant a chydymffurfio â deddfwriaeth. Ei nod yw darparu fframwaith i gyflogeion sy'n amlinellu'r broses briodol ar gyfer rheoli prosiectau sy'n prosesu data personol, yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU), Deddf Diogelu Data (DPA) 2018 a deddfwriaeth gysylltiedig arall.
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn diffinio Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data (DPIA) fel proses i helpu sefydliad i nodi a lleihau risgiau diogelu data prosiect. Rhaid cwblhau un ar gyfer prosesu sy'n debygol o arwain at risg uchel i unigolion, neu unrhyw brosiect neu fenter fawr, newydd sy'n cynnwys defnyddio data personol. Fodd bynnag, gellir defnyddio DPIA ar gyfer unrhyw brosiect neu ddarn o waith a allai gynnwys data personol, i helpu i nodi risgiau preifatrwydd ym mhob maes gwaith a mynd i’r afael â nhw.
Dogfen “fyw” yw DPIA a dylid ailymweld â hi’n rheolaidd er mwyn sicrhau na fu unrhyw newidiadau i’r ffordd mae’r data’n cael ei ddefnyddio, ac nad oes unrhyw risgiau newydd.
Gall DPIA gynorthwyo Perchennog Asedau Gwybodaeth (IAO) i asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r asedau gwybodaeth y maent yn gyfrifol amdanynt. Bydd yn cynorthwyo’r IAO i ddeall y risgiau sy’n gysylltiedig ag asedau gwybodaeth a mynd i’r afael â nhw ar ran yr Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth (SIRO) a’u defnyddwyr terfynol, a sicrhau bod y data’n cael ei ddefnyddio’n llawn o fewn y gyfraith.
Mae’r polisi hwn yn hollbwysig ar gyfer helpu swyddogion, staff a gwirfoddolwyr Heddlu Dyfed-Powys i ddeall y broses gywir ar gyfer rheoli prosiectau a mentrau sy'n prosesu data personol. Mae gwybodaeth yn arf pwerus ac yn ased hanfodol, o ran prosesau gorfodi’r gyfraith a rheoli gwasanaethau ac adnoddau ledled yr Heddlu.
Mae'n hollbwysig bod cyflogeion yn deall sut i drin data personol yn gyfreithlon a'u bod yn deall eu cyfrifoldebau wrth ystyried dulliau newydd o brosesu. Mae hyn yn berthnasol i wybodaeth sy'n ymwneud â'r sefydliad, ei swyddogion, staff a gwirfoddolwyr, a’r cyhoedd. Mae hefyd yn hanfodol bod polisïau, gweithdrefnau a phrosesau priodol yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer cydymffurfio â diogelu data ledled yr Heddlu.
Mae’n berthnasol (ond heb fod yn gyfyngedig) i: Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, p'un a ydynt yn llawn amser, yn rhan-amser, yn barhaol, ar dymor penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr), staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i unrhyw swyddogion, staff a gwirfoddolwyr yr heddlu sy'n cyrchu ac yn defnyddio asedau ac eiddo'r Heddlu roi sylw dyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae rhwymedigaeth statudol ar Heddlu Dyfed-Powys i brosesu data personol yn unol â darpariaethau GDPR y DU mewn perthynas â phrosesau nad ydynt yn gorfodi’r gyfraith a DPA 2018 mewn perthynas â phrosesau gorfodi’r gyfraith.
O dan Erthyglau 35 a 36 GDPR y DU a Chronicliadau 74-77, 84, 89-92, 94 a 95, mae gofynion cyfreithiol yn cael eu gosod ar yr Heddlu mewn perthynas â chwblhau DPIA. Nod y polisi hwn yw sicrhau cysondeb yn rheolaeth Heddlu Dyfed-Powys o unrhyw brosiectau neu fentrau mawr, newydd sy'n cynnwys defnyddio data personol (hyd yn oed os nad oes arwydd penodol o risg uchel debygol) a chydymffurfiad â'r ddeddfwriaeth berthnasol a'r canllawiau ymarfer gorau.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydymffurfio ag Ymarfer Proffesiynol Awdurdodedig y Coleg Plismona (APP) ar Reoli Gwybodaeth. Mae'r APP yn darparu safonau ac arweiniad clir o ran preifatrwydd trwy ddyluniad ac yn ddiofyn a DPIA o dan ddeddfwriaeth diogelu data'r DU. Yn ogystal, mae Heddlu Dyfed-Powys yn dilyn unrhyw ganllawiau perthnasol a ddarperir gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) mewn perthynas â materion diogelu data.
Mae’n ofynnol i bob swyddog, aelod staff a gwirfoddolwr ddeall ei gyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth diogelu data'r DU, gyda grwpiau staff penodol yn gofyn am wybodaeth fanylach am DPIA. Cyfrifoldeb POB swyddog, aelod staff a gwirfoddolwr yw diogelu data a rhaid cadw at y polisi hwn.
Mae'r polisi hwn yn cael ei sbarduno cyn gynted ag y bydd prosiect neu fenter newydd sy'n cynnwys defnyddio data personol yn cael ei nodi, neu mae newid i natur, cwmpas, cyd-destun neu ddibenion prosesu sydd ar y gweill mewn prosiect sy'n bodoli eisoes sy'n ymwneud â data personol.
Os na chedwir at y polisi hwn a/neu os na chaiff DPIA eu cwblhau ar yr adeg briodol, mae risgiau posibl i'r Heddlu yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar Heddlu Dyfed-Powys i gydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data'r DU. Bydd Heddlu Dyfed-Powys hefyd yn cyfeirio at Arferion Proffesiynol Awdurdoedig - Rheoli Gwybodaeth - Diogelu Data - Asesiad o'r effaith ar ddiogelu data (DPIA) y Coleg Plismona.
Mae deddfwriaeth berthnasol yn cynnwys:
Mae'r gofyniad i gwblhau DPIA, gan yr Heddlu, yn cael ei lywodraethu gan GDPR y DU. Mae'n ofynnol i grwpiau staff allweddol sy’n ymwneud â phrosiectau a mentrau newydd ar unrhyw lefel ar draws yr Heddlu ddeall eu cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth hon o ran cydnabod pryd mae angen DPIA, a gwybod pa adran i gysylltu â hi i gael cyngor ac arweiniad.
Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Berchnogion Asedau Gwybodaeth (IAO), Gweinyddwyr Asedau Gwybodaeth (IAA) a Rheolwyr Prosiect, fodd bynnag, efallai bydd angen i unrhyw un sy’n cychwyn prosiect neu ddarn o waith sy’n ymwneud â data personol ymgymryd â DPIA cyn i’r data personol hwnnw gael ei ddefnyddio ar gyfer y diben a fwriadwyd.
Mae mwy o fanylion ar gael yn nogfen Canllawiau DPIA..
Dylai'r polisi hwn hefyd gael ei ddarllen ar y cyd â'r polisïau, protocolau, arferion a/neu gytundebau gwasanaethau canlynol:
Rolau a Chyfrifoldebau o fewn Heddlu Dyfed-Powys
Prif Gwnstabl
Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys yw'r Rheolwr Data ac o'r herwydd mae ganddo gyfrifoldeb cyffredinol am brosesu'r holl ddata personol a brosesir gan yr Heddlu yn gyfreithlon. Mae ganddo hefyd atebolrwydd cyffredinol am ddogfennau gweithdrefnol ac mae’n bennaf gyfrifol am gydymffurfio â'r polisi hwn a diogelu data ar draws yr Heddlu cyfan. Mae Erthygl 35 GDPR y DU yn nodi cyfrifoldebau’r Rheolwr Data mewn perthynas ag ymgymryd â DPIA.
Dirprwy Brif Gwnstabl (DCC) Heddlu Dyfed-Powys yw'r Uwch Berchennog Risg Gwybodaeth (SIRO) penodedig. Maen nhw'n gyfrifol am:
Swyddog Diogelu Data (DPO)
Pennaeth Rheoli Gwybodaeth Heddlu Dyfed-Powys yw'r Swyddog Diogelu Data (DPO) penodedig. Maen nhw'n gyfrifol am:
Perchennog/Perchnogion Asedau Gwybodaeth (IAO)
Mae Perchnogion Asedau Gwybodaeth (IAO) yn uwch gyflogeion sy'n berchnogion enwebedig ar un neu fwy o asedau gwybodaeth a nodwyd. Maen nhw'n gyfrifol am:
Ymgynghorydd Diogelu Data
Mae’r Ymgynghorydd Diogelu Data yn gyfrifol am:
Rheolwyr Prosiect
Mae Rheolwyr Prosiect yn gyfrifol am:
Uwch Reolwr – Llywodraethu a Newid – Uned Gwella Gwasanaethau
Mae’r Uwch Reolwr – Llywodraethu a Newid – Uned Gwella Gwasanaethau yn gyfrifol am:
Swyddog Diogelwch Gwybodaeth
Mae'r Swyddog Diogelwch Gwybodaeth yn gyfrifol am:
ff. Swyddogion Rhannu Gwybodaeth
Mae Swyddogion Rhannu Gwybodaeth yn gyfrifol am:
g. Swyddog Cydymffurfiaeth Diogelu Data
Mae'r Swyddog Cydymffurfiaeth Diogelu Data yn gyfrifol am:
ng. Goruchwylydd Ansawdd Data a Chofnodion
Mae’r Goruchwylydd Ansawdd Data a Chofnodion y gyfrifol am:
h. Pob Swyddog, Staff a Gwirfoddolwr
Mae'n ofynnol i bob swyddog, staff a gwirfoddolwr ddeall ei gyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth diogelu data'r DU, a gwybod bod angen cysylltu â'r Adran Rheoli Gwybodaeth gydag unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â DPIA.
Diogelwch Data fel Rhan Annatod o’r Broses
Mae GDPR y DU yn nodi gofyniad cyfreithiol o ran ei fod yn mynnu bod yr Heddlu’n rhoi mesurau technegol a sefydliadol ar waith i weithredu’r egwyddorion diogelu data’n effeithio a diogelu hawliau unigolion. ‘Diogelwch data fel rhan annatod o’r broses’ yw hyn. Mae hynny’n golygu bod yr Heddlu’n integreiddio data gyda’i weithgarwch prosesu ac arferion busnes, o’r cam cynllunio drwy gydol y cylch bywyd. Mae diogelwch data fel rhan annatod o’r broses yn ymwneud ag ystyried materion preifatrwydd a diogelu data ym mhopeth y mae’r heddlu’n ei wneud. Gall helpu’r Heddlu i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â gofynion ac egwyddorion sylfaenol GDPR y DU ac yn ffurfio rhan o’r ffocws ar atebolrwydd. Gall y broses DPIA gynorthwyo’r Heddlu i gydymffurfio â’r gofynion hwn ar ran y Rheolydd Data.
Mae'r polisi hwn yn eiddo i'r Adran Rheoli Gwybodaeth a Chydymffurfiaeth. Bydd y broses adolygu yn cael ei chynnal gan yr Ymgynghorydd Diogelu Data bob dwy flynedd i sicrhau effeithiolrwydd parhaus y polisi, gan ystyried unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth, canllawiau cenedlaethol, canllawiau ICO ac ati.
Bydd effeithiolrwydd y polisi yn cael ei fonitro'n rheolaidd yn ychwanegol at y cyfnod adolygu dwy flynedd a bydd unrhyw bryderon mawr yn cael eu huwchgyfeirio fel y bo'n briodol.
Bydd effeithiolrwydd y polisi yn cael ei fesur trwy broses Archwilio Cydymffurfiaeth Diogelu Data'r Heddlu ac archwilio'r mynediad i'r ddogfen a'r ddogfennaeth ganllaw gysylltiedig. Y nod yw gwirio ymwybyddiaeth o'r angen i gwblhau DPIA a sicrhau cydymffurfiad â deddfwriaeth diogelu data'r DU. Hefyd, bydd mesur nifer yr ymholiadau a gyfeirir at yr Adran mewn perthynas â'r broses DPIA a'r polisi yn caniatáu mesur ei effeithiolrwydd.
Yn achos unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r polisi hwn, ei gynnwys, neu'r ddogfennaeth ganllaw gysylltiedig - dylai unigolion gysylltu ag:
Bydd y polisi hwn yn cael ei hyrwyddo'n briodol, a all gynnwys codi ymwybyddiaeth pan ddarperir mewnbynnau hyfforddi a chyflwyniadau i weithwyr ledled yr Heddlu. Bydd y polisi ar gael ar fewnrwyd a rhyngrwyd yr Heddlu. Bydd cyhoeddi trwy'r rhyngrwyd yn sicrhau ei fod ar gael i'r cyhoedd ei weld.
Bydd unrhyw faterion sy'n peri pryder neu risg mewn perthynas â chydymffurfio â deddfwriaeth diogelu data'r DU ar draws yr Heddlu yn cael eu trosglwyddo i Swyddog Diogelu Data'r Heddlu, SIRO yr Heddlu a’r Bwrdd Sicrwydd Gwybodaeth, yn dibynnu ar ddifrifoldeb y mater.
Bydd gwybodaeth am unrhyw faterion diogelu data posibl eraill ar draws yr Heddlu, yn cael ei phrosesu yn unol â Pholisi Diogelu Data'r Heddlu. Gall adroddiadau o'r fath, ac ymchwiliad dilynol, dynnu sylw at faterion gyda'r polisi hwn a chanllawiau cysylltiedig, a allai arwain at adolygiad angenrheidiol. Os digwydd hyn, cymerir camau perthnasol. Bydd yr Ymgynghorydd Diogelu Data yn gweithio'n agos gyda chynrychiolwyr o'r adrannau perthnasol i fynd i'r afael â'r materion a sicrhau y bydd unrhyw wersi a ddysgir yn cael eu hadrodd a'u rhaeadru yn llawn yn ôl yr angen.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: September 2024