Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r polisi Rheoli Newid TGCh a’r canllaw’n sefydlu’r egwyddorion a’r arferion gweithio sydd i’w mabwysiadu pan mae angen newid i’r amgylchedd weithredu neu weithdrefnau gweithredu safonol unrhyw system neu wasanaeth sydd â’r potensial i effeithio ar sefydlogrwydd a dibynadwyedd isadeiledd neu darfu ar y busnes.
Cyfrifoldeb yr adran TGCh yw rheoli cylch gwaith pob system sy’n cefnogi busnes ac amcanion technegol Heddlu Dyfed-Powys. Nodir yr holl brosesau a gweithdrefnau sy’n gysylltiedig â rheoli newid yn y ddogfen hon a’r ddogfen ‘Canllaw Rheoli Newid TGCh’.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydnabod bod risgiau’n gysylltiedig â gwneud newidiadau a bod yn rhaid rheoli cylch-oes pob system o fewn Heddlu Dyfed-Powys i sicrhau cyfrinachedd llawn, cywirdeb ac argaeledd systemau a data i fodloni amcanion busnes a thechnegol.
Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau gweithwyr Heddlu Dyfed-Powys, pa un ai a ydynt yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr) neu’n staff sydd ar secondiad. Rhaid i unrhyw weithiwr sy’n cael gafael ar asedau ac eiddo’r Heddlu ac yn eu defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Rhaid glynu wrth y polisi hwn bob amser, ond yn benodol mewn perthynas â newid i’r amgylchedd weithredu neu weithdrefnau gweithredu safonol unrhyw system neu wasanaeth sydd â’r potensial i effeithio ar sefydlogrwydd a dibynadwyedd isadeiledd neu darfu ar y busnes. Gall fod angen newidiadau am sawl rheswm, gan gynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny):
Mae HDP yn cydnabod bod peryglon yn gysylltiedig â chyflawni newidiadau a bod yn rhaid i gylch gwaith pob system o fewn HDP gael eu rheoli er mwyn sicrhau unplygrwydd, hygyrchedd a chyfrinachedd llawn y ddwy system a data er mwyn bodloni amcanion technegol a busnes HDP.
Byddai methu â chynnal polisi newid a chanllaw safonol i fodloni’r polisi hwn yn gadael yr Heddlu mewn perygl mewn nifer o feysydd. Mae’r polisi hwn yn anelu i liniaru’r risgiau canlynol:
Mae’r tîm Rheoli TGCh ar y cyd yn ymgymryd â rôl ‘Rheolwr Newid’, mewn perthynas â’r ddisgyblaeth sy’n gysylltiedig â’r newid, ond dim ond un rheolwr sy’n cymeradwyo’r newid (at ddibenion archwilio). Mae'r tîm Rheoli TGCh, a rhanddeiliaid eraill (lle bo'n berthnasol), yn ffurfio'r Bwrdd Cynghori ar Newid, lle caiff ceisiadau am newid eu hadolygu a phenderfynir arnynt.
Diffinnir mathau o newidiadau yn y categorïau isod:
Newid mewn Argyfwng
Toriadau heb eu trefnu (methiannau gweinydd, ac ati) sydd angen sylw ar unwaith pryd bynnag y byddant yn digwydd. Mae angen dilyn y broses Cais am Newid o hyd, ond gellir ei chynnal yn ôl-weithredol.
Enghreifftiau o'r math hwn yw:
Newid Brys
Gellir gofyn am newid brys mewn amgylchiadau lle mae angen gweithredu rhywbeth yn gyflym. Mae angen dilyn y broses rheoli newid, ond yn dibynnu ar y brys ac mewn amgylchiadau eithriadol mae'n bosibl i un o'r Tîm Rheoli TGCh gymeradwyo'r newid ar unwaith a pheidio ag aros am y Bwrdd Ymgynghorol Newid. Mewn amgylchiadau ‘arferol’ gall y Rheolwr TGCh sy’n cael gwybod am y cais brys gysylltu â’r Rheolwyr TGCh eraill am sylwadau cyn cymeradwyo (neu fel arall). Rhaid i'r mathau hyn o newidiadau bob amser gynnwys cynllun wrth gefn neu gynllun gweithredu lliniarol - na fydd ceisiadau'n cael eu hystyried hebddynt.
Enghreifftiau o'r math hwn yw:
Newidiadau arferol:
Mae Newidiadau arferol yn cael eu hystyried yn risg gymharol isel, sy’n cael eu perfformio’n aml, ac yn dilyn proses ddogfenedig (cymeradwywyd gan Reoli Newid). Fodd bynnag, ni ddylid eu cynnal ar ddydd Gwener fel rhan o archwaeth isel yr adran TGCh am risg.
Mae opsiwn i’r sawl sy’n cyflwyno’r newid ddefnyddio opsiwn “yr un newid” wrth greu’r cais cychwynnol – byddai diweddariadau/’patches’ misol yn dod o dan y categori hwn ac, i bob pwrpas, yn dod yn ‘rhag-gymeradwy’ ar gyfer y diweddariad nesaf. Ni fyddai angen i’r un newid fynd drwy broses y Bwrdd Cynghori ar Newid ar gyfer yr iteriad nesaf, fodd bynnag, os bydd y broses yn newid, yna byddai’n rhaid ei ailgyflwyno gan ystyried y newidiadau hynny.
Mae'r rhain yn newidiadau sy'n peri risg isel i'r busnes gan fod y gweithdrefnau'n hysbys ac wedi'u profi a'u dogfennu'n dda.
Enghreifftiau o'r math hwn yw:
Mae’r polisi hwn yn addas ar gyfer y diben o ran ei fod yn bodloni gofynion sefydliadol ac yn cydymffurfio â mesurau rheoli fel yr argymhellir o dan ganllawiau ‘Protect’ y Fframwaith Seiberddiogelwch gan y Sefydliad Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg (SCSTh), yn benodol, PR.IP-3 ‘Prosesau Rheoli Newid Cyfluniad ar waith', â’r argymhellion a ddarparwyd gan y Ganolfan Genedlaethol Seiberddiogelwch mewn perthynas â rheoli ffurfweddu newid.
Mae’r Heddlu’n cydymffurfio â’r deddfwriaethau canlynol a phob deddfwriaeth arall fel y bo’n briodol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny):
Polisïau, safonau, gweithdrefnau ac arferion cysylltiedig, gan gynnwys Gweithdrefnau a Safonau Diogelwch Gwybodaeth Heddlu Dyfed-Powys, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny
Perchennog y Polisi: Mae’r polisi hwn yn eiddo i’r Pennaeth TGCh, sy’n gyfrifol am fonitro’r polisi’n rheolaidd ar gyfer ei effeithiolrwydd, heriau i’r polisi, unrhyw newidiadau i ganllawiau Sefydliad Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg/Canolfan Genedlaethol Diogelwch Seiber, ac unrhyw eitemau aneffeithlon mewn perthynas â gweithredu’r polisi hwn.
Y Broses Gymeradwyo: Y Bwrdd Sicrwydd Gwybodaeth sy’n cymeradwyo penderfyniadau ynglŷn â gweithredu’r polisi.
Y Canllaw Rheoli Newid TGCh: Mae’r canllaw hwn yn nodi’r gweithdrefnau a’r prosesau mewn perthynas â rheoli newid TGCh.
Mae’r gweithdrefnau a’r prosesau a nodir o fewn y Canllaw Rheoli Newid TGCh yn berthnasol i holl swyddogion ac aelodau staff yr heddlu, yn enwedig y rhai sy’n gysylltiedig ag unrhyw agwedd o newid TGCh o fewn Heddlu Dyfed-Powys. Ceisir cyfeiriad at oruchwylwyr a rheolwyr am gyngor a chanllawiau lle yr ystyrir hynny’n briodol.
Rolau allweddol a chyfrifoldebau:
Uwch Reolwyr Gweithredol TGCh |
Rheoli Newid |
Staff TGCh |
Cyflwyno ceisiadau newid, cyflawni ceisiadau a gymeradwywyd |
Mae’r egwyddorion Cod Moeseg yn berthnasol i’r polisi hwn.
Mae’r Adran TGCh yn monitro ac yn gweithredu newid mewn systemau TGCh; wrth gyflawni’r gwaith hwn, nodir ac ymatebir i unrhyw newidiadau croes sy’n tynnu sylw at unrhyw fethiannau yn y prosesau a’r gweithdrefnau a amlinellir yn y Canllaw Rheoli Newid TGCh. Byddant yn cael eu nodi ac yn cael sylw.
Cyfeirir unrhyw fethiannau sylweddol o fewn y gweithdrefnau a gynhwysir o fewn y Canllaw Rheoli Newid TGCh er ystyriaeth i Reolwyr TGCh.
Bydd canllawiau ac argymhellion gan sefydliadau perthnasol, gan gynnwys y Sefydliad Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg a’r Ganolfan Genedlaethol Diogelwch yn cael eu hystyried mewn perthynas â diwygio/diweddaru’r polisi hwn.
Adolygir y polisi hwn yn flynyddol.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Ionawr 2024