Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r ddogfen hon yn nodi’r polisi Mynediad i Gyflenwyr o Bell ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys (HDP) a dylid ei ddarllen ar y cyd â’r Canllaw ar gyfer Mynediad i Gyflenwyr o Bell.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn sicrhau bod amlygiad posibl yr Heddlu i beryglon sy’n ymwneud â chysylltiadau mynediad o bell yn cael eu lleihau drwy sicrhau mai dim ond dulliau diogel a ddefnyddir i gysylltu â rhwydwaith yr Heddlu.
Nod y polisi hwn a’r canllaw yw:
Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau gweithwyr Heddlu Dyfed-Powys, pa un ai a ydynt yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr) neu’n staff sydd ar secondiad. Rhaid i unrhyw weithiwr sy’n cael gafael ar asedau ac eiddo’r Heddlu a’u defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Rhaid glynu wrth y polisi hwn bob amser, yn benodol mewn perthynas â chyflenwyr yn cynnal gweithgareddau lle mae angen mynediad o bell.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod bod peryglon yn gysylltiedig â chyflenwyr yn cael mynediad i systemau’r Heddlu o bell wrth gynnal gweithgareddau busnes cyfreithlon gyda’r llu.
Mae diogelu data’n hollbwysig – yn arbennig mewn perthynas ag angen HDP i ddiogelu data yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU.
Gallai unrhyw fynediad heb awdurdod neu ymyrraeth â data neu wybodaeth yr Heddlu effeithio’n sylweddol ar weithrediad effeithlon Heddlu Dyfed-Powys. Gan hynny, mae’n hollbwysig ar gyfer gweithrediad effeithlon Heddlu Dyfed-Powys fod cyfrinachedd, unplygrwydd ac argaeledd yr holl systemau cofnodi gwybodaeth yn cael eu cynnal ar lefel sy’n briodol ar gyfer anghenion Heddlu Dyfed-Powys.
Mae’r polisi hwn a’r canllaw cysylltiedig yn lliniaru’r peryglon canlynol:
Gallai diffyg cydymffurfiaeth â’r polisi hwn gael effaith sylweddol ar weithrediad effeithlon Heddlu Dyfed-Powys, ac fe allai arwain at golled ariannol a HDP yn methu â chyflawni ei swyddogaethau.
Mae’r polisi hwn yn effeithio ar bob defnyddiwr TGCh sy’n rhan o’r broses mynediad i gyflenwyr o bell a phob cyflenwr sy’n cael mynediad o bell wrth gael mynediad i systemau/data Heddlu Dyfed-Powys.
Mae'r polisi hwn yn bodloni gofynion sefydliadol ac yn cydymffurfio â mesurau rheoli fel yr argymhellir o dan swyddogaeth 'Amddiffyn' Fframwaith Seiberddiogelwch y Sefydliad Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg (NIST), yn benodol 'PR.AC-3 Remote Access is Managed' a 'PR.AT -3 Mae Rhanddeiliaid Trydydd Parti yn deall eu rolau a'u cyfrifoldebau', gyda argymhellion a ddarparwyd gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) yn ymwneud ag egwyddorion diogelwch y gadwyn gyflenwi.
Mae’r Heddlu’n cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ganlynol, a phob deddfwriaeth arall fel y bo’n briodol:
Polisïau, safonau, gweithdrefnau ac arferion cysylltiedig, gan gynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny:
Perchennog Polisi: Mae’r polisi’n eiddo i’r Pennaeth TGCh, sy’n gyfrifol am fonitro’r polisi’n rheolaidd am ei effeithiolrwydd, heriau i’r polisi, unrhyw newidiadau i ganllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg/Canolfan Genedlaethol Seiberddiogelwch, ac unrhyw eitemau aneffeithlon mewn perthynas â gweithredu’r polisi hwn.
Y Broses Gymeradwyo: Y Bwrdd Sicrwydd Gwybodaeth sy’n cymeradwyo penderfyniadau ynglŷn â gweithredu’r polisi.
Canllaw ar gyfer Mynediad i Gyflenwyr o Bell: Mae’r canllaw hwn yn nodi’r gweithdrefnau a’r prosesau mewn perthynas â chyflenwyr yn cael mynediad o bell.
Mae’r gweithdrefnau a’r prosesau a nodir yn y Canllaw ar gyfer Mynediad i Gyflenwyr o Bell yn berthnasol ar gyfer holl swyddogion ac aelodau staff yr heddlu. Ceisir cyfeiriad at oruchwylwyr a rheolwyr am gyngor ac arweiniad pan ystyrir fod hynny’n briodol.
Mae’r egwyddorion Cod Moeseg canlynol yn berthnasol i’r polisi hwn:
Mae'r Adran TGCh yn cynnal monitro amddiffynnol ar draws systemau'r Heddlu; defnyddir hwn i fonitro materion diogelwch a gall hefyd amlygu unrhyw fethiant yn y prosesau a'r gweithdrefnau a amlinellir yn y Canllaw Mynediad o Bell i Gyflenwyr.
Cyfeirir unrhyw fethiannau arwyddocaol o fewn y gweithdrefnau a gynhwysir o fewn y Canllaw ar gyfer Mynediad i Gyflenwyr o Bell at Reolwyr TGCh er ystyriaeth.
Ystyrir canllawiau ac argymhellion gan sefydliadau perthnasol, gan gynnwys y Sefydliad Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg a’r Ganolfan Genedlaethol Seiberddiogelwch, wrth adolygu a diweddaru’r polisi hwn.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Ionawr 2025