Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae monitro amddiffynnol yn hanfodol i nodi a chanfod bygythiadau i systemau TGCh.
Mae defnydd gweithredol o offer monitro amddiffynnol yn cefnogi adnabod arwyddion o ymosodiad, ymddygiad system anarferol, neu weithgaredd nad yw'n unol â pholisïau'r sefydliad. Mae'r defnydd ôl-weithredol o offer monitro amddiffynnol yn cefnogi ymchwilio a deall digwyddiadau a nodwyd.
Mae'r defnydd o fonitro amddiffynnol o fewn Heddlu Dyfed-Powys nid yn unig yn cefnogi diogelu systemau lleol, ond hefyd yn rhoi sicrwydd i asiantaethau a sefydliadau partner ynghylch diogelwch systemau TGCh Heddlu Dyfed-Powys a'r data a gedwir ar y systemau hyn.
Cefnogir Heddlu Dyfed-Powys gan y Ganolfan Rheolaeth Genedlaethol (NMC), y cyfleuster diogelu seiberddiogelwch a gefnogir yn genedlaethol ar gyfer heddluoedd ledled Cymru a Lloegr, sy’n cyflawni swyddogaeth monitro a rhybuddio ar ran yr Heddlu.
Mae’r prosesau busnes a’r dechnoleg a ddefnyddir fel rhan o fonitro amddiffynnol o fewn Heddlu Dyfed-Powys yn darparu trosolwg o’r ffordd y mae systemau TGCh yn cael eu defnyddio, neu eu camddefnyddio, ac yn rhoi sicrwydd o atebolrwydd defnyddwyr wrth ddefnyddio TGCh.
Set o brosesau busnes yw Monitro Amddiffynnol, gyda chymorth technoleg hollbwysig, sydd mewn grym ar gyfer goruchwylio sut y mae systemau TGCh yn cael eu defnyddio/camddefnyddio a sicrhau atebolrwydd defnyddwyr ar gyfer eu defnydd o gyfleusterau TGCh.
Mae enghreifftiau o fonitro amddiffynnol yn cynnwys archwilio cofnodion mur tân, ymchwilio i hysbysiadau diogelwch, a monitro systemau canfod ymyrraeth.
Prif nodau monitro amddiffynnol yw:
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn trefnu systemau monitro yn eu rhwydwaith. Wrth gael mynediad at wybodaeth neu ei phrosesu, rhaid i ddefnyddwyr dderbyn y gall hyn gael ei graffu a’i fonitro.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau gweithwyr Heddlu Dyfed-Powys, pa un ai a ydynt yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr) neu’n staff sydd ar secondiad. Rhaid i unrhyw weithiwr sy’n cael gafael ar asedau ac eiddo’r Heddlu ac yn eu defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Nid yw’r polisi hwn, nac unrhyw ganllaw cysylltiedig, yn trechu unrhyw weithdrefnau neu bolisïau sy’n bodoli eisoes, nac yn negyddu unrhyw ganllawiau cyfredol mewn perthynas â diogelwch gwybodaeth, diogelu data neu ddefnydd derbyniol. Mae’n ategu polisïau o’r fath, gyda ffocws penodol ar fonitro amddiffynnol rhwydwaith TGCh Heddlu Dyfed-Powys, a’r data sy’n cael ei dal neu ei chludo ganddi.
Mae diogelu data’n hollbwysig yn Heddlu Dyfed-Powys – yn arbennig mewn perthynas â’r angen i warchod data yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU.
Gallai colli’r gallu i gael mynediad at wybodaeth, neu ymyrryd â’i chywirdeb, gael effaith sylweddol ar weithrediad effeithlon Heddlu Dyfed-Powys. Gan hynny, mae’n hollbwysig ar gyfer gweithrediad parhaus Heddlu Dyfed-Powys fod cyfrinachedd, cywirdeb ac argaeledd yr holl systemau cofnodi gwybodaeth yr adran TGCh yn cael eu cynnal ar lefel sy’n briodol ar gyfer anghenion Heddlu Dyfed-Powys.
Mae monitro amddiffynnol yn ofyniad allweddol ar gyfer sicrhau:
Gall peidio â chydymffurfio â’r polisi hwn gael effaith sylweddol ar weithrediad effeithlon gweithgareddau Heddlu Dyfed-Powys a gall arwain at golled ariannol ac anallu i’r Heddlu gyflawni ei swyddogaethau.
Mae'r polisi hwn yn bodloni gofynion sefydliadol ac mae'n cydymffurfio â mesurau rheoli fel yr argymhellwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg (NIST), yn bennaf y swyddogaeth 'Canfod' ac ystod o reolaethau cysylltiedig fel rhan o Fframwaith Seiberddiogelwch NIST, a gan y Sefydliad Seiber Genedlaethol. Canolfan Ddiogelwch (NCSC), sef 'Logio a Monitro' fel rhan o '10 Cam at Seiberddiogelwch' yr NCSC.
Mae'r Heddlu’n cydymffurfio â’r deddfwriaethau canlynol a phob deddfwriaeth arall fel y bo’n briodol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny):
Polisïau, safonau, gweithdrefnau ac arferion cysylltiedig, gan gynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny):
Perchennog y Polisi: Mae’r polisi hwn yn eiddo i Bennaeth TGCh, sy’n gyfrifol am fonitro’r polisi’n rheolaidd ar gyfer ei effeithiolrwydd, heriau i’r polisi, unrhyw newidiadau i ganllawiau Sefydliad Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg/Canolfan Genedlaethol Diogelwch Seiber, ac unrhyw eitemau aneffeithlon mewn perthynas â gweithredu’r polisi hwn.
Proses Gymeradwyo: Y Bwrdd Sicrhau Gwybodaeth sy’n cymeradwyo penderfyniadau mewn perthynas â gweithredu’r polisi hwn.
Mae’r egwyddorion Cod Moeseg canlynol yn berthnasol ar gyfer y polisi hwn:
(Yr Adran TGCh sy’n gwneud y Gwaith monitro amddiffynnol. Mae unrhyw ganfyddiadau’n destun adolygiad a lle bo angen yn cael eu huwchgyfeirio i’r Grŵp Cydnerthedd Seiber, a’i rôl yw darparu trosolwg ar yr holl faterion sy’n ymwneud â’r dirwedd bygythiad seiber presennol a’r rhai sy’n dod i’r amlwg, a diffinio ystum diogelwch priodol a derbyniol ar gyfer yr Heddlu.
Bydd unrhyw faterion na ellir eu datrys gan y Grŵp Cydnerthedd Seiber, neu y mae angen eu huwchgyfeirio, yn cael eu hystyried yn ffurfiol gan y Bwrdd Sicrwydd Gwybodaeth.
Mae canllawiau ac argymhellion gan sefydliadau perthnasol, gan gynnwys y Sefydliad Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg a’r Ganolfan Genedlaethol Diogelwch yn cael eu hystyried pan yn diweddaru ac yn adolygu y polisi hwn.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Ionawr 2025