Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn sicrhau’r defnydd rheoledig o ddyfeisiau cyfryngau symudol i gadw a throsglwyddo gwybodaeth gan bob defnyddiwr sydd â mynediad at wybodaeth, systemau gwybodaeth ac offer TGCh ar gyfer dibenion cynnal busnes Heddlu Dyfed-Powys swyddogol.
Mae’r ddogfen hon yn nodi’r polisi Cyfryngau Symudadwy ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys, a dylid ei ddarllen ar y cyd â’r Canllawiau Cyfryngau Symudadwy. Mae’r polisi a’r canllawiau’n sefydlu’r egwyddorion ac arferion gweithio sydd i’w mabwysiadu gan bob defnyddiwr er mwyn i ddata gael ei gadw’n ddiogel a’i drosglwyddo i gyfryngau symudadwy.
Mae’r polisi hwn yn anelu i sicrhau bod y defnydd o ddyfeisiau cyfryngau symudadwy yn cael ei reoli er mwyn:
Mae’r polisi hwn yn effeithio ar gyfer y canlynol (ond hebfod yn gyfyngedig i hynny): holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, pa un ai a ydynt yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr) neu’n staff sydd ar secondiad neu'n gwirfoddolwyr. Rhaid i unrhyw swyddogion, staff neu wirfoddolwyr sy’n cael gafael ar asedau ac eiddo’r Heddlu ac yn eu defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Dylid glynu wrth y polisi hwn bob amser, yn enwedig pryd bynnag y mae unrhyw ddefnyddiwr yn cadw neu trosglwyddo unrhyw wybodaeth sy’n cael ei defnyddio gan Heddlu Dyfed-Powys i gynnal busnes swyddogol ar ddyfeisiau cyfryngau symudadwy.
Dyfeisiau cadw data yw cyfryngau symudadwy sy’n medru symud system gyfrifiadurol heb ddiffodd y system. Defnyddir dyfeisiau cyfryngau symudadwy ar gyfer cludo, storio a chadw data.
Nid yw’r polisi hwn yn cyfeirio at ddyfeisiau data symudol a gyhoeddir i swyddogion. Mae polisi ar wahân sy’n ymdrin â’r defnydd o’r dyfeisiau hyn.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod bod peryglon yn gysylltiedig â defnyddwyr yn cael mynediad at wybodaeth a’i thrin er mwyn cynnal busnes swyddogol.
Mae sicrhau data’n hollbwysig – yn arbennig mewn perthynas â’r angen i ddiogelu data yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU.
Gallai colli’r gallu i gael mynediad at wybodaeth, neu ymyrryd â’i chywirdeb, gael effaith sylweddol ar weithrediad effeithlon Heddlu Dyfed-Powys. Gan hynny, mae’n hollbwysig ar gyfer gweithrediad parhaus Heddlu Dyfed-Powys fod cyfrinachedd, cywirdeb ac argaeledd yr holl systemau cofnodi gwybodaeth yn cael eu cynnal ar lefel sy’n briodol ar gyfer anghenion Heddlu Dyfed-Powys.
Mae’r polisi hwn a’r chanllawiau’n cysylltiedig yn anelu i liniau’r peryglon canlynol:
Gall peidio â chydymffurfio â’r polisi hwn gael effaith andwyol ar weithrediad effeithlon Heddlu Dyfed-Powys a gall arwain at golled ariannol ac anallu i gyflawni ei swyddogaethau effeithlon yn effeithiol o fewn yr Heddlu.
Elfen allweddol o’r Polisi Cyfryngau Symudadwy yw’r gofyniad i sicrhau y defnyddir amgryptiad BitLocker wrth ddefnyddio dyfeisiau cyfryngau symudadwy, yn enwedig cofau bach USB. Gall yr adran TGCh roi arweiniad ar hyn pan fod angen.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, pa un ai a ydynt yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr), yn staff sydd ar secondiad neu’n wirfoddolwyr, mewn perthynas â’r defnydd o Gyfryngau Symudadwy’n benodol. Rhaid i unrhyw swyddogion, staff neu wirfoddolwyr sy’n cael gafael ar asedau ac eiddo’r Heddlu a’u defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Mae'r polisi hwn yn bodloni gofynion sefydliadol ac yn cydymffurfio â mesurau rheoli fel yr argymhellir o dan swyddogaeth Fframwaith ‘Protect’ Seiberddiogelwch gan y Sefydliad Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg (NIST), yn benodol 'PR.PT-2 Mae cyfryngau symudadwy yn cael eu diogelu a'u defnydd yn gyfyngedig yn unol â pholisi', a chydag argymhellion a ddarparwyd gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) mewn perthynas â chyfryngau symudadwy.
Mae’r Heddlu’n cydymffurfio â’r deddfwriaethau canlynol a phob deddfwriaeth arall fel y bo’n briodol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny):
Polisïau, safonau, gweithdrefnau ac arferion cysylltiedig, gan gynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny):
Perchennog y Polisi: Mae’r polisi hwn yn eiddo i’r Pennaeth TGCh, sy’n gyfrifol am fonitro’r polisi’n rheolaidd ar gyfer ei effeithiolrwydd, heriau i’r polisi, unrhyw newidiadau i ganllawiau Sefydliad Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg/Canolfan Genedlaethol Diogelwch Seiber, ac unrhyw eitemau aneffeithlon mewn perthynas â gweithredu’r polisi hwn.
Proses Gymeradwyo: Mae’r Bwrdd Sicrhau Gwybodaeth yn cymeradwyo penderfyniadau mewn perthynas â gweithredu’r polisi hwn.
Y Canllawiau Cyfryngau Symudadwy: Mae’r canllawiau hyn yn nodi’r gweithdrefnau a’r prosesau mewn perthynas â’r defnydd o Gyfryngau Symudadwy.
Mae’r gweithdrefnau a’r prosesau a nodir o fewn y Canllawiau Cyfryngau Symudadwy’n berthnasol i holl swyddogion ac aelodau staff yr heddlu sy’n gysylltiedig ag unrhyw agwedd o Gyfryngau Symudadwy yn Heddlu Dyfed-Powys. Ceisir cyfeiriad at oruchwylwyr a rheolwyr am gyngor a chanllawiau lle yr ystyrir hynny’n briodol.
Mae’r egwyddorion Cod Moeseg canlynol yn berthnasol ar gyfer y polisi hwn:
Defnyddir adroddiadau drwy’r Olrheinwyr Llif Gwaith mewn perthynas â’r defnydd o gyfryngau symudadwy i feintoli materion sy’n ymwneud â defnyddio cyfryngau symudadwy.
Mae’r Adran TGCh yn cyflawni Monitro Amddiffynnol ledled ar draws rhwydwaith yr Heddlu sy'n medru tynnu sylw at faterion sy'n ymwneud â defnyddio dyfeisiau cyfryngau symudadwy a defnyddir hyn sy'n dynnu at unrhyw fethiant yn y prosesau a'r gweithdrefnau a amlinellir yn y Canllawiau Cyfryngau Symudadwy.
Fel rhan o allu Monitro Amddiffynnol yr Heddlu, mae'r Adran TGCh yn derbyn hysbysiadau gan y Ganolfan Reoli Genedlaethol, gan gefnogi TGCh ymhellach o ran monitro defnydd amhriodol o gyfryngau symudadwy.
Cyfeirir unrhyw fethiannau sylweddol o fewn y gweithdrefnau a gynhwysir o fewn y Canllawiau Cyfryngau Symudadwy at Reolwyr TGCh er ystyriaeth.
Bydd canllawiau ac argymhellion gan sefydliadau perthnasol, gan gynnwys y Sefydliad Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg a’r Ganolfan Genedlaethol Diogelwch yn cael eu hystyried mewn perthynas â diwygio/diweddaru’r polisi hwn.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Ionawr 2026