Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Llywodraethu a Safonau
Mae Portffolio Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu’n ffurfio rhan o’r Portffolio Cudd-wybodaeth o fewn Maes Busnes Trosedd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu. Arweinir Portffolio Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu gan Brif Gwnstabl sydd ag awdurdod dirprwyedig gan y Cyngor Prif Gwnstabliaid ar gyfer rheoli’r holl fusnes Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig cenedlaethol o fewn plismona. Cefnogir Arweinydd Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu gan Reolwr Gallu Strategol Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, sy’n rheoli’r portffolio Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig cenedlaethol ar ei ran.
Grŵp strategol cenedlaethol yw’r Grŵp Arweinyddiaeth Gallu Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig sy’n cael ei gadeirio gan Arweinydd Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ac sy’n gweithredu fel grŵp cyfeirio uwch ar gyfer datblygu galluoedd Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig strategol, gan gynnwys systemau ac isadeiledd technegol. Mae’r Grŵp Arweinyddiaeth Gallu Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig yn darparu goruchwyliaeth strategol a arweinir gan yr heddlu o ran cyflenwi’r Fframwaith Gallu Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig Cenedlaethol.
Mae’r Grŵp Optimeiddio Gallu Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig cenedlaethol yn adrodd wrth y Grŵp Arweinyddiaeth Gallu Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig ac yn darparu goruchwyliaeth amlasiantaeth ar lefel weithredol gallu Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig cenedlaethol. Fe’i cefnogir gan weithgorau, sy’n cynnwys arbenigwyr testun pwnc Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig, Cadeiryddion Rhanbarthol ac aelodau cynrychioladol Asiantaethau Gorfodi’r Gyfraith sy’n cynrychioli eu heddlu neu eu rhanbarth.
Mae Grŵp Gallu Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig Rhanbarthol Cymru’n adrodd wrth y Grŵp Optimeiddio Gallu Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig ac yn dod â’r pedwar heddlu yng Nghymru (Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru), ynghyd ag asiantaethau partner, at ei gilydd er mwyn cydlynu cyflenwi’r Strategaeth Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig Genedlaethol (2025-2028) a’r prosiect Gwasanaeth Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig Cenedlaethol i gefnogi’r gallu Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig Cenedlaethol o ran diogelu’r cyhoedd, lleihau trosedd a dwyn troseddwyr i gyfiawnder.
Pennir rheolaeth strategol gallu Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig Heddlu Dyfed-Powys (HDP) gan Grŵp Strategol Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig HDP, sy’n cael ei gadeirio gan y Cyfarwyddwr Cudd-wybodaeth, sef arweinydd strategol yr heddlu. Mae cynrychiolaeth ar y grŵp yn cynnwys arbenigwyr Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig, yr Adran Gweithrediadau Arbenigol, Swyddfa Gudd-wybodaeth yr Heddlu, Dadansoddw(y)r Gwybodaeth a Chudd-wybodaeth yr Heddlu, TGCh a’r Adran Gyllid. Mae’r Grŵp yn gosod yr amcanion strategol a thactegol, gan gadarnhau bod cynigion datblygu’n briodol a chymesur, ac yn gymesur â datblygiad polisi strategol rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’r grŵp yn adrodd wrth Fwrdd Cyllid a Strategaeth HDP.
O fewn Heddlu Dyfed-Powys, y Prif Gwnstabl Cynorthwyol yw’r Prif Swyddog arweiniol sydd â chyfrifoldeb cyffredinol o fewn yr Heddlu ar gyfer darpariaeth Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig. Mae’r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys darpariaeth monitro system, gan gynnwys Safonau Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig Cenedlaethol ar gyfer Plismona a Gorfodi’r Gyfraith, cydymffurfiaeth a sicrhau bod aelodau staff wedi’u hyfforddi’n briodol yn unol â’u hanghenion.
Mae’r Safonau Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig Cenedlaethol ar gyfer Plismona a Gorfodi’r Gyfraith yn disgrifio’r safonau y mae angen eu bodloni ar gyfer datblygiad a defnydd systemau Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith. Mae polisi Heddlu Dyfed-Powys ar gyfer datblygu Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig yn gyson â’r Safonau Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig Cenedlaethol ar gyfer Plismona a Gorfodi’r Gyfraith. Rhoddir manylion am y defnydd o Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig o fewn Heddlu Dyfed-Powys yn y ddogfen Gweithdrefnau Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig.
Mae datblygiad isadeiledd yn unol â’r Safonau Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig Cenedlaethol ar gyfer Plismona a Gorfodi’r Gyfraith, ac mae pob cynnig ar gyfer isadeiledd newydd yn cael ei gyflwyno i Grŵp Strategaeth Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig yr Heddlu, sy’n ystyried yr asesiad strategol a’r asesiad o’r effaith ar breifatrwydd ac yn cydbwyso amddiffyn y cyhoedd â hawliau a disgwyliadau cyfreithlon preifatrwydd unigol. Mae angen cymeradwyaeth y grŵp hwn cyn bod unrhyw ddatblygiad yn cael ei gyflwyno i’r Bwrdd Cyllid a Strategaeth, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol.
Mae Grŵp Strategaeth Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig yr Heddlu’n sicrhau bod trefniadau mewn grym ar gyfer adolygu lleoliadau pob Dyfais Darllen Platiau Rhif sy’n cyflwyno data i’r system Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig unwaith y flwyddyn o leiaf er mwyn sicrhau bod y lleoliad dal yn addas a chymesur.
Cwblheir Asesiadau o’r Effaith ar Ddiogelu Data ar gyfer pob lleoliad camera sefydlog, sy’n cael eu hadolygu’n flynyddol.
Lleolir systemau Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig wedi’u gosod mewn cerbydau yn unol â’r Safonau Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig Cenedlaethol ar gyfer Plismona a Gorfodi’r Gyfraith sy’n ymwneud â lleoli systemau wedi’u gosod mewn cerbydau.
Defnyddir Consol Hysbysu Uniongyrchol sy’n anfon hysbysiadau am gerbydau o ddiddordeb i Derfynellau Data Symudol. Mae’r cyfleuster hwn ond yn anfon hysbysiadau ac nid oes ganddo alluoedd chwilio. Mae’n cydymffurfio â Safonau ANPR Cenedlaethol ar gyfer Plismona a Gorfodi’r Gyfraith.
Bydd unrhyw leoliad system Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig ar gyfer cefnogi ymateb gweithredol yn dilyn adroddiad am drosedd neu ddigwyddiad ond yn cael ei wneud ar awdurdod Arolygydd/Goruchwylydd Ystafell Reoli’r Heddlu, a bydd cofnod o’r awdurdod hwnnw’n cael ei wneud o fewn y log digwyddiadau.
Bydd Comanderiaid Ardaloedd Plismona Lleol (URS) yn sicrhau bod y defnydd o Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig wedi’i fewnosod ym mhrosesau tactegol a strategol yr heddlu.
Bydd URS yn sicrhau bod y defnydd o ANPR wedi'i fewnosod ym mhrosesau tactegol a strategol ur heddlu.
Diben cyffredinol y polisi hwn yw gwireddu manteision defnyddio Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig mewn perthynas â:
Mae’n berthnasol ar gyfer y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau Swyddogion a Staff Heddlu Dyfed-Powys, pa un ai a ydynt yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr) staff sydd ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i bob swyddog, aelod staff a gwirfoddolwr sy’n cael gafael ar asedau ac eiddo’r Heddlu a’u defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu yw’r brif gronfa ddata ar gyfer cefnogi ymateb gweithredol. Pryd bynnag y bo’n bosibl, defnyddir dolen ‘fyw’ Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu. Darperir ffeil echdynnu Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu 3 gwaith bob 24 awr; bydd yr Rheolwr Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig yn sicrhau ei bod yn cael ei llwytho ar y system Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig ar ôl ei derbyn.
O fewn ffeiliau Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu, yr adroddiad ACT yw’r brif gronfa ddata. Defnyddir y gronfa ddata hon er mwyn cylchredeg unrhyw gerbyd o ddiddordeb sy’n bodloni’r meini prawf o fewn rheolau busnes Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu. Bydd yn cael ei monitro 24/7 o fewn Ystafell Reoli Heddlu Dyfed-Powys a bydd adnoddau’n cael eu defnyddio fel y bo’n briodol. Pennir adroddiadau ACT fel rhai blaenoriaeth uchel, isel a chanolig.
Bydd yr aelod staff sy’n creu rhestr o gerbydau o ddiddordeb yn sicrhau bod y wybodaeth ynddi’n gywir, o berthnasedd cyfredol ac yn y ffurf a bennir o fewn y Safonau Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig Cenedlaethol ar gyfer Plismona a Gorfodi’r Gyfraith.
Bydd yr Rheolwr Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig yn monitro creu, defnyddio a chynnal rhestri lleol o gerbydau o ddiddordeb ar gyfer dibenion ymateb gweithredol, gan adrodd am bryderon wrth yr Arweinydd Strategol fel y bo’n briodol.
Bydd yr Arweinydd Strategol yn sicrhau bod trefniadau mewn grym i fonitro creu, defnyddio a chynnal rhestr o gerbydau o ddiddordeb ar gyfer dibenion monitro cudd-wybodaeth.
Gwerthuso Perfformiad
Mae’r Rheolwr Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig yn gyfrifol am fonitro perfformiad holl gydrannau’r Isadeiledd Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig. Asesir perfformiad Dyfais Darllen Plat Rhif wrth ei gosod, ac ar ôl hynny, o leiaf unwaith y flwyddyn ar gyfer pob Dyfais Darllen Plat Rhif sy’n darparu delweddau ategol a bob 6 mis ar gyfer rhai sydd ddim yn darparu delweddau yn unol â Rhan 2 Paragraff 12 y Safonau Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig Cenedlaethol ar gyfer Plismona a Gorfodi’r Gyfraith.
Mynediad at Ddata
Mae’r Arweinydd Strategol, ynghyd â’r Rheolwr Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig, yn atebol am awdurdodi aelodau staff a allai gael mynediad at ddata Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig. Mae’r Arweinydd Strategol yn sicrhau bod cofnod o aelodau staff awdurdodedig yn cael ei gynnal a bod awdurdod yn cael ei adolygu, ei ddiwygio neu ei ganslo wrth i rolau newid, fel y bo’n briodol. Rhaid i lefel y mynediad a ganiateir bob amser fod yn briodol i’w rôl.
Unwaith y caniateir mynediad, cynghorir staff ynglŷn â’u lefel mynediad a rhoddir y ddogfen Canllawiau a Defnydd o’r System Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig ddiweddaraf iddynt, sy’n dweud wrth ddefnyddwyr bod angen iddynt roi digon o wybodaeth i gyfiawnhau pob chwiliad o’r system Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig, a’u bod ond yn medru cael mynediad i’r system ar gyfer diben plismona. Mae defnyddwyr yn ymwybodol y gellir gofyn iddynt gyfiawnhau eu defnydd o’r system ar unrhyw adeg yn y dyfodol.
Rhaid i staff sy’n cael mynediad at ddata Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig sicrhau bod y mynediad yn briodol ym mhob achos, gan ystyried y Safonau Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig Cenedlaethol ar gyfer Plismona a Gorfodi’r Gyfraith, a’i fod wedi’i awdurdodi’n briodol pan fod angen. Rhaid gwneud cais ar gyfer unrhyw ddata chwilio’r system Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig dros 90 diwrnod ar y Ffurflen Chwilio Data Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig a rhaid i swyddog o reng Arolygydd neu uwch awdurdodi’r cais. Bydd copi o’r cais ysgrifenedig a’r awdurdodiad yn cael ei ffeilio a’i gadw yn unol â chanllawiau Rheoli Gwybodaeth yr Heddlu. Bydd staff sydd â mynediad at y system Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig am fwy na 90 diwrnod yn cael eu cyfyngu a’u hadolygu’n rheolaidd. Bydd archwiliad o chwiliadau dros 90 diwrnod yn cael ei gwblhau’n rheolaidd.
Rhaid i staff sy’n awdurdodi mynediad at ddata Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig sicrhau bod mynediad yn gymesur ac er budd cyfiawnder ym mhob achos, gan ystyried y Ddeddf Diogelu Data a darpariaethau mynediad at ddata’r Safonau Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig Cenedlaethol ar gyfer Plismona a Gorfodi’r Gyfraith.
Defnydd Tystiolaethol a Datgelu Data
Defnyddir data Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig ar gyfer dibenion gorfodi’r gyfraith o ran atal, datrys neu erlyn tramgwyddau troseddol ac mae ganddo ran arwyddocaol i’w chwarae mewn perthynas â dwyn troseddwyr i gyfiawnder. Bydd datgelu data Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig yn unol â chanllawiau cenedlaethol Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu.
Archwilio a Sicrhau Ansawdd
Bydd yr Arweinydd Strategol yn sicrhau y cynhelir cofnod o fynediad at ddata Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig gan ei staff, gan gynnwys y rheswm dros y mynediad hwnnw a manylion unrhyw awdurdodiad o’r mynediad hwnnw lle bydd angen. Bydd mynediad at ddata Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig yn cael ei archwilio’n rheolaidd, a chedwir cofnod o’r holl weithgarwch archwilio yr ymgymerir ag ef. Bydd yr Arweinydd Strategol yn sicrhau cydymffurfiaeth â’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cydymffurfiaeth ac Archwiliad o Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig ar gyfer Gorfodi’r Gyfraith.
Lle mae Rheolwr Data o asiantaeth gorfodi’r gyfraith arall wedi cael mynediad at ddata, darperir y Data i’r Rheolwr Data hwnnw ar gais, yn amodol ar fodloni’r amodau priodol.
Bydd manylion archwiliadau yr ymgymerir â nhw ar gael i’r Comisiynydd Gwybodaeth, y Comisiynydd Camerâu Gwyliadwriaeth a’r Swyddfa Gartref ar gais.
Ar gyfer ceisiadau mewnol am chwiliadau ar ddata a gipiwyd sydd wedi bod ar y system ers dros 90 diwrnod, rhaid cwblhau ffurflen Cais am Ddata Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig a’i chyflwyno i Swyddfa Gudd-wybodaeth yr Heddlu.
Caffael
Cyfrifoldeb y Rheolwr Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig yw caffael offer Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig newydd. Rhaid bod cyflenwyr offer newydd yn medru bodloni’r Heddlu bod unrhyw offer Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig newydd yn cydymffurfio â’r fersiwn gyfredol o’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cydymffurfiaeth ac Archwiliad o Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig ar gyfer Gorfodi’r Gyfraith. Bydd derbyn offer o’r fath yn amodol ar werthusiad a chymeradwyaeth y Rheolwr Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig. Bydd offer newydd a phresennol yn ddarostyngedig i werthusiad blynyddol a fydd yn cael ei gynnal gan y Rheolwr Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth barhaus â gofynion perfformiad y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cydymffurfiaeth ac Archwiliad o Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig ar gyfer Gorfodi’r Gyfraith.
Cyfrifoldeb Grŵp Strategaeth Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig yr Heddlu fydd goruchwylio prynu offer, newidiadau, diweddariadau a chostau cysylltiedig. Bydd y defnydd tactegol a strategol o Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig hefyd yn destun adolygiad rheolaidd gan y Grŵp.
Diogelwch Systemau
Mae mynediad at y Swyddogaeth Swyddfa Gefn wedi’i gyfyngu i staff hyfforddedig ac awdurdodedig, yn unol â gofynion cyfredol y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cydymffurfiaeth ac Archwiliad o Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig ar gyfer Gorfodi’r Gyfraith. Rhoddir caniatâd gweithredwr yn unol â rôl a swyddogaeth, sydd hefyd yn cael ei reoli gan Weinyddwyr y Swyddogaeth Swyddfa Gefn. Disgwylir i’r Rheolwr Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig archwilio mynediad defnyddwyr Swyddogaeth Swyddfa Gefn bob mis. Mae gan Adran TG yr Heddlu’r gallu i ganiatáu mynediad at y Swyddogaeth Swyddfa Gefn o bell hefyd i beirianwyr hysbys sydd wedi’u fetio’n addas wrth i bob angen godi. Ni chaniateir mynediad o bell agored a di-rwystr i’r Swyddogaeth Swyddfa Gefn.
Diogelu, Storio, Cadw a Defnyddio Data
Mae’r Heddlu wedi ymrwymo i sicrhau bod yr holl Ddata Darllen a Bwrw Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig yn cael ei storio a’i gadw o fewn y Swyddogaeth Swyddfa Gefn, yn unol â’r safonau lleiaf a osodir gan fersiwn gyfredol y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cydymffurfiaeth ac Archwiliad o Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig ar gyfer Gorfodi’r Gyfraith. Bydd storio, cadw a defnyddio’r holl ddata o’r fath yn gyson â gofynion Deddf Gweithdrefn ac Ymchwiliadau Troseddol 1996, Deddf Diogelu Data 1998, Deddf Hawliau Dynol 1998, a Chanllawiau Rheoli Gwybodaeth yr Heddlu.
Yn unol â Safonau Cenedlaethol Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, bydd data Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig yn cael ei gadw fel gwybodaeth fyw ar gyfer y cyfnodau isod: -
Ar hyn o bryd, nid yw Heddlu Dyfed-Powys yn rhannu ei ddata Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig y tu allan i’r Gwasanaeth Heddlu heblaw eu bod nhw’n asiantaeth gorfodi’r gyfraith sydd ag awdurdod i gael mynediad at y Gwasanaeth Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig cenedlaethol. Byddai pob mynediad arall yn ddarostyngedig i Gytundeb Rhannu Gwybodaeth, a sail gyfreithiol o dan y ddeddfwriaeth Diogelu Data, neu o dan ddeddfwriaeth arall lle mae’n ofynnol gwneud hynny yn ôl y gyfraith.
Polisïau, Protocolau, Arferion neu Gytundebau Gwasanaeth Cysylltiedig
Mae’r polisi hwn yn dilyn y safonau a nodir yn y Safonau Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig Cenedlaethol ar gyfer Plismona a Gorfodi’r Gyfraith. Mae’r ddogfen hon (Gorffennaf 2022 – f.24) ar gael fan hyn.
Bydd y Rheolwr Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig, gyda chymorth y tîm cyllid, yn cynnal Cofrestr Asedau o bob gosodiad camera Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig byw. Bydd y gofrestr hon yn disgrifio:
O dro i dro, bydd y gofrestr yn cael ei chysoni â Chofrestr Asedau Sefydlog yr Heddlu a’i chynnal gan y tîm Cyllid. Bydd gwahaniaethau’n cael eu hymchwilio a’u datrys heb unrhyw oedi gormodol.
Ychwanegiadau a Newidiadau
Bydd asedau newydd yn cael eu prynu’n unol ag arferion a pholisi caffael yr heddlu. Bydd y Rheolwr Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig, gyda chymorth y tîm cyllid, yn diweddaru’r Gofrestr Asedau fel bod y cofnod yn adlewyrchu’r offer presennol a’i leoliad.
Gwarediadau
Bydd y Rheolwr Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig, gyda chymorth y tîm Cyllid, yn diweddaru’r Gofrestr Asedau ar gyfer symud asedau a chael gwared arnynt. Cynhelir gwarediad corfforol yn unol ag arferion yr heddlu ar gyfer cael gwared ar asedau mewn modd rheoledig. Bydd yr Rheolwr Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig yn hysbysu’r tîm Cyllid heb oedi diangen o ran cael gwared ar asedau, gan gydnabod lle mae asedau’n cadw gwerth llyfr adeg gwaredu. Bydd hyn yn ffurfio tâl ar gyfer cyllidebau refeniw yn ystod y flwyddyn. Bydd gwarediadau’n cael eu hawdurdodi gan y Grŵp Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig Strategol hyd y bo’n ymarferol cyn cymryd camau ar gyfer gwaredu.
Safleoedd Isadeiledd Newydd
Bydd y Rheolwr Adnabod Rhifau Cerbydau’n Awtomatig, gyda chymorth y tîm Cyllid, yn diweddaru’r Gofrestr Asedau ar gyfer creu safleoedd isadeiledd newydd. Mae asedau a leolir yn y safleoedd newydd yn cael eu trin fel Ychwanegiadau ac Amnewidiadau fel uchod.
Nodir partïon perthnasol y polisi hwn isod:-
Mae’r polisi hwn yn cydymffurfio ag egwyddorion Cod Moeseg 2024 –
Bydd yr adolygiad ac unrhyw ddiwygiadau yn ystyried:
Y Cyfarwyddwr Adolygu Cudd-wybodaeth sy’n gyfrifol am adolygu cynnwys y polisi hwn. Bydd y polisi’n cael ei adolygu bob yn eilflwydd.
Dylid cyfeirio pob ymholiad mewn perthynas â’r polisi hwn at y Cyfarwyddwr Cudd-wybodaeth.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Tachwedd 2025