Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyflwyniad
Mae Deddf Diogelu Data 2018 yn amlinellu’r gofyniad ar gyfer rhoi Dogfen Bolisi Briodol mewn grym wrth brosesu data categori arbennig (CA) a thramgwydd troseddol (TT) o dan rhai amodau penodol, ac wrth brosesu data personol sensitif ar gyfer dibenion gorfodi’r gyfraith (GG).
Mae Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU yn diffinio data CA fel data sy’n:
gyda diffiniad cyfwerth o brosesu sensitif ar gael dan Ran 3 Deddf Diogelu Data 2018.
Mae’r term TT yn cwmpasu amrediad eang o wybodaeth, gan gynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny:
Er mwyn prosesu data CA a TT yn gyfreithlon, rhaid nodi sail gyfreithiol Erthygl 6 Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU, a rhaid nodi amod Erthygl 9 ar wahân ar gyfer prosesu hefyd ar gyfer data CA.
Lle mae prosesu data CA yn dibynnu ar un o’r seiliau cyfreithiol canlynol, fel y disgrifir yn Erthygl 9 Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU, mae adran 10 Deddf Diogelu Data 2018 yn mynnu bod yn rhaid i’r prosesu fodloni amod yn Atodlen 1 Deddf Diogelu Data 2018 hefyd:
Mewn sawl achos, mae angen DBB mewn grym arnoch hefyd er mwyn bodloni amod Atodlen 1 y DU ar gyfer prosesu yn Neddf Diogelu Data 2018.
Lle mae prosesu data personol ar gyfer unrhyw un o’r dibenion gorfodi’r gyfraith yn brosesu sensitif, yn seiliedig ar gydsyniad yr unigolyn neu amod o fewn Atodlen 8, mae Adran 35 (4) a (5) Deddf Diogelu Data 2018 yn mynnu y bydd gan y Rheolydd Ddogfen Bolisi Briodol mewn grym.
Mae’r Ddogfen Bolisi Briodol hon wedi’i bwriadu i ategu cofnod cyffredinol Heddlu Dyfed-Powys o brosesu dan Erthygl 30 Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU ac yn darparu data categori arbennig a thramgwydd troseddol ag atebolrwydd a diogelwch pellach. Mae’n arddangos bod prosesu data categori arbennig a thramgwydd troseddol yn seiliedig ar amodau Atodlen 1 penodol yn cydymffurfio â gofynion egwyddorion Erthygl 5 Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU. Y mae hefyd yn arddangos bod prosesu data sensitif ar gyfer dibenion gorfodi’r gyfraith yn cydymffurfio â gofynion Rhan 3 adran 42 Deddf Diogelu Data 2018.
Bydd y Ddogfen Bolisi hon hefyd yn cynnwys:
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn adolygu’r Ddogfen Bolisi Briodol hon ac yn ei chadw am 6 mis ar ôl i’r prosesu perthnasol ddod i ben. Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â Pholisi Diogelu Data a Dogfen Ganllaw’r Heddlu.
Mae’n berthnasol ar gyfer y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Pob categori o swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, boed yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr), staff ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion heddlu, staff a gwirfoddolwyr
|
Disgrifiad o’r data a brosesir |
|
Mae manylion am y mathau o ddata personol yr ydym yn prosesu yn ein hysbysiad preifatrwydd. Cewch hyd i’n hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/hyg/fpndyfed-powys/hysbysiad-preifatrwydd/. |
|
Amod ar gyfer prosesu atodlen 1 |
|
Mae adran 10 Deddf Diogelu Data 2018 yn mynnu bod yn rhaid i’r prosesu fodloni amod yn Atodlen 1 Deddf Diogelu Data 2018 pan mae prosesu data CA yn dibynnu ar un o’r seiliau cyfreithiol canlynol, fel y disgrifir yn Erthygl 9 Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU: · Erthygl 9 (b) Cyflogaeth, nawdd cymdeithasol ac amddiffyniad cymdeithasol · Erthygl 9 (g) Budd cyhoeddus sylweddol · Erthygl 9 (h) Iechyd a gofal cymdeithasol · Erthygl 9 (i) Iechyd cyhoeddus · Erthygl 9 (j) Archifo, ymchwil ac ystadegau Os yw’r Heddlu’n dibynnu ar amodau (b), (h), (i) neu (j), byddwn hefyd yn sicrhau ein bod ni’n bodloni’r amod cysylltiedig yng nghyfraith y DU, a nodir yn Rhan 1 Atodlen 1 Deddf Diogelu Data 2018. Os yw’r Heddlu’n dibynnu ar yr amod budd cyhoeddus sylweddol yn Erthygl 9(2)(g), byddwn hefyd yn sicrhau ein bod ni’n bodloni un o’r 23 amod budd cyhoeddus penodol a nodir ym mharagraffau 6 i 28 Atodlen 1 Deddf Diogelu Data 2018: 6. Dibenion statudol a llywodraethol
|
|
Amod Atodlen 8 neu Gydsyniad ar gyfer prosesu |
|
Pan mae’r Heddlu’n ymgymryd â ‘phrosesu sensitif’: bydd y prosesu’n gwbl ofynnol ar gyfer y diben gorfodi’r gyfraith, a bydd naill ai’n seiliedig ar gydsyniad neu’n bodloni un o’r amodau canlynol yn Atodlen 8 Deddf Diogelu Data 2018: - Dibenion statudol ac ati - Gweinyddu cyfiawnder - Diogelu diddordebau hanfodol unigolyn - Diogelu plant ac unigolion sydd mewn perygl - Data personol sydd eisoes ar gael yn gyhoeddus - Hawliau cyfreithiol - Gweithredoedd barnwrol - Atal twyll - Archifo ac ati
|
|
Gweithdrefnau ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth â’r egwyddorion |
|
Egwyddor Atebolrwydd |
|
Mae’r Heddlu’n deall y gofyniad i gael polisïau priodol mewn grym. Mae gennym y polisi Diogelu Data, y polisi Torri Rheoliadau Diogelu Data a’r ddogfen ganllaw gysylltiedig mewn grym. Mae gennym y polisi AEDD, dogfen dempled, dogfen ganllaw a phroses gyffredinol mewn grym hefyd. Mae hyn yn sicrhau bod AEDD yn cael eu cynnal ar gyfer dibenion data personol sydd, yn arbennig, yn debygol o arwain at berygl uwch i fuddiannau unigolion. Mae’r Heddlu hefyd yn cynnal rhaglen Archwilio Cydymffurfiaeth â Rheoliadau Diogelu Data sy’n sicrhau bod data’n cael ei brosesu yn unol â deddfwriaeth diogelu data’r DU a’r egwyddorion a amlinellir ynddo.
|
|
Egwyddor (1): cyfreithlondeb a thegwch |
|
Prosesu Gorfodi’r Gyfraith |
|
Mae’r Heddlu’n deall fod yn rhaid i brosesu data personol ar gyfer unrhyw un o’r dibenion gorfodi’r gyfraith fod yn gyfreithlon a theg. Mae cyfreithlondeb prosesu sensitif a gynhelir gan yr Heddlu’n deillio o’i swyddogaethau swyddogol fel corff cyhoeddus ac oblygiadau neu hawliau a osodir neu a gyflwynir yn ôl y gyfraith fel cyflogwr. Bydd y prosesu’n gwbl ofynnol ar gyfer y diben o orfodi’r gyfraith, ac yn seiliedig ar gydsyniad neu’n bodloni un o’r amodau yn Atodlen 8 Deddf Diogelu Data 2018, fel y nodir uchod. Wrth ddibynnu ar gydsyniad, byddwn yn sicrhau bod cydsyniad yn ddilys ac yn cydymffurfio’n llwyr â’r diffiniad a ddarperir yn neddfwriaeth diogelu data’r DU.
|
|
Prosesu Cyffredinol |
|
Mae’r Heddlu’n deall bod yn rhaid i ddata categori arbennig a thramgwydd troseddol gael ei brosesu’n gyfreithlon, teg a thryloyw mewn perthynas â’r gwrthrych data. Lle mae prosesu sensitif yn cael ei gyflawni gan yr Heddlu ar gyfer dibenion plismona gweithredol NAS rhagnodwyd ar eu cyfer o dan Rhan 3 y Ddeddf Diogelu Data, bydd y prosesu’n dibynnu ar un o’r seiliau cyfreithiol canlynol o Erthygl 9 Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU ac yn bodloni amod perthnasol o Atodlen 1 Deddf Diogelu Data 2018: · Erthygl 9 (a) Cydsyniad · Erthygl 9 (c) Diogelu buddiannau hanfodol · Erthygl 9 (e) Yn amlwg wedi’i wneud yn gyhoeddus gan y gwrthrych data · Erthygl 9 (f) Sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliau cyfreithiol · Erthygl 9 (g) Diddordeb cyhoeddus sylweddol Atodlen 1, Rhan 2 (6): Dibenion llywodraethol a statudol Atodlen 1, Rhan 2 (7): Gweinyddu cyfiawnder a dibenion seneddol Atodlen 1, Rhan 2 (8): Cydraddoldeb o ran Cyfle neu driniaeth Atodlen 1, Rhan 2 (9): Amrywiaeth Hiliol neu Ethnig ar lefelau uwch y sefydliad Atodlen 1, Rhan 2 (10): Atal neu ddatrys gweithredoedd anghyfreithlon Atodlen 1, Rhan 2 (11): Amddiffyn y cyhoedd yn erbyn diffyg gonestrwydd Atodlen 1, Rhan 2 (12): Gofynion rheoleiddiol sy’n ymwneud â gweithredoedd anghyfreithlon a diffyg gonestrwydd Atodlen 1, Rhan 2 (14): Atal twyll Atodlen 1, Rhan 2 (18): Diogelu plant ac unigolion sydd mewn perygl Atodlen 1, Rhan 2 (19): Diogelu lles economaidd unigolion penodol · Erthygl 9 (j) Archifo, ymchwil ac ystadegau Atodlen 1, Rhan 1 (4): Ymchwil Lle mae prosesu data categori arbennig a thramgwydd troseddol yn cael ei gyflawni gan yr Heddlu ar gyfer dibenion nad ydynt yn ymwneud â phlismona gweithredol ond yn bennaf fel cyflogwr, byddwn yn dibynnu ar y seiliau cyfreithiol canlynol o Erthygl 9 Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU ac Atodlen 1 Deddf Diogelu Data 2018: · Erthygl 9 (a) Cydsyniad · Erthygl 9 (b) Cyflogaeth, nawdd cymdeithasol ac amddiffyniad cymdeithasol Atodlen 1, Rhan 1 (1): Cyflogaeth, nawdd cymdeithasol a diogelwch cymdeithasol · Erthygl 9 (h) Iechyd a gofal cymdeithasol Atodlen 1, Rhan 1 (2): Dibenion iechyd neu ofal cymdeithasol · Erthygl 9 (f) Sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliau cyfreithiol · Erthygl 9 (j) Archifo, ymchwil ac ystadegau Atodlen 1, Rhan 1 (4): Ymchwil Mae gwybodaeth bellach ar gael yn ein hysbysiad preifatrwydd. Cewch hyd i’n hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/hyg/fpndyfed-powys/hysbysiad-preifatrwydd/. Yr ydym yn sicrhau ein bod ni’n agored ac onest pan fyddwn yn casglu data categori arbennig a thramgwydd troseddol, ac nid ydym yn twyllo nac yn camarwain pobl ynglŷn â’i ddefnydd. |
|
Egwyddor (2): cyfyngiad diben |
|
Prosesu Gorfodi’r Gyfraith |
|
Mae’r Heddlu’n deall fod dibenion GG wedi’u diffinio o dan ddeddfwriaeth diogelu data’r DU fel dibenion atal, ymchwilio, datrys neu erlyn tramgwyddau troseddol neu weithredu cosbau troseddol, gan gynnwys atal a diogelu yn erbyn bygythiadau i ddiogelwch y cyhoedd. Mae dibenion GG yr Heddlu, ar gyfer pa rai y mae data personol yn cael ei gasglu ar unrhyw achlysur, yn benodol, eglur a chyfreithlon. Nid yw’r Heddlu’n prosesu data personol mewn modd sy’n anghydnaws â’r diben y cafodd ei gasglu. Gall data personol sy’n cael ei gasglu gan yr Heddlu, ar gyfer diben GG, gael ei brosesu ar gyfer unrhyw ddiben gorfodi’r gyfraith arall – ar yr amod ei fod wedi’i awdurdodi yn ôl y gyfraith, mae’r prosesu’n ofynnol ac yn gymesur i’r diben arall hwnnw, ac mae’n bodloni gofynion Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU a Deddf Diogelu Data 2018.
|
|
Prosesu Cyffredinol |
|
Mae’r Heddlu’n deall fod yn rhaid casglu data ar gyfer dibenion penodol, eglur a chyfreithlon ac ni fydd yn prosesu’r data hwnnw ymhellach mewn modd sy’n anghydnaws â’r dibenion hynny. Bydd yr Heddlu ond yn ailddefnyddio data categori arbennig a thramgwydd troseddol a gasglwyd o dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU lle mae’r defnydd pellach hwnnw’n gydnaws â’r diben gwreiddiol y cafodd ei gasglu.
|
|
Egwyddor (3): lleihau data |
|
Gorfodi’r Gyfraith a Phrosesu Cyffredinol |
|
Bydd yr Heddlu’n sicrhau y bydd data categori arbennig a thramgwydd troseddol, a data personol a brosesir ar gyfer unrhyw un o’r dibenion GG, yn ddigonol a pherthnasol, ac na fydd yn ormodol mewn perthynas â’r diben y mae’n cael ei brosesu. Bydd yr Heddlu ond yn casglu data personol sydd ei angen ar gyfer ein diben penodol ac yn sicrhau ei fod yn gymesur. Mae hyfforddiant, canllawiau a pholisïau’r heddlu hefyd yn mynnu bod staff ond yn prosesu’r data lleiaf sydd angen ar gyfer cyflawni’r diben penodol. Drwy raglen Archwilio Cydymffurfiaeth â Rheoliadau Diogelu Data’r Heddlu, yr ydym hefyd yn adolygu data CA ac yn sicrhau y glynir wrth bolisïau cadw a dileu.
|
|
Egwyddor (4): cywirdeb |
|
Gorfodi’r Gyfraith a Phrosesu Cyffredinol |
|
Mae’r Heddlu’n deall fod yn rhaid i ddata personol sy’n cael ei brosesu ar gyfer unrhyw ddiben arall (gan gynnwys diben GG) fod yn gywir, a, lle bo’n ofynnol, yn cael ei ddiweddaru. Byddwn yn sicrhau y cymerir pob cam rhesymol i sicrhau fod data personol sy’n anghywir yn cael ei ddileu neu ei ddiwygio’n ddi-oed, gan ystyried y dibenion (gan gynnwys GG) i ba rai y mae’n cael ei brosesu. Pan mae’r Heddlu’n prosesu data personol ar gyfer unrhyw un o’r dibenion GG, bydd modd gwahaniaethau rhwng data personol sy’n seiliedig ar ffeithiau a data personol sy’n seiliedig ar asesiadau personol, hyd y gellir. Bydd yr Heddlu hefyd yn sicrhau, lle bo’n berthnasol a hyd y gellir, y gellir diffinio’n glir rhwng categorïau gwrthrych data gwahanol, megis drwgdybiedigion, troseddwyr sydd wedi’u heuogfarnu, dioddefwyr a thystion. Bydd datblygu a chaffael systemau Rheoli Gwybodaeth yn yr Heddlu’n mynnu bod diogelu data’n rhan annatod o brosesau o’r fath. Bydd yr Heddlu hefyd yn cymryd camau rhesymol i sicrhau nad oes unrhyw ddata personol sy’n anghywir, yn anghyflawn neu’n hen yn cael ei ddatgelu. Os canfyddir bod y data’n anghywir ar ôl ei ddatgelu, bydd yr Heddlu’n hysbysu’r derbynnydd cyn gynted â phosibl. Os oes unigolyn yn cysylltu â’r Heddlu i gwestiynu cywirdeb ei ddata, bydd yn ymateb i geisiadau o’r fath yn unol ag Erthygl 16 Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU/Adran 46 Deddf Diogelu Data 2018. Lle mae’r Heddlu’n penderfynu peidio â dileu neu ddiwygio’r data, bydd yn dogfennu’r penderfyniad hwn. Bydd ceisiadau ar gyfer diogelu unrhyw wybodaeth bersonol ond yn cael eu hystyried unwaith y mae’r Heddlu’n hollol fodlon bod yr holwr neu’r derbynnydd wedi’i adnabod ac wedi’i awdurdodi i dderbyn y wybodaeth. Rhestrir ffynonellau data personol yn ein hysbysiad preifatrwydd sydd ar gael i’w ddarllen ar ein gwefan: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/hyg/fpndyfed-powys/hysbysiad-preifatrwydd/. |
|
Egwyddor (5): cyfyngiad cadw |
|
Gorfodi’r Gyfraith a Phrosesu Cyffredinol |
|
Mae’r Heddlu wedi ymrwymo i wella rheoli cofnodion er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rheoli drwy gydol ei chylch bywyd mewn ffordd systematig, effeithiol a chost effeithlon. Yn benodol, mae’n cynnig ffordd o weithredu rheoliadau i wybodaeth er mwyn cynnal ei phwysau tystiolaethol a sicrhau ei dilysrwydd, argaeledd ac unplygrwydd. Cedwir data CA, TT a phersonol a brosesir ar gyfer diben cyffredinol a diben gorfodi’r gyfraith yn unig. Bydd yr Heddlu’n ystyried y cyfnodau cadw ar gyfer data sensitif, a’r diben y mae’n cael ei brosesu, yn ofalus. Bydd adolygiad cyfnodol o gyfnodau cadw’n cael ei gynnal gan yr Heddlu er mwyn cyfiawnhau’r angen ar gyfer cadw data o’r fath yn unol â Chanllawiau Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ar y Safonau Lleiaf ar gyfer Cadw a Chael Gwared ar Gofnodion yr Heddlu (Adran 23 y Rheolau Sefydlog).
|
|
Egwyddor (6): unplygrwydd a chyfrinachedd / diogelwch |
|
Mae Adran 2 Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU ac Adrannau 66-68 Deddf Diogelu Data 2018 yn cynnwys y gofynion ar gyfer diogelwch data personol i gynnwys gweithredu mesurau sefydliadol a thechnegol priodol i gynnwys lefel o ddiogelwch sy’n briodol ar gyfer y peryglon sy’n deillio o brosesu data personol. Bydd mesurau diogelwch sefydliadol a thechnegol priodol yr Heddlu yn cynnwys: · Defnyddio a datblygu datrysiadau technolegol i sicrhau cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth diogelu data · Defnyddio a datblygu mesurau corfforol ar gyfer diogelu asedau’r heddlu · Sicrhau dibynadwyedd unrhyw un sydd â mynediad at wybodaeth yr heddlu · Adrodd am achosion o dorri rheoliadau diogelwch ac ymchwilio iddynt Mae’r oblygiadau hyn yn cynnwys yr angen ar gyfer ystyried natur y data i’w ddiogelu a’r niwed a allai ddeillio o brosesu anghyfreithlon neu anawdurdodedig o’r fath, colled damweiniol, difa neu ddifrod. Mae Dosbarthiadau Diogelwch y Llywodraeth yn darparu ar gyfer ystyriaethau o’r fath ac mae’r Heddlu wedi’u mabwysiadu fel rhan o’i gydymffurfiaeth â Pholisi Diogelwch Cymunedol Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu.
|
|
Polisïau cadw a dileu |
|
Cadw a dileu |
|
Nid yw’r Heddlu’n cadw data personol am fwy o amser nag sydd rhaid. Mae cadw a chael gwared ar ddogfennau’n unol â chanllawiau a sefydlwyd gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu yn ei Ganllawiau Cenedlaethol ar y Safonau Lleiaf ar gyfer Cadw a Chael Gwared ar Gofnodion Heddlu (Adran 23 y Rheolau Sefydlog). Yn ogystal, amlinellir gofynion cadw o dan Arferion Awdurdodedig Proffesiynol y Coleg Plismona – Rheoli Gwybodaeth – Adolygu Cadw a Gwaredu – Adran 3.4.
|
Yn achos unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’r polisi hwn a’i gynnwys, dylai unigolion gysylltu â’r canlynol:
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: 2025